Rhaid i Blaid Cymru “gywiro” eu ffordd o weithredu, yn ôl Liz Saville Roberts.
Wrth siarad ar bodlediad WalesCast, dywedodd arweinydd y Blaid yn San Steffan fod yna “ddiffyg ymdrech” wedi bod gan Blaid Cymru i siarad gydag Emma Edwards, gwraig Jonathan Edwards.
Daw ei sylwadau yn dilyn ffrae ynghylch y ffordd y cafodd Jonathan Edwards ei groesawu yn ôl i Blaid Cymru, yn dilyn gwaharddiad ar ôl ymosod ar ei wraig ym mis Mai 2020.
Mae Jonathan Edwards bellach wedi cadarnhau na fydd yn ailymuno â grŵp y Blaid yn San Steffan.
“Mae’n bwysig dechrau drwy ymddiheuro wrth Emma Edwards,” meddai Liz Saville Roberts.
“Mi oedd yna broses ddisgyblu yn dilyn y digwyddiad yn ôl ym Mai 2020 ac mi ddaeth hi yn amlwg fod y panel disgyblu heb gysylltu â’r ddioddefwraig yn yr achos yma, sef Emma Edwards.
“Mae’r diffyg ymdrech gan y Blaid yn wendid amlwg y mae’n rhaid i ni ei gywiro, a ninnau’n blaid sy’n dweud ein bod ni’n rhoi llais y dioddefwr neu’r ddioddefwraig yn gyntaf.
“Mi sylwais i ym mis Ebrill eleni pan oedd y broses ddisgyblu yn dirwyn i ben fod neb wedi cysylltu ag Emma, ac mi wnes i.
“Ond ro’n i’n ymwybodol iawn ar yr adeg hynny, er ei fod o’n bwysig iawn gen i fod yna gyswllt yn cael ei wneud gydag Emma, ei bod hi’n bosib na fyddai hi eisiau ymateb i fi, a finnau yn arweinydd yn San Steffan.
“Felly dw i ddim yn meddwl bod modd i mi na’r Blaid ddweud bod un cyswllt fel yna ers y cyswllt cyntaf ddwy flynedd yn ôl yn ddigonol.
“Pan gawson ni ddatganiad grymus gan Emma’r wythnos ddiwethaf, roedd hynny’n gwrthddweud y rhesymeg oedd gan y panel disgyblu am dderbyn Jonathan Edwards yn ôl i’r Blaid, a hynny yn ei dro yn golygu ei fod o ’nôl yng ngrŵp San Steffan.
“Mi oedden nhw o’r farn, ar sail tystiolaeth Mr Edwards, ei fod o wedi dilyn cwrs ar ymwybyddiaeth trais yn y cartref, bod hynny wedi newid ei farn, a’i fod o’n edifarhau’r hyn roedd o wedi’i wneud.
“Nawr, roedd tystiolaeth y person pwysicaf yn hyn, sef Emma Edwards, yn gwrthddweud hynny.
“A phan gafwyd tystiolaeth oedd yn gwrthddweud yr hyn oedd wrth wraidd penderfyniad y panel disgyblu, roedd yn rhaid i ni fel plaid weithredu.”