Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn manteisio ar Sioe Llanelwedd i lansio cynlluniau i adfywio canolbarth Cymru.

Maen nhw’n dadlau bod y rhanbarth yn cael ei esgeuluso a’i anghofio gan San Steffan a Bae Caerdydd, a bod hynny wedi cyfrannu at ddirywiad dros y blynyddoedd.

Mae cynlluniau’r blaid yn canolbwyntio ar drawsnewid economi’r canolbarth i fanteisio ar batrymau cyflogaeth gwahanol yn sgil Covid-19.

Mae’r cynlluniau’n cynnwys:

  • Gwella cysylltedd yn sylweddol, boed yn ddigidol neu’n gorfforol, gan sicrhau y gall pobol a busnesau fanteisio ar y cynnydd mewn gweithio gartref ac fel bod modd i dwristiaid gael mynediad hawdd i’r rhanbarth
  • Ehangu’r Rhyddhad Treth Tanwydd Gwledig i’r canolbarth, a dyblu’r gostyngiad i 10c y litr, gan leddfu’r argyfwng costau byw a sicrhau bod modd i bobol gyrraedd y gwaith o hyd
  • gwarchod mynediad at fancio mewn person, rhoi pwysau ar fanciau mawr i fuddsoddi mewn hybiau bancio ar gyfer cymunedau gwledig lle mae banciau’n cydweithio i rannu gofod i gynnig gwasanaethau arian parod a bancio mewn person
  • gwella mynediad at ofal iechyd yn y canolbarth, gan ymgyrchu tros ddychwelyd mwy o wasanaethau i gymunedau lleol, mwy o fuddsoddiad mewn gwasanaethau cymdeithasol a deintyddion teithiol i leddfu’r rhestrau aros hir
  • cyflwyno mesurau i helpu busnesau yn y rhanbarth i dyfu, gan gynnwys cronfa adfywio trefi, symleiddio’r broses gynllunio a sefydlu Premiwm Creu Swyddi i leddfu costau cychwynnol recriwtio a hyfforddi i fusnesau sy’n awyddus i dyfu
  • mynd i’r afael â’r argyfwng tai yn y canolbarth, gan fod nifer o bobol ifanc yn cael eu prisio allan o’r farchnad dai leol, yn enwedig yng Ngheredigion. Byddan nhw’n gofyn i awdurdodau lleol osod y lefel uchaf o dreth y cyngor i bawb, yn hytrach nag ar brif gartrefi, gan geisio cau bylchau sy’n galluogi pobol i fanteisio ar y sefyllfa i ddynodi ail gartrefi’n fusnesau.

‘Esgeuluso’

“Ers degawdau, mae canolbarth Cymru wedi cael ei esgeuluso’n barhaus gan y Llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd a’r Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan,” meddai’r arweinydd Jane Dodds, sy’n cynrychioli Canolbarth a Gorllewin Cymru yn y Senedd.

“Mae canolbarth Cymru’n haeddu bod yn rym economaidd ynddo’i hun, gan gysylltu de a gogledd Cymru, yn ogystal â chysylltu Cymru â chanolbarth Lloegr, yn hytrach na bod yn diriogaeth gafodd ei hanghofio fel mae’r Torïaid a Llafur wedi galluogi iddi fod.

“Er gwaethaf blynyddoedd o gynrychiolaeth Geidwadol ym Mhowys, maen nhw wedi methu â gweithredu ar nifer o flaenoriaethau allweddol i’r rhanbarth.

“Yn fwyaf nodedig mae’r methiant llwyr i gael ymestyn yr ad-daliad treth wledig i ganolbarth Cymru, rhywbeth y bu’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru’n ymgyrchu drosto ers dros ddeng mlynedd ac wedi ei weld yn cael ei atal gan y Llywodraeth Geidwadol drwy gydol yr amser hwnnw.

“Yn yr un modd, dydy addewidion Ceidwadol i wella mynediad y rhanbarth i’r rhyngrwyd ddim wedi’u gwireddu, gyda ffigurau a gafodd eu cyhoeddi’r mis hwn yn dangos bod gan Bowys y cyflymdra rhyngrwyd gwaethaf ledled y Deyrnas Unedig gyfan, tra bod Ceredigion hefyd yn perfformio’n wael.

“Ar y llaw arall, mae Llafur yn parhau i fethu canolbarth Cymru, yn enwedig o ran mynediad at ofal iechyd.

“Mae hi bron yn amhosib cael mynediad i wasanaethau deintyddol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ac amserau aros am ambiwlansys wedi cynyddu heibio’r entrychion.

“Mae angen buddsoddiad mewn gofal iechyd cymunedol a gwasanaethau cymdeithasol arnom er mwyn osgoi adeiladu i fyny’r mannau argyfyngus mewn unedau damweiniau ac achosion brys.

“Tra bod Llafur a’r Ceidwadwyr wedi esgeuluso canolbarth Cymru ers degawdau, fe fu gan y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wreiddiau dwfn yng nghanolbarth Cymru ac mae pobol yn gwybod, o gael cyfle, y byddwn yn llais croch i’r rhanbarth yn San Steffan a Bae Caerdydd.

“Rwy’n falch o gael cyflwyno’r cynllun hwn heddiw sydd â rhywbeth i bawb yng nghanolbarth Cymru ac a fyddai’n mynd peth o’r ffordd tuag at fynd i’r afael â’r problemau mae ein rhanbarth yn eu hwynebu.”