Mae Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol y wlad yn “methu” cymunedau Teithwyr, yn ôl adroddiad newydd.

Yn ôl Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y Senedd, mae angen gweithredu ar unwaith ar ôl i’r adroddiad ddangos methiannau “eang” o ran darparu safleoedd digonol ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr.

Daw’r adroddiad i’r casgliad bod llawer o safleoedd wedi’u lleoli mewn llefydd amhriodol, er enghraifft ar ochrau ffyrdd peryglus neu’n bell o wasanaethau, heb unrhyw gyfleusterau ar gyfer plant na’r henoed.

Mae’r adroddiad yn nodi bod “hiliaeth a rhagfarn eang – gan gynnwys gan gynghorwyr” yn aml yn ffactor allweddol dros ddiffyg ewyllys wleidyddol i greu mwy o safleoedd ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr.

Cyfleusterau gwael

Dydy llawer o’r safleoedd i Deithwyr ddim yn ateb y galw, ac yn ôl Sipsiwn a Theithwyr Cymru, mae rhai unigolion wedi bod ar restr aros am blot gan yr awdurdod lleol ers dros 20 mlynedd.

Ynghyd â hynny, mae llawer o blotiau mewn cyflwr gwael, ac mae cynghorau’n cymryd amser i drwsio problemau, meddai’r adroddiad.

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth am gyfleusterau sydd heb eu hadnewyddu ers degawdau, diffyg cyfleusterau fel mannau chwarae i blant, draeniau wedi’u blocio, plâu llygod mawr, a llwydi mewn ystafelloedd ymolchi a rennir.

Awdurdodau lleol sy’n gwneud penderfyniadau ynghylch ehangu neu greu safleoedd newydd i deithwyr, yn ogystal â gwaith cynnal a chadw cyffredinol arnynt.

Ond mae’r Pwyllgor yn mynnu bod Llywodraeth Cymru hefyd yn methu â dal awdurdodau lleol yn atebol, a’u bod yn fodlon rhoi’r cyfrifoldeb am y diffyg cynnydd ar gynghorau yn unig.

Hiliaeth

Daeth y Pwyllgor i’r canlyniad fod diffyg ewyllys wleidyddol yn rheswm sylweddol am y diffyg safleoedd ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng Nghymru, a bod hiliaeth a rhagfarn eang – gan gynnwys gan gynghorwyr – yn aml yn ffactor allweddol.

Wrth roi tystiolaeth i’r Pwyllgor, dywedodd yr academydd Martin Gallagher ei fod wedi rhoi hyfforddiant i’r gwahanol bleidiau gwleidyddol ar y byrddau cynllunio, a’u bod wedi dweud yn blaen i’w wyneb nad oedden nhw’n gallu cefnogi pobol o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr mewn ymgyrchoedd gan y byddan nhw’n colli pleidleisiau.

Cafodd hyn ei ategu gan Teithio Ymlaen, sefydliad sy’n cefnogi pobol nomadaidd, a ddywedodd wrth y Pwyllgor y byddai rhai o’r pethau sydd wedi digwydd yn lleol ac yn rhanbarthol yn annerbyniol pe baen nhw’n ymwneud ag unrhyw grŵp arall, neu unrhyw grŵp o ddinasyddion neu grŵp ethnig lleiafrifol arall.

Mae’r Pwyllgor yn argymell yn gryf y dylid gwneud gwaith codi ymwybyddiaeth a rhoi hyfforddiant ar ddiwylliant Sipsiwn, Roma a Theithwyr i bob awdurdod lleol a chynghorydd cymuned yng Nghymru, ac yn annog Llywodraeth Cymru i werthuso’r rhaglen i sicrhau ei bod yn effeithiol o ran newid agweddau.

Mae hefyd yn rhybuddio bod y rhagfarn hon yn gyffredin ar draws Cymru a bod gwaith sylweddol i’w wneud o ran mynd i’r afael ag agweddau gwahaniaethol ar bob lefel o’r gymdeithas.

‘Testun pryder mawr’

Dywed John Griffiths, Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ac Aelod o’r Senedd Llafur Dwyrain Casnewydd, fod y sefyllfa sy’n wynebu cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng Nghymru yn “destun pryder mawr”.

“Mae’r Pwyllgor yn cytuno ar yr hyn y mae angen i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol ei wneud nesaf,” meddai.

“Mae llawer o safleoedd mewn ardaloedd cwbl amhriodol wrth ymyl ffyrdd prysur gyda llwybrau anwastad a draeniau wedi’u blocio.

“Mae rhai pobol wedi bod ar restrau aros ers sawl blwyddyn, heb ddiwedd mewn golwg.

“Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru wneud yn siŵr bod gan awdurdodau lleol yr adnoddau i fynd i’r afael â’r materion hyn, ond mae’n rhaid iddyn nhw hefyd eu dwyn i gyfrif pan nad yw pethau’n gwella.

“Mae’n amlwg bod rhagfarn yn erbyn Teithwyr ar lefel leol, a thrwy gydol y gymdeithas, yn dal i fod yn eithaf cyffredin ac y dylai gwaith i fynd i’r afael â hyn fod yn flaenoriaeth.

“Mae’r Pwyllgor yn annog Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i weithredu ar ein hargymhellion ar frys neu fel arall bydd aelodau o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn parhau i gael eu trin fel dinasyddion eilradd yng Nghymru.”

‘Ystyried yn fanwl’

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda chymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr er mwyn mynd i’r afael â’r pryderon a godwyd a gweithredu os yw awdurdod tai lleol wedi methu cydymffurfio gyda’i gyfrifoldeb i ddod o hyd i lety addas.

“Byddwn yn ystyried yr adroddiad a’r argymhellion a wnaed yn fanwl.”

Romani

Buddsoddiad Llafur yng nghymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr Cymru wedi bod yn fach iawn yn y gorffennol

Isaac Blake

Isaac Blake, cyfarwyddwr Cwmni Diwylliant a’r Celfyddydau Romani, sy’n dadlau bod y gymuned wedi’i thangyllido o’i chymharu â chymunedau eraill Cymru
Romani

“Mae’n frawychus fel person o’r gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr ar hyn o bryd”

Alun Rhys Chivers

Isaac Blake o gwmni Romani sy’n ymateb i ddeddfwriaeth a allai gynyddu’r stigma yn erbyn y gymuned, gan gynnig ffyrdd o frwydro’n ôl