Mae cynghorydd cymuned yn y Mwmbwls ger Abertawe wedi cael ei gosbi gan gydweithwyr ar ôl i ysgol gynradd gwyno nad oedd e wedi rhoi’r hawl i blant ganu yn Gymraeg mewn gŵyl.

Pleidleisiodd cynghorwyr o blaid symud y Cynghorydd Rob Marshall o’i rôl yn gyd-gadeirydd y pwyllgor diwylliant, twristiaeth a chyfathrebu, gan ddweud y dylai ddanfon ymddiheuriad ysgrifenedig at Ysgol Gynradd Gymraeg Llwynderw yn tanlinellu na chafodd ei sylwadau a arweiniodd at y gŵyn awdurdod y cyngor cymuned.

Ond wnaethon nhw ddim ei symud o’r pwyllgor yn llwyr.

Roedd y gŵyn yn ymwneud â digwyddiad cymunedol mawr o’r enw Mumbles Fest 2022, fis diwethaf ar dir Castell Ystumllwynarth ac roedd disgwyl i’r digwyddiad gynnwys côr o ddisgyblion o saith ysgol gynradd ardal y cyngor cymuned a fyddai’n canu tair cân.

E-byst

Mae e-byst sydd bellach ar gael i’r cyhoedd yn dangos bod y Cynghorydd Rob Marshall wedi cysylltu â’r ysgolion ar Fehefin 8 ynghylch y cynlluniau i’r côr a’r tair cân oedd wedi’u dewis, ac yn eu hannog nhw i gymryd rhan.

Wythnos yn ddiweddarach, atebodd Ysgol Llwynderw yn dweud eu bod nhw’n awyddus i gymryd rhan ond yn sylwi nad oedd yr un o’r caneuon yn Gymraeg ac nad oedd iddyn nhw arlliw o Gymreictod.

Dywedodd yr e-bost fod yr ysgol yn gwerthfawrogi mai’r nod oedd cyfranogiad ar raddfa eang, ond fod yr iaith Gymraeg hefyd yn bwysig iawn, gan awgrymu y gellid defnyddio geiriau Cymraeg ar gyfer un o’r caneuon gafodd eu dewis, neu fod opsiynau i’w trafod ynghylch geiriau ychwanegol neu amgen.

Atebodd y Cynghorydd Rob Marshall yn dweud y byddai’n anodd i’r chwech ysgol gynradd arall ganu yn Gymraeg a bod amserlen dynn yr ŵyl yn golygu nad oedd modd ychwanegu caneuon.

Atebodd yr ysgol yr e-bost yn awgrymu y gellid canu pennill neu gytgan un o’r caneuon oedd wedi’u dewis – cân gan Elton John – yn Gymraeg.

Atebodd y cynghorydd, sy’n gerddor, gan ddweud bod yn flin ganddo ond nad oedd modd iddo dderbyn y cais, ond ei fod yn gobeithio y byddai Ysgol Llwynderw yn cymryd rhan.

“Rhaid i mi fod yn blwmp ac yn blaen a dweud nad oes yna gyfaddawd gan ein bod ni’n ceisio uno’r ysgolion yn hytrach na chael un yn sefyll allan,” meddai.

“Rydych chi’n gwybod sut mae hi yma, mae pobol yn ddifater ynghylch yr iaith Gymraeg.

“Mae gen i ddisgyblion yno sy’n siarad Saesneg gartref a phan dw i’n dysgu yn [Ysgol Gyfun] Gŵyr, prin dw i’n clywed Cymraeg yn y coridorau neu ar yr iard.

“Dydy hi jyst ddim yn ardal Gymraeg yn ddiwylliannol.”

Atebodd Rachel Collins, pennaeth Ysgol Llwynderw, yn dweud y byddai’r ysgol, yn anffodus, yn gwrthod y gwahoddiad.

Roedd hi’n teimlo’n gryf y dylai’r disgyblion fod yn gallu canu yn iaith yr ysgol, ac y byddai’r digwyddiad wedi rhoi’r cyfle i’r holl blant ganu fel un.

Dywedodd fod geiriau un o’r caneuon yn rheswm arall dros wrthod.

Atebodd y cynghorydd gan ddweud ei fod e wedi gwirio’r geiriau gyda ffrind crefyddol iawn sydd yn ddirprwy brifathro a chanddo ddau o blant yn Ysgol Llwynderw.

Dywedodd nad oedd ei ffrind o’r farn y byddai neb yn poeni amdanyn nhw, gan ychwanegu ei fod e’n Gymro balch ac yn cefnogi hyrwyddo’r iaith Gymraeg, ond nad Eisteddfod mo hon ac nad yw’r Mwmbwls yn ardal Gymraeg.

