Mae Plaid Cymru’n dweud y byddan nhw’n “adnabod y gwersi a ddysgwyd” yn dilyn gwaharddiad Jonathan Edwards rhag bod yn Aelod Seneddol y blaid.

Fis Gorffennaf 2020, cafodd Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr ei atal am gyfnod o 12 mis gan banel o Bwyllgor Aelodau, Disgyblu a Safonau’r Blaid, gan “adlewyrchu natur ddifrifol y rhybudd” gafodd e gan yr heddlu a “safiad digamsyniol Plaid Cymru bod pob math o aflonyddu, cam-drin a thrais yn annerbyniol”, meddai’r blaid mewn datganiad heddiw (dydd Iau, Awst 11).

Ailymgynullodd y panel disgyblu fis Mehefin eleni ar gais Jonathan Edwards, a chytuno’n unfrydol ei fod e wedi bodloni’r amodau gafodd eu gosod arno.

Wrth godi’r ataliad, fe wnaeth y panel hefyd gydnabod ei edifeirwch, a’i gyfnod o hunanfyfyrio.

Fe wnaeth cyfarfod dilynol o Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol y blaid nodi penderfyniad y panel, ac ystyriodd y cynnig yn argymell i grŵp San Steffan na ddylai aildderbyn Jonathan Edwards yn ôl i’r grŵp.

Cafodd ystod o safbwyntiau eu mynegi, a chafodd y cynnig ei basio gan fwyafrif sylweddol.

Roedd yr egwyddor o ganiatáu i aelodau o’r pwyllgor sy’n rheoli’r blaid drafod mater o’r fath arwyddocâd yn bwysig tu hwnt.

Ar ôl derbyn cyngor gweithdrefnol pellach, mae Plaid Cymru wedi hysbysu Jonathan Edwards bod y prosesau mewn perthynas â’i aelodaeth o grŵp San Steffan wedi dod i derfyn, ac mae’r chwip wedi’i hadfer iddo.

‘Gofod diogel i bawb’

“Rhaid i Blaid Cymru, bob amser, fod yn ofod diogel i bawb,” meddai Beca Brown, y cadeirydd, mewn datganiad.

“Byddwn yn adolygu prosesau’r blaid i adnabod y gwersi a ddysgwyd yn yr achos hwn.

“Yn ogystal, byddwn hefyd yn comisiynu adolygiad annibynnol i adnabod y camau sydd eu hangen er mwyn i’r blaid fod yn wirioneddol rydd o ddiwylliant o gasineb at fenywod, ac i hyrwyddo, amddiffyn ac ymestyn cyfranogiad menywod ym Mhlaid Cymru ac mewn gwleidyddiaeth yn ehangach mewn modd rhagweithiol ac ystyrlon.

“Bydd Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol Plaid Cymru yn gwneud popeth o fewn ei allu i sicrhau bod cynrychiolwyr etholedig Plaid Cymru yn cynnal y safonau uchaf a ddisgwylir ganddynt.”

Cadeirydd Plaid Cymru’n ymddiswyddo yn sgil penderfyniad am aelodaeth Jonathan Edwards

Mae’r Aelod Seneddol wedi cael ei ail-dderbyn fel aelod o Blaid Cymru wedi iddo gael ei wahardd am 12 mis ar ôl cael rhybudd gan yr heddlu am ymosod