Mae Margaret Ferrier, cyn-Aelod Seneddol yr SNP, wedi cyfaddef iddi deithio ar drên o’r Alban i Lundain yn ystod cyfyngiadau Covid-19 pan oedd hi wedi profi’n bositif am y feirws.
Mae hi bellach yn aelod seneddol annibynnol ar ôl colli chwip y blaid.
Roedd disgwyl iddi hunanynysu ar ôl profi’n bositif am y feirws fis Medi 2020, ond teithiodd hi ar drên ar ôl cael prawf positif.
Yn ystod gwrandawiad llys yn Glasgow, wnaeth hi gyfaddef ei bod hi wedi peryglu’r cyhoedd mewn ffordd ddiofal wrth fynd i sawl lleoliad yn Glasgow cyn teithio i Lundain.
Er ei bod hi wedi wynebu galwadau i ymddiswyddo ers hynny, mae hi’n dal i fod yn San Steffan.
Llafur yr Alban yn paratoi i herio Margaret Ferrier
Aelod Seneddol dan bwysau i gamu o’r neilltu ar ôl teithio rhwng yr Alban a San Steffan er iddi gael prawf coronafeirws positif
Aelod Seneddol yr SNP â’r coronafeirws wedi annerch cynulleidfa eglwysig ar ôl teithio ar drên
Margaret Ferrier wedi bod dan y lach yr wythnos hon ar ôl methu â hunanynysu