“Pe bai hwn yn ddigwyddiad Dydd Gŵyl Dewi yna byddwn i eisiau perfformiad cwbl Cymraeg i ddathlu hynny, ond syniad côr plant Mumbles Fest, yn syml, yw cynnwys cynifer o blant â phosib fel eu bod nhw’n cael gwefr o berfformio gyda’i gilydd,” meddai.

Cŵyn gan yr ysgol

Ychydig ddiwrnodau wedi’r ŵyl, ysgrifennodd yr ysgol lythyr yn cwyno ar sail eithrio’r iaith a’r diwylliant Cymraeg, cynnwys amhriodol y geiriau, gohebiaeth ac ymddygiad y Cynghorydd Rob Marshall, a mecanweithiau llywodraethiant mewnol a chraffu’r cyngor cymuned.

Fe wnaeth y cyngor cymuned ymchwilio a gwneud deg o argymhellion, a gafodd eu hanfon mewn adroddiad cyn cyfarfod ddydd Mawrth (Awst 16).

Dywedodd yr adroddiad nad oes modd i gynghorau cymuned ymchwilio i gwynion am gynghorwyr unigol, ac mai mater i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yw hynny, ond fod gweithredoedd a gohebiaeth y cynghorydd yn berthnasol wrth iddyn nhw ystyried y gŵyn ynghylch mecanweithiau llywodraethiant mewnol a chraffu.

Dywedodd yr adroddiad nad oedd y Cynghorydd Rob Marshall wedi hysbysu cynghorwyr eraill am bryderon Ysgol Llwynderw, oedd yn ymddangos fel pe baen nhw’n groes i orchymyn sefydlog.

Ychwanegodd nad oes tystiolaeth ei fod e wedi ceisio awdurdod y pwyllgor diwylliant, twristiaeth a chyfathrebu na swyddogion y Cyngor cyn ymateb i Rachel Collins.

Ar ôl cael pum munud i amlinellu ei achos yn y cyfarfod, dywedodd y Cynghorydd Rob Marshall ei fod e eisiau darllen e-bost gan gynghorydd oedd ar ei gwyliau ar y pryd.

Dywedodd Carrie Townsend Jones, cadeirydd y Cyngor, ei bod hi’n teimlo y gallai hyn fod yn rhagfarnllyd ond dywedodd y Cynghorydd Rob Marshall nad oedd hi na chynghorwyr eraill yn ymwybodol o’r cynnwys, a bod cynnig pum munud yn unig iddo “yn llys cangarŵ braidd”.

Aeth yn ei flaen i ddarllen e-bost y cynghorydd absennol, Angela O’Connor, yn dweud bod gan y Cynghorydd Rob Marshall lu o arbenigedd a phrofiad, ei fod e’n gyd-gadeirydd delfrydol ar gyfer y pwyllgor diwylliant, twristiaeth a chyfathrebu, bod ganddo fe record wych, ac yn yr achos hwn fod “cyfyngiadau amser enfawr”.

Dywedodd ei neges e-bost nad oedd y Cynghorydd Rob Marshall yn gyfrifol am fethiannau o ran llywodraethiant a chraffu, neu os oedd e, fod cynghorwyr eraill ar y pwyllgor hefyd yn gyfrifol i ryw raddau.

Roedd ei neges e-bost yn awgrymu y dylai’r cynghorydd anfon llythyr yn ymddiheuro wrth Ysgol Llwynderw ond nad oedd sail ar gyfer camau pellach, ac y byddai ei symud o’i rôl yn gyd-gadeirydd neu o’r pwyllgor “yn gam cwbl hunandrechol ac andwyol i’r gymuned”, ac y byddai’r fath gam yn “anghymesur ac afresymegol”.

‘Sori’

Wrth annerch y brifathrawes Rachel Collins a Katherine Fender, cadeirydd y llywodraethwyr, dywedodd y Cynghorydd Rob Marshall fod yn flin ganddo nad oedd digon o amser i gynnwys yr iaith Gymraeg yn yr ŵyl.

“Nid unrhyw beth yn erbyn yr iaith Gymraeg oedd hyn a doedd e’n sicr ddim yn anwybyddu’r iaith Gymraeg,” meddai.

“Yn fy ngyrfa broffesiynol fel cerddor, dw i wedi bod yn gefnogol iawn o’r iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymraeg.”

Dywedodd ei fod yn deall sut y gallai’r ysgol fod wedi cael eu sarhau, gan ychwanegu nad dyna’i fwriad.

“Cyfyngiadau amser oedd e, yn syml,” meddai, gan ychwanegu bod 11 o berfformiadau i’w trefnu.

Dywedodd hefyd nad oedd e’n gweld unrhyw broblem o ran geiriau’r gân, gan ychwanegu ei fod e’n cofio gweld Olivia Newton-John “yn symud o gwmpas mewn catsuit” pan oedd e’n ifanc.

