Mae cyfarwyddwr cwmni sy’n dathlu’r gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr trwy’r celfyddydau’n rhybuddio bod deddfwriaeth newydd sydd wedi dod i rym yn bygwth ffordd o fyw’r gymuned, gan ddweud bod y sefyllfa’n golygu ei bod hi’n “frawychus fel person o’r gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr ar hyn o bryd”.

Mae Deddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd 2022 yn ehangu ystyr tresmasu a’r dulliau sy’n gallu cael eu defnyddio i fynd i’r afael â’r sefyllfa.

Mae’r gymuned yn dweud na fydd y ddeddfwriaeth newydd yn eu hatal nhw rhag bod yn Deithwyr.

Gallai’r rhai sydd â nunlle arall i fynd gael eu gorfodi i dorri’r gyfraith, colli eu heiddo a’u bywoliaeth, a hollti eu teuluoedd pe bai eu plant yn gorfod mynd i ofal yr awdurdodau os yw eu rhieni’n torri’r gyfraith.

Maen nhw’n dweud nad yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig, wrth ddweud wrthyn nhw lle nad oes modd iddyn nhw fynd, wedi dweud wrthyn nhw lle mae modd iddyn nhw fynd nac wedi cynnig gofod arall iddyn nhw wrth eu hatal nhw rhag sefydlu gwersylloedd ar dir gwag.

‘Tir canol heb wrthdaro’

Yn sgil y ddeddfwriaeth, mae Isaac Blake, sy’n wreiddiol o Bromsgrove yng nghanolbarth Lloegr ond sy’n byw yng Nghymru ers blynyddoedd, yn dadlau bod cynnig gofod diogel i’r gymuned ddod ynghyd i drafod eu hopsiynau ac i ddianc rhag pwysau bywyd yn dod yn bwysicach.

Un prosiect sydd gan gwmni Romani ar y gweill fis Gorffennaf ac Awst yw arddangosfa gelf yn y Porth yng Nghwm Rhondda, sy’n darlunio’r gymuned drwy eu llygaid nhw eu hunain.

“Mae’n dir canol bach neis i bobol gael dod ynghyd a chael sgwrs am gelf, ac mae’n beth heb wrthdaro oherwydd, fel arfer, pan fydd pobol yn cydweithio â Sipsiwn a Theithwyr, mae e fel arfer yn ymwneud â gorfodaeth,” meddai wrth golwg360.

“Bod yn rhagweithiol yw hyn, gan ddod â chymunedau ynghyd i gael sgwrs am ddiwylliant a chreu gofod diogel i bawb gael dod at ei gilydd, ac mae’n gyfle i ddysgu gwersi hefyd.”

Yn bwysicach na hynny, efallai, mae hefyd yn ceisio chwalu’r ddelwedd ystrydebol o’r gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr sydd weithiau’n dod o gyfeiriad y cyfryngau ac weithiau o ganlyniad i ragdybiaethau pobol yn sgil yr hyn maen nhw’n ei glywed.

“Mae llawer o bobol yn dod aton ni ac yn dweud, “Rydyn ni wedi darllen pethau ond ddim wir yn gwybod unrhyw beth, dim ond beth rydyn ni wedi’i ddarllen yn y papurau newydd”.

“Fel arfer, nid yr erthygl ei hun yw e, ond y sylwadau negyddol o dan yr erthygl, a dydy pobol ddim wir yn gwybod am hanes, diwylliant, iaith a’r gymuned, felly mae’n bwysig iawn ein bod ni mewn sefyllfa lle gall y gymuned adrodd ei stori ei hun.”

Academyddion yn atgyfnerthu’r neges

Ond sut mae brwydro yn erbyn y fath ragdybiaethau a chamargraffiadau?

Yn ôl Isaac Blake, mae Romani yn cydweithio ag academyddion mewn meysydd amrywiol er mwyn adeiladu darlun mwy positif o’r gymuned a’u cyfraniad i’r gymdeithas.

“Mae gennym ni academydd ar bob un o’n rhaglenni,” meddai.

“Mae un o’m cydweithwyr academaidd ar hyn o bryd, Dr Adrian Marsh, wedi bod gyda ni ers 2010 ac mae’n hanesydd Romani, felly mae e’n gallu trafod yr ymerodraethau Ottoman a Byzantine, a’r bobol ddaeth o Bersia i Gymru.

“Mae e’n edrych ar hanes Romani, ac mae e hefyd wedi gwneud lot fawr o waith ynghylch yr holocost, hanes, diwylliant, iaith a hunaniaeth, ac mae’n creu adroddiadau a dogfennau sydd ar gael yn ddigon hygyrch drwy ein gwefan.

“Y syniad yw cael y gymuned tu allan i ddefnyddio’r adnoddau, fel ein bod ni’n sicrhau bod ysgolion, llyfrgelloedd, canolfannau celfyddydol a cholegau’n cael mynediad at y deunydd hwn oherwydd mae’n bosib fod ganddyn nhw Sipsiwn, Roma neu Deithwyr sydd ddim yn gwybod llawer am y diwylliant.

“Felly mae’n ffordd o sicrhau bod gennym ni elfen academaidd gref i’r hyn rydyn ni’n ei gynhyrchu fel eu bod nhw’n teimlo’n gyfforddus gyda’r negeseuon sy’n mynd allan i gleientiaid.”

