Fis nesa’ fe fydd Prifysgol Aberystwyth yn cychwyn dathlu carreg filltir nodedig ar Faes y Brifwyl yn Nhregaron.
Fe gychwynnodd y flwyddyn academaidd gyntaf erioed ym Mhrifysgol Aberystwyth yn Awst 1872, ac mae criw’r Coleg ger y Lli wedi trefnu toreth o ddigwyddiadau i ddathlu’r pen-blwydd yn 150 oed yn y Steddfod Genedlaethol eleni.
Ar ddydd Mawrth y Steddfod fe fydd cyfle ar stondin Prifysgol Aberystwyth i weld cerflun o Is-ganghellor cyntaf erioed y sefydliad addysg uwch, sef Thomas Charles Edwards.
Hefyd bydd modd gweld bathodyn carchar y bardd enwog o Bontardawe, Gwenallt, a fu yn ddarlithydd Cymraeg yn Aberystwyth ac a gafodd ei garcharu am wrthod mynd i ryfela adeg y Rhyfel Byd Cyntaf.
Cyfle i weld Panti
Ar ddydd Sul cynta’r Steddfod (31 Gorffennaf), cynhelir diwrnod agored yn Neuadd Pantycelyn, gan gynnig y cyfle cyntaf i’r cyhoedd a chyn-fyfyrwyr ymweld â’r llety myfyrwyr eiconig ers iddi ail-agor ar ei newydd wedd yn 2020 yn ystod y pandemig.
“Mae dechrau ar ein dathliadau 150 mlwyddiant yn gyfle heb ei ail i drin a thrafod hanes cyfoethog y Brifysgol, ac i edrych ymlaen hefyd,” meddai Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth, Elizabeth Treasure.
“Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi gweld llawer o ddatblygiadau cyffrous yma. Un ohonyn nhw, ac un sydd o bwysigrwydd eithriadol i’r Gymraeg, yw ail-agor Neuadd Pantycelyn, sy’n ofod mor bwysig i’r Gymraeg yn lleol ac yn genedlaethol.
“Rydyn ni hefyd yn sefydliad sy’n tyfu, gyda’r Ysgol Gwyddor Filfeddygol gyntaf yng Nghymru yn agor yma’r llynedd, ac addysg nyrsio yn cychwyn am y tro cyntaf ym mis Medi eleni. Mae gennym ni lawer iawn i’w ddathlu yn y Brifwyl eleni felly.”
Hefyd ar Sul cynta’r Steddfod yn y Babell Lên fe fydd criw yn cofio Dr Tedi Millward, un o hoelion wyth Adran y Gymraeg yn Aberystwyth.
Bydd cyflwyniadau gan Bleddyn Owen Huws, Llio Millward, Cynog Dafis, Huw Edwards a Mark Lewis Jones, yr actor wnaeth bortreadu Tedi Millward yn dysgu Prins Charles i siarad Cymraeg yn un o bennodau’r gyfres The Crown ar Netflix.
Un fach felys i’r pop-garwyr
Bydd cyfle i glywed enwau amlwg yn trafod un o raglenni roc a phop chwedlonol y Sîn Roc Gymraeg ar ddydd Gwener y Steddfod.
Dan faner Prifysgol Aberystwyth, bydd Dafydd Rhys, Eddie Ladd, Gethin Scourfield yn trafod eu rhan yn y gwaith o greu’r rhaglen seminal Fideo 9, ac yn cnoi cil ar hanes fideos cerddoriaeth Gymraeg.
Bydd y sgwrsio yn cychwyn am hanner awr wedi dau ym Mhabell y Cymdeithasau 2.