Mae Adam Price, y Ceidwadwyr Cymreig a’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi galw am ymddiswyddiad Jonathan Edwards.

Mewn datganiad, mae arweinydd Plaid Cymru’n dweud ei fod yn “credu’n gryf na all Jonathan Edwards barhau i gynrychioli Plaid Cymru yn San Steffan ac y dylai ymddiswyddo ar unwaith”.

Daw hyn ar ôl i Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr dderbyn rhybudd gan yr heddlu am ymosod ar ei wraig, Emma Edwards, sydd hefyd wedi cyhoeddi datganiad yr wythnos hon.

Wrth siarad â BBC Cymru, dywedodd Emma Edwards nad yw ei gŵr wedi “derbyn cyfrifoldeb am yr hyn ddigwyddodd” a bod ei groesawu’n ôl i’r gorlan yn anfon neges “nad yw goroeswyr cam-drin domestig o bwys”.

“Er bod Jonathan wedi mynychu cwrs cam-drin domestig ar-lein, nid oedd yn derbyn cyfrifoldeb am yr hyn a ddigwyddodd, gan leihau’r digwyddiad,” meddai.

“Roedd hyn yn golygu na fyddai unrhyw gymodi.

“Efallai fy mod yn naïf i feddwl y gallai fod.”

Datganiad Adam Price

“Rwy’n credu’n gryf na all Jonathan Edwards barhau i gynrychioli Plaid Cymru yn San Steffan ac y dylai ymddiswyddo ar unwaith,” meddai Adam Price.

“Galwaf hefyd ar Jonathan Edwards i adael y blaid.

“Nid yw ei weithredoedd yn cynrychioli ein gwerthoedd ac mae ei safle fel AS yn anfon y neges anghywir at oroeswyr cam-drin domestig yng Nghymru a thu hwnt.

“Hoffwn ddiolch i Emma Edwards am siarad ddoe ac iddi wybod bod ei llais wedi’i glywed.

“Hoffwn hefyd gynnig fy ymddiheiriadau iddi hi a’r holl oroeswyr cam-drin domestig am y boen y mae hyn wedi’i achosi.

“Rhaid i’n prosesau disgyblu newid i roi rôl ganolog i ddioddefwyr trais ar sail rhywedd mewn unrhyw ymchwiliadau.

“Bydd y gwaith hwn yn dechrau ar unwaith a bydd yn derbyn y brys a’r difrifoldeb y mae’n amlwg yn ei haeddu.”

Dileu’r chwip

Neithiwr (nos Wener, Awst 12), roedd Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, yn galw ar Blaid Cymru i ddileu’r chwip oddi ar Jonathan Edwards ar unwaith.

Daw hyn ar ôl i Blaid Cymru adfer y chwip.

“Mae trais yn erbyn menywod yn endemig, a dylai pleidiau gwleidyddol a gwleidyddion etholedig osod y safonau uchaf,” meddai.

“Dydy hi ddim yn dderbyniol fod Jonathan Edwards wedi cael adfer y chwip ac os yw Plaid Cymru ac Adam Price o ddifri am fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod, rhaid iddyn nhw dynnu’r chwip yn ôl ar unwaith.

“Mae Emma Edwards wedi bod yn eithriadol o ddewr wrth roi ei datganiad, ond ni ddylai hi orfod fod wedi gwneud hyn.

“Os nad yw Adam Price na Phwyllgor Gwaith Cenedlaethol Plaid Cymru’n cymryd camau, bydd yn gyhuddiad difrifol o esgeuluso dyletswydd ac arweinyddiaeth gennyf fi a’r blaid.

“Rhaid i bob gwleidydd a’r holl bleidiau gwleidyddol yng Nghymru weithio er mwyn dileu trais yn erbyn menywod ar draws y gymdeithas.”

‘Gwneud dim i dawelu meddyliau’

Yn ôl llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, dydy’r digwyddiadau dros y dyddiau diwethaf “ddim wedi gwneud dim i dawelu meddyliau dioddefwyr trais domestig”.

“Dylai’r datganiad hwn fod wedi cael ei wneud gan Adam Price rai diwrnodau yn ôl, ac mae ei ddiffyg arweinyddiaeth ar y mater hwn wedi siomi dioddefwyr ledled Cymru,” meddai.

“Mae’r holl helynt anfon union y neges anghywir i oroeswyr camdriniaeth ddomestig, ac mae angen i’r rhai sydd wedi gadael i hyn ddigwydd ystyried eu swyddi.”

Datganiad Jonathan Edwards

Mewn datganiad ganddo yntau, mae Jonathan Edwards yn dweud bod rhai o aelodau Plaid Cymru “wedi ymosod yn ddialgar” arno, a’i fod e “wedi cydymffurfio â’r blaid a’u gofynion” ond na fydd yn ailymuno â nhw.

“Dw i erioed wedi gwneud unrhyw ddatganiadau cyhoeddus am fy mywyd personol nag am sut oedd y blaid yn delio gyda fy achos,” meddai.

Mae’n dweud “ein bod mewn amgylchedd peryglus iawn pan nad oes lle i unrhyw un yn y sffer gyhoeddus i siarad yn onest am y camgymeriadau y maen nhw’n gwneud”.

Mae hefyd yn cyhuddo “rhai gwleidyddion o gamddefnyddio eu pŵer” i ymosod arno’n wleidyddol, ac yn cyhuddo’r blaid o fethu â’i “ddiogelu” wrth i “fy mywyd personol a phroffesiynol dorri’n deilchion”.

Mae’n dweud ei fod yn “cymryd cyfrifoldeb llawn am y weithred wnaeth arwain at fy arestio a’r rhybudd heddlu ddaeth o ganlyniad”.

“Fe wna i ddifaru hynny hyd ddiwedd fy oes,” meddai.

Byddai “unrhyw blaid gydag asgwrn cefn wedi diarddel” Jonathan Edwards

Huw Bebb

“All Plaid Cymru ddim siarad am gydraddoldeb rhwng menywod a dynion os ydyn nhw’n bihafio fel hyn”

Plaid Cymru am “adnabod y gwersi a ddysgwyd” o waharddiad Jonathan Edwards

Cafodd y gwaharddiad ei wyrdroi ym mis Mehefin eleni ar ôl i’r Aelod Seneddol fodloni’r meini prawf i gael ei aildderbyn