Yn hytrach na chwyno, dywedodd y byddai wedi gwerthfawrogi e-bost gan yr ysgol yn dweud a fyddai modd gwarantu cân Gymraeg yn yr ŵyl y flwyddyn nesaf, “a’r ateb yn bendant fyddai ‘Oes'”.

“Chafodd plant Llwynderw mo’u cau allan o gymryd rhan gennyf fi na Chyngor Cymuned y Mwmbwls – eich penderfyniad chi oedd eu tynnu nhw’n ôl o’r ŵyl,” meddai.

Cafodd y wasg a’r cyhoedd eu cau allan gan gynghorwyr o drafodaeth ynghylch cosb y cynghorydd, os oedd cosb am fod, a chafodd y penderfyniad ei gyhoeddi pan ailagorodd y cyfarfod ryw 20 munud yn ddiweddarach.

Trafodaethau ehangach

Cafodd y cynghorwyr drafodaeth ehangach wedyn ynghylch yr adroddiad a’i argymhellion, gyda naw ohonyn nhw’n pleidleisio dros dderbyn yr argymhellion, un yn erbyn, a dau yn ymatal.

Dywedodd Rebecca Fogarty, is-gadeirydd y Cyngor, ei bod hi’n gobeithio y byddai’r cyngor cymuned yn “achub ar y cyfle i ddysgu” o’r adroddiad, tra bod y Cynghorydd Carrie Townsend Jones yn dweud ei bod hi’n gobeithio y byddai’n “fwy cynhwysol” o ran y Gymraeg ymhen amser.

Ond dywedodd hefyd fod yna “fater sylweddol o ran adnoddau i wneud popeth yn ddwyieithog” ac nad yw’n rywbeth all ddigwydd dros nos gan fod y gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol eisoes wedi’i gosod, a dywedodd y Cynghorydd Helen Nelson ei bod hi’n teimlo bod “enillion cyflym a newidiadau syml” i’w gweithredu gan y Cyngor.

Fe wnaeth Dr Katherine Fender, cadeirydd llywodraethwyr Ysgol Llwynderw, ddiolch i’r cynghorwyr am eu sylwadau, gan ddweud bod y corff llywodraethwyr yn teimlo nad oedden nhw wedi mynd i’r afael â mater yr iaith Gymraeg, ac nad oedd cyfyngiadau amser yr ŵyl wir yn bodloni’r pryderon.

Wrth ymateb i sylwadau’r Cynghorydd Rob Marshall y byddai wedi gwerthfawrogi cais am gân Gymraeg y flwyddyn nesaf yn hytrach na chŵyn, dywedodd eu bod nhw’n teimlo “nad oedd fawr o ddewis”.

Ychwanegodd y byddai’n gwerthfawrogi eglurhad ynghylch sylwadau’r Cynghorydd Rob Marshall nad oes lle i berfformiadau Cymraeg y tu allan i’r Eisteddfod.

Dywedodd ei fod e’n teimlo na ddylid cyfyngu’r Gymraeg i’r Eisteddfod – ac yna ei fod e wedi derbyn e-bost gas gan aelod o’r cyhoedd y byddai’n ei throsglwyddo i glerc y Cyngor, a dywedodd ei fod e’n teimlo ei bod hi’n “drueni” bod y Cynghorydd Carrie Townsend Jones wedi ysgrifennu e-bost yn ymddiheuro wrth yr ysgol tra ei bod hi’n rhan o’r broses adolygu.

Yn gynharach yn y cyfarfod, dywedodd John Jones, cyn-Faer Biwmwares ym Môn sydd bellach yn byw yn ardal West Cross, fod y Mwmbwls yn elwa dipyn ar dwristiaeth, gan gynnwys ymwelwyr o lefydd fel Aberteifi a Chaerfyrddin, lle caiff y Gymraeg ei siarad yn eang.

“Dirnad ydi popeth,” meddai. “Rŵan hyn, mae gan y Mwmbwls broblem.”

Argymhellion

Mae’r deg o argymhellion a wnaed ac a gafodd eu cytuno gan Gyngor Cymuned y Mwmbwls wrth ymateb i’r gŵyn iaith Gymraeg gan Ysgol Llwynderw yn cynnwys y dylid cynnig cyrsiau iaith Gymraeg i gynghorwyr a swyddogion.

Dylid sefydlu gweithgor i adolygu darpariaeth iaith Gymraeg y cyngor cymuned a sicrhau ei bod yn bodloni gofynion deddfwriaethol.

Dylid sicrhau sgwrs yn gynharach gyda phob ysgol sy’n cymryd rhan yn yr ŵyl yn y dyfodol er mwyn gwneud penderfyniadau ar y cyd o ran pa ganeuon i’w canu a fformat y perfformiad. Dylai’r holl gynnwys i blant a theuloedd fod yn addas ar eu cyfer, yn sicr.

Bydd llythyr yn cael ei anfon i Ysgol Llwynderw gan y cyngor cymuned yn ymddiheuro.