Profiadau personol Isaac Blake

Er gwaetha’r rhagdybiaethau a’r delweddau negyddol, mae Isaac Blake yn cydnabod iddo gael magwraeth gymharol freintiedig, gan fyw ar safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yng Nghaerdydd ac yn ardal Kidderminster.

“Dw i wedi byw ar safleoedd Sipsiwn a Theithwyr, ond hefyd wedi gweithio arnyn nhw oherwydd dw i’n rhedeg Cwmni Diwylliant a Chelfyddydau Romani, ac rydyn ni’n rhedeg gweithgareddau i bobol ar y safleoedd hyn,” meddai.

“Fel arfer, mae’r safleoedd hyn ar gyrion y gymdeithas, fe gewch chi safleoedd drws nesaf i domenni sbwriel, ac weithiau rydych chi’n cael safle a wedyn tomen sbwriel a dw i’n meddwl, pam fyddech chi’n codi tomen drws nesaf i gartref rhywun? Dw i’n eitha’ sicr bod problemau’n codi gyda hynny.

“Yn amlwg, allwn ni ddim dweud beth ddylai pobol ei adeiladu ond dw i’n ceisio sicrhau, waeth beth yw’r sgwrs, waeth pa ford rydyn ni’n eistedd wrthi, fod gan Sipsiwn a Theithwyr lais, oherwydd fel arfer rydych chi’n cael eich gosod mewn bocs arbennig.

“Dw i’n meddwl, os ydyn ni’n cael sgwrs am fenywod, ble mae llais y Sipsiwn? Os ydych chi’n cael sgwrs am blant a hawliau dynol, ble mae llais y Sipsiwn?

“Os yw’n ymwneud ag addysg neu lety, dw i’n meddwl bod gan Sipsiwn lu o brofiadau maen nhw’n gallu eu rhannu gyda’r gymdeithas brif ffrwd – y cyfan sydd yn eisiau yw llwyfan i gynnal y sgyrsiau hynny.

“Dw i’n freintiedig iawn bod gen i deitl, swydd a chyflog felly, i raddau, mae’n rhaid i bobol wrando arna i oherwydd dw i’n gyfarwyddwr elusen. Maen nhw’n gallu dewis peidio gwrando, wrth gwrs, ond mae pobol fel arfer yn gwrando wrth ddod i ddigwyddiadau.

“Ond nid dyna brofiad y rhan fwyaf o Sipsiwn a Theithwyr, gyda’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n byw ar gyrion y gymdeithas, yn cael eu cau allan ac, i raddau, bron yn cael eu herlid.”

Defnyddio’i brofiadau yn wyneb deddfwriaeth

Mae Isaac Blake, felly, yn benderfynol o ddefnyddio’i brofiadau ei hun i helpu pobol eraill i frwydro yn erbyn y ddeddfwriaeth newydd sydd wedi’i chyflwyno gan San Steffan.

Mae’n dweud bod profiadau’r unigolyn “yn bersonol iddyn nhw”, ond ei fod yn poeni yn dilyn pasio’r ddeddfwriaeth fis diwethaf.

“Mewn gwirionedd, yr hyn mae’n ei olygu yw, o’r blaen os oeddech chi’n aros ar ddarn o dir a doedd gyda chi ddim caniatâd, mater sifil oedd e,” meddai.

“Ond nawr, mater cyfreithiol yw e felly gallwch chi golli’ch cartref, cael eich rhoi yn y carchar a chael dirwy os yw’n mynd mor bell â hynny.

“Mae bod yn y gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn frawychus iawn ar hyn o bryd oherwydd mae yna bolisïau sydd, yn anffodus, yn torri ar draws gwneud gwahaniaeth go iawn a chael effaith ar y gymuned.

“Mae llawer o’n gwaith yn ymwneud â dod â chymunedau ynghyd mewn gofod, ac mae’n ffordd dda o gael sgyrsiau am hanes, diwylliant, iaith a hunaniaeth.

“Rydyn ni hefyd yn cynnal ambell symposiwm academaidd a digwyddiadau hyfforddi fel ffordd o gyfrannu at bolisïau oherwydd, yn y pen draw, rydyn ni eisiau gwneud gwahaniaeth i bobol ar lawr gwlad.

“Mae’n beth da bod gennym ni brofiad yr holl academyddion hyn, ond os nad yw’r wybodaeth honno’n hygyrch, yna dydyn ni ddim wir yn mynd i wneud gwahaniaeth.

“Felly mae llawer o fy ngwaith yn ymwneud â sicrhau bod lleisiau academaidd yn hygyrch i bobol ar lawr gwlad.

“Rydyn ni’n cydweithio â heddluoedd lleol, Llywodraeth Cymru a’r sector gwirfoddol fel ffordd o’u cefnogi nhw oherwydd byddan nhw’n dod i gysylltiad â Sipsiwn, Roma a Theithwyr, weithiau heb wybod unrhyw beth am eu hanes, diwylliant a’u haith a fyddan nhw ddim yn gwybod sut i ymdrin â’r bobol hyn neu sut orau i’w cefnogi nhw.

“Felly rhoi cymorth ac awgrymiadau yw llawer iawn o fy ngwaith i.”