Mae dynes o gymoedd y de wedi penderfynu casglu nwyddau mislif i’w dosbarthu i’r rhai sydd eu hangen fwyaf yn yr ardal.
Daw hyn yn dilyn y newyddion ddoe (dydd Mercher, Awst 17) mai’r Alban yw’r wlad gyntaf yn y byd i ddarparu nwyddau mislif am ddim i bwy bynnag sydd eu hangen.
Mae Bethan Jenkins yn teimlo nad ydy hi’n gweld Cymru ar unrhyw frys i ddelio â thlodi mislif, ac yn ei gweld yn fwyfwy o broblem yng nghanol yr argyfwng costau byw.
Mae hi hefyd y tu ôl i gyfrif Endo a Fi ar Instagram, a’i gobaith yn y pen draw ydy gweld banc mislif yn agor yn Aberdâr.
Mae hi nawr yn galw ar ei Haelod Seneddol i’w helpu i wireddu hyn.
‘Argyfwng nawr’
Roedd Bethan Jenkins wedi bod yn ceisio cael diagnosis o endometriosis gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Taf Morgannwg am ddeng mlynedd cyn gorfod talu £6,000 am driniaeth breifat yn Birmingham fis Mehefin eleni.
Gan wybod fod endometriosis yn gallu achosi mislif trwm a fyddai’n golygu gorfod defnyddio mwy o nwyddau, a bod profiad pawb o fislif yn wahanol, mae hi wedi penderfynu ceisio delio â’r broblem ei hun.
“Fi’n gwybod fod Llywodraeth Cymru yn dweud bydd pethau ar gael i bobol, ond fi’n credu ei fod e’n argyfwng nawr,” meddai wrth golwg360.
“Fi’n byw mewn ardal eithaf difreintiedig a fi ddim eisiau i bobol sy’n cael mislif gorfod defnyddio papur toiled neu unrhyw beth fel yna, yn lle defnyddio pethau mae hawl gennym ni i gael.
“Fi’n byw mewn ardal ble mae lot o bobol yn dibynnu ar fanciau bwyd, ac os ydyn nhw’n dibynnu ar fanciau bwyd, byddwn i’n dychmygu y bydden nhw’n defnyddio banc mislif, os byddai hynny ar gael.
“Wnaeth e jest taro fi neithiwr. Felly, fi wedi cysylltu nawr gydag Aelod Seneddol fi yn Aberdâr i weld os oes rhywbeth gallwn ni wneud fel agor banc mislif yno.
“Mae dal yn ddyddiau cynnar, ond ro’n i jest yn meddwl wna’i wneud post a gweld os oes diddordeb gyda rhywun i helpu.”
Stigma dal o gwmpas
Er ei bod hi’n teimlo bod y pwnc yn cael mwy o sylw yn ddiweddar, dydy hi dal ddim yn credu bod digon o bobol yn ymwybodol ohono.
“Mae lot o bobol sy’n cael mislif yn dal i deimlo cywilydd am rywbeth sydd yn hollol naturiol,” meddai.
“Mae yna ryw stigma sydd dal o gwmpas e fel bod e’n rywbeth brwnt a dyw e ddim, mae e’n rywbeth hollol naturiol.
“Fi’n meddwl bod angen i bobol sy’n cael eu mislif fod yn fwy agored, siarad am eu profiadau nhw ac i beidio teimlo cywilydd.
“Ddylai pobol ddim teimlo fel bod rhaid iddyn nhw guddio tampon fyny llawes i gerdded i’r tŷ bach.”
Balch o’r Alban
Mae Bethan Jenkins yn dweud ei bod hi’n falch iawn o’r Alban fel cenedl, ond bod gwers y gallai Cymru ei dysgu hefyd.
“Yn amlwg, mae’r llywodraeth yn gweithio ar strategaeth mislif ond fi’n credu bod angen bach mwy o frys ar y cynllun,” meddai.
“Dw i’n gwybod fod lot o bethau’n digwydd yng Nghymru a’r byd sy’n golygu fod hyn efallai ddim yn flaenoriaeth, ond mae angen i rywbeth newid.
“Ddylai pobol ddim bod yn cael trafferth i dalu am rywbeth sy’n hawl dynol, sylfaenol.
“Fi’n gwybod fod pobol yn cael trafferth gyda biliau a phopeth, ond dyw hwn ddim yn rywbeth dewisol.
“Ti methu mynd trwy gyfnod dy fislif heb yr adnoddau.
“Mae e mor bwysig ar hyn o bryd achos mae cymaint o bobol yn cael trafferth fforddio cymaint o bethau, a byddai hyn yn un peth yn llai i orfod poeni amdano os byddai rhywbeth yn cael ei wneud.”