Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi datgan sychder yn ne-orllewin Cymru heddiw (dydd Gwener, Awst 19).

Daw hyn yn dilyn cyfnod estynedig o dywydd sych sydd wedi “rhoi straen enfawr ar ein hafonydd, cronfeydd dŵr a dŵr daear”.

Mae penderfyniad Cyfoeth Naturiol Cymru i symud o statws tywydd sych hir i sychder ar gyfer yr ardal wedi’i gytuno, a’i rannu gyda chyfarfod Grŵp Cyswllt Sychder Llywodraeth Cymru ar ôl ystyried yr effaith mae’r tymheredd uchel a’r diffyg glaw sylweddol wedi’i chael ar yr amgylchedd yn yr ardal hon.

Mae gweddill Cymru yn parhau i fod mewn statws tywydd sych hir ond mae pryderon yn dal i fod.

Er bod cyflenwadau hanfodol o ddŵr yn parhau i fod yn ddiogel, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhybuddio y dylai’r cyhoedd a busnesau mewn ardaloedd sy’n dioddef o sychder fod yn ymwybodol iawn o’r pwysau ar adnoddau dŵr a defnyddio dŵr yn ddoeth.

Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod nhw’n parhau i fonitro’r sefyllfa ar draws Cymru yn agos, gan weithio gyda phartneriaid, ac y byddan nhw’n gweithredu yn ôl y galw.

Yr ardaloedd sydd wedi eu heffeithio yw:

  • Gogledd Ceredigion (Rheidol, Aeron, Ystwyth)
  • Teifi
  • Sir Benfro (Y Cleddau Dwyreiniol a Gorllewinol)
  • Caerfyrddin (Tywi a Thaf Elái)
  • Abertawe a Llanelli (Tawe a Chasllwchwr)
  • Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr (Castell-nedd, Afan, Ogwr)

‘Straen enfawr’

“Gall tywydd sych arwain at sychder pan fo glawiad yn parhau’n isel,” meddai Natalie Hall, Rheolwr Dŵr Cynaliadwy Cyfoeth Naturiol Cymru.

“Gall hyn effeithio ar rai o’n cynefinoedd a’n rhywogaethau mwyaf gwerthfawr yn ogystal â systemau rydyn ni’n aml yn eu cymryd yn ganiataol, fel ein cyflenwadau dŵr.

“Rydym wedi penderfynu datgan cyflwr o sychder yn Ne Orllewin Cymru wedi iddi fod yn amlwg bod diffyg glaw a gwres diweddar wedi rhoi straen enfawr ar ein hafonydd, cronfeydd dŵr a dŵr daear.”