Mae deiseb wedi’i sefydlu i achub rhaglen Geraint Lloyd ar Radio Cymru, ac mae dros 200 o bobol wedi ei llofnodi hyd yn hyn.

Daeth y newyddion yn gynharach y mis yma y bydd ei raglen yn dod i ben ddechrau mis Hydref, ar ôl 25 mlynedd o ddarlledu ar Radio Cymru.

Geraint Lloyd sydd wedi bod ar y Shifft Hwyr ers 2012, a chyn hynny bu’n cyflwyno yn y prynhawniau a chyda’r nos.

Wrth siarad gyda golwg360, dywed y cyflwynydd ei bod yn “bach o sypreis” dod ar draws y ddeiseb ar Facebook fore heddiw (dydd Iau, Awst 18).

Gwerthfawrogi

“Ro’n i wedi bod yn recordio rhaglen Ar Eich Cais bore ’ma ac wedi digwydd sylwi ar Facebook,” meddai Geraint Lloyd.

“Do’n i ddim yn gwybod dim byd.

“Mae o’n neis iawn bod pobol yn meddwl cymaint o’r rhaglen.

“Roedd e’n bach o sypreis!

“Ro’n i’n siomedig bod y rhaglen yn gorffen ond mae’n amlwg bod pobol yn gwerthfawrogi beth fi’n gwneud.”

Colled i ni ac i Radio Cymru

Mae unigolion wedi bod yn gadael negeseuon yn dathlu’r rhaglen wrth lofnodi’r ddeiseb.

“Rhaglen grêt, llawn hiwmor a chysondeb cynnwys da. Cadw Geraint yw’r dewis iawn!” meddai un llofnodwr.

“Mae rhaglen Geraint Lloyd yn un lwyddiannus a phoblogaidd. Byddai ei cholli yn golled fawr i nifer sylweddol ohonon ni. Byddai ei cholli yn golled i Radio Cymru,” meddai un arall.

“Fel gwrandawyr selog o Radio Cymru mae Geraint Lloyd yn un o goreuon ac yn gyflwynydd profiadol. Rhaid cadw Geraint,” meddai cefnogwr arall.

‘Dal yn siomedig’

Tydi Geraint Lloyd heb fod mewn unrhyw drafodaeth bellach efo Radio Cymru ers yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron.

“Fi dal yn siomedig, ar ôl bod gyda Radio Cymru am gymaint o amser.

“Dim fy newis i yw e.

“Mae lan i nhw, yn anffodus.”