Rhian Cadwaladr yn blentyn

Ydach chi’n cofio Toast Toppers, Arctic Roll neu Findus Crispy Pancakes? Dach chi’n cofio’r tro cynta’ i chi weld afocado neu flasu hufen iâ? Ydy arogl rhai bwydydd yn mynd a chi nôl i’ch plentyndod neu wyliau hudolus yn yr haul? Be dach chi’n estyn amdano i wella hangofyr? Mae’r gyfres newydd yma’n bwrw golwg ar atgofion rhai o wynebau cyfarwydd Cymru am fwyd a sut mae hynny wedi dylanwadu eu harferion bwyta heddiw. Yr awdur ac actor Rhian Cadwaladr sydd Ar Blât yr wythnos hon…

Wnes i dreulio tair blynedd gynta’ fy mywyd yn byw yn Rock Terrace, Llanberis ac mae gen i gof clir o glywed sŵn tincial miwsig y fan hufen iâ yn y ffordd islaw, a Mam yn mynd i nôl lolipop blas banana i mi. Mi symudon ni i fyw i’r stryd fawr wedyn a doedd y fan hufen iâ ddim yn galw yno.

Roedd mam yn rhedeg caffi yn ystafell ffrynt tŷ ni o’r Pasg tan ddiwedd Medi o pan oeddwn i’n bedair hyd o’n i’n 14. Arferai fy nhad fod yn chef yn yr awyrlu pan oedd o’n ddyn ifanc, felly mi roedd fy rheini yn medru coginio ond anaml fyddai dad yn gneud am ei fod o’n gwneud gormod o lanast yn y gegin, yn ôl mam. Mi fyddai mam yn gwneud prydau traddodiadol fel lobsgóws, tatws yn popdy a thatws pum munud ond y 1960au a’r 1970au oedd hyn – oes aur bwydydd parod. Dw i’n cofio cael lot o rheini – Findus Crispy Pancakes, Fray Bentos Steak and Kidney Pie; Birds Eye Chicken Pies, Heinz Toast Toppers, Campbells Meat Balls, Angel Delight a Birds Eye Trifle. A dweud y gwir mi roedd yn lawer gwell gen i fwyd cartre’, ac efallai mai dyna pam dw i wastad yn coginio o ‘scratch’ rŵan a fydda’i fyth yn prynu prydau parod.

Cacen ydi fy ateb i i bopeth – i ddathlu, diolch, cydymdeimlo ac yn sicr i gysuro. Cacen spwnj efo hufen a ffrwythau ynddi; cacen goffi a chnau; cacen foron; cacen lemon; bara brith…unrhyw gacen hôm mêd!

Cinio Dolig ydy fy mhryd delfrydol – efo’r holl drimmings a treiffl i bwdin, adra yma efo’r teulu i gyd. Mi roddodd Covid 19 y caibotsh ar hynny llynedd a’r flwyddyn gynt a dw i’n mawr obeithio fydd pethau yn wahanol eleni.

Mae pob mathau o fwydydd yn gallu tanio atgofion. Roedd yna siop hufen iâ ar y Maes yng Nghaernarfon flynyddoedd maith yn ôl – Bertorelli’s. Mi fyddwn i yn cael mynd yno weithiau i gael hufen iâ mewn glasiad bach, ac yng ngwaelod y glasiad roedd yna saws melys, blasus. Ddeallais i ddim tan ychydig flynyddoedd yn ôl mai Vimto oedd hwn. Rŵan os ro’i dropyn o Vimto ar fy hufen iâ dw i nôl yn eistedd ar un o’r cadeiriau pren seddi crwn yn Bertorelli’s yn gwylio perchennog y siop, efo’i fwstas mawr a’i ffedog wen, yn rhoi’r hufen iâ yn y gwydrau bach.

Gwsberis sy’ wastad yn f’atgoffa i o’r haf. Gan nad ydyn nhw mond yn y siopa am gyfnod byr iawn yn yr haf maen nhw’n rhywbeth fyddai wastad yn cysylltu efo’r haf. Mi fydda’i yn rhewi rhai ac yn cael crymbl yng nghanol y gaea’ i ddod ag ychydig o heulwen i’r tŷ.

Os dw i’n gwneud bwyd i bobl eraill mi fydda’i yn gwneud tapas neu ‘bwyd pigo’ fel dan ni’n ei alw yn tŷ ni. Lot o blatiau bach efo rhywbeth neith apelio at bawb yn cynnwys cig, pysgod a llysiau. Os dwi’n dod ’nôl adra yn hwyr y nos ac yn llwgu dw i licio brechdan greision caws a nionyn.

Dw i wedi bod yn casglu rysetiau ers pan o’n i tua 12 oed a llynedd fues i’n ddigon lwcus i gael cyhoeddi rhai o’r rhain mewn llyfr coginio o’r enw Casa Cadwaladr. Gan mod i yn ei chael hi’n anodd cofio rysetiau ac yn aml yn colli’r darnau o bapur (neu ddim yn deall fy llawysgrifen fy hun) dw i wrth fy modd o gael fy hoff rai i gyd yn saff mewn un lle rŵan!  Dyma i chi un o fy rysetiau hynaf sef rysáit tatws yn popty mam:

 


 

Tatws yn popdy

Digon i 4

Cynhwysion

  • 4 golwythen (chop) porc
  • llwyaid o olew
  • 3 taten fawr
  • 1 nionyn
  • 2 foronen
  • 2 pannas
  • hanner rwdan (swejen)
  • deilen lawryf (bay leaf)
  • ychydig o ddail saets neu deim neu ysgytwad o saets/teim wedi sychu
  • ychydig o flawd plaen
  • halen a phupur

Dull

  1. Rhowch y popty ymlaen ar nwy 3 / 160 / 140c
  2. Pliciwch y foronen, y pannas a’r rwdan (neu pa bynnag lysiau tebyg sydd gennych) a’u torri’n ddarnau.
  3. Sleisiwch y nionyn.
  4. Pliciwch y tatws a’u torri’n ddarnau reit fawr.
  5. Gosodwch y golwythi porc ar waelod tun rhostio mawr a rhoi ychydig o halen a phupur arnynt.
  6. Gosodwch weddill y llysiau, y ddeilen lawryf a’r saets dros y cig.
  7. Tywalltwch ddŵr dros y cig a’r llysiau   dylai pen y tatws fod yn sefyll allan o’r dŵr.
  8. Taenwch ychydig o flawd dros ben pob taten ac ychwanegwch fwy o bupur a halen.
  9. Gorchuddiwch y tun gyda ffoil a’i roi yn y popty.
  10. Coginiwch am awr a hanner cyn tynnu’r ffoil a’i goginio am 30-45 munud arall nes bod y llysiau i gyd wedi coginio a phennau’r tatws wedi dechrau cochi. Ychwanegwch fwy o ddŵr yn ystod y cyfnod yma os bydd angen.