Ydach chi’n cofio Toast Toppers, Arctic Roll neu Findus Crispy Pancakes? Ydych chi’n cofio’r tro cynta’ i chi weld afocado neu flasu hufen iâ? Ydy arogl rhai bwydydd yn mynd a chi nôl i’ch plentyndod neu wyliau hudolus yn yr haul? Ydach chi’n hoffi coginio neu’n estyn am Pot Noodle ar ddiwedd diwrnod o waith? Mae’r gyfres newydd yma’n bwrw golwg ar atgofion rhai o wynebau cyfarwydd Cymru am fwyd a sut mae hynny wedi dylanwadu eu harferion bwyta heddiw. Yr artist Dewi Tudur, sy’n dod o’r Wyddgrug yn wreiddiol a bellach yn byw yn Tuscany yn yr Eidal, sydd Ar Blât yr wythnos hon…

 

Vesta Chow Mein, ffefryn tad Dewi Tudur

O’dd Dad yn arfer cadw pacedi o Vesta Chow Mein ar silff ucha’r pantri. Dim ond y fo oedd yn cael agor y bocsys ac adio’r dŵr poeth.

Bwyd astronaut, dyna oeddwn i’n ei alw fo, a dyna oedd fy atgof cynta’ o fwyd yn tŷ ni. Mam oedd yn coginio, jyst adio dŵr poeth i bacedi oedd Dad.

Mae genna’i atgofion clir o ddwy siop yn Yr Wyddgrug yn y 1960au. Roberts, oedd yn gwerthu boiled ham, a Hulsons, oedd yn gwerthu porc peis.

Pan oeddwn i’n byw nôl yng Nghymru, rhain oedd yn rhoi cysur i mi – porc peis.

Yma yn yr Eidal fydda’i yn crefu am rai ac, wrth gwrs, platiad o bysgodyn a chips, pys slwtsh a bara gwyn wadin, fel dw i’n ei alw fo.

Llun dyfrlliw o borc pei gan Dewi Tudur

Mae fy mhryd bwyd delfrydol wedi newid dros y blynyddoedd.  Cinio Dydd Sul traddodiadol oedd yr un ar ben y rhestr slawer dydd. Erbyn hyn, ma spaghetti alle vongole ar frig y rhestr.

Yn y gwres tanbaid yma yn Toscana, cinio fydd ambell domato, mozzarella a sblash o olew. Salad Mam slawer dydd oedd ŵy ‘di ferwi, deilan letys, tomato a Ye Olde Oak ham o dun.

Y fast food fydda’i yn troi ato dyddiau yma ydy powlen o basta hefo mymryn o pesto.

Mae gen i gof clir o hen wraig yn ymlwybro mewn i fwyty yma yn yr Eidal yn y 1960au. Bob nos am 7pm mi eisteddai ar ei phen ei hun yn y gornel a bwyta powlen o basta yn araf, araf. Dim byd arbennig am hynny ond mae’r ddelwedd wedi aros hefo fi.

Mae’r rysait faswn i’n hoffi rannu hefo chi yn cynnwys y porc pei…

Rysáit

Un porc pei.

Bara wadin.

Piccalilli.

Mwstard.

Tomato.

 

Dull

Rhowch y cwbl ar blât a mwynhewch!

Mi fedrwch chi ddarllen atgofion bwyd yr actor a’r awdur Rhian Cadwaladr yma… 

Rhian Cadwaladr… Ar Blât

Bethan Lloyd

O datws yn popdy i hufen iâ Bertorellis, Rhian Cadwaladr sy’n rhannu ei hatgofion bwyd gyda golwg360 mewn cyfres newydd sbon