Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn lansio cynllun “uchelgeisiol” yn Llanelwedd i annog entrepreneuriaeth, a hybu swyddi a llewyrch yng nghanolbarth Cymru.
Mae James Evans, llefarydd Canolbarth Cymru’r Ceidwadwyr Cymreig, yn dweud bod Llafur wedi canolbwyntio ar dde’r wlad yn ystod eu chwarter canrif mewn grym ers dechrau datganoli, ac wedi cyhoeddi wyth polisi i adfywio’r ardal.
Yr wyth polisi yw:
- hybu swyddi a buddsoddiad yn y canolbarth drwy leihau’r faich ar fusnesau
- torri treth y cyngor drwy Gronfa Cefnogi Prentisiaethau, gan helpu’r rhai sydd eisiau hyfforddi ac aros yn y canolbarth
- ymgyrchu i ehangu’r rhyddhad treth tanwydd yn y canolbarth i gefnogi swyddi a’r economi leol
- mynd i’r afael â materion sy’n cael effaith ar gymunedau gwledig drwy gyflwyno Cronfa Adnewyddu Pentrefi
- sicrhau gofal iechyd effeithlon i’r canolbarth drwy uwchraddio ysbytai cymunedol i sicrhau mwy o driniaethau arbenigol yn lleol
- moderneiddio’r A470 er mwyn gwella llif traffig, manteisio ar y cyfle i gyflwyno mwy o fannau gwefru ceir
- ehangu’r cynnig i dwristiaid a chefnogi busnesau lleol i greu swyddi drwy sefydlu Bwrdd Twristiaeth i’r canolbarth
- gwarchod cefn gwlad ar gyfer y dyfodol drwy roi statws Ardal O Harddwch Eithriadol i fynyddoedd Cambria
Maen nhw’n dweud bod y canolbarth wedi methu â chystadlu â gweddill Cymru, gan fod yno gyn lleied o fusnesau canolig, diffyg cyllid gan lywodraeth leol, ac y bydd yn dioddef o ganlyniad i’r cynlluniau i gyflwyno treth dwristiaeth gan wthio darparwyr llety allan.
‘Pecyn uchelgeisiol o fentrau’
“Rwyf wrth fy modd o gael lansio Cynllun y Ceidwadwyr Cymreig ar gyfer canolbarth Cymru sydd wedi bod yn yr arfaeth ers cyhyd, oherwydd mae gwir angen cefnogaeth ar gymunedau canolbarth Cymru ar ôl cael eu hanwybyddu ers degawdau gan Lafur, wedi’u cefnogi gan Blaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol,” meddai James Evans.
“Mae angen pecyn uchelgeisiol o fentrau arnom fel hwn i adfywio’r economi ar ôl Covid, a gobeithio ar ôl Llafur oherwydd bydd yn cael ei gadael ar ôl eto os nad ydym yn ailbwyso’r glorian nawr.
“Mae gan ein cynllun gynigion cyffrous sy’n lleihau trethi i fusnesau ac unigolion, sydd o fudd i bobol o bob grŵp oedran, sy’n cefnogi ein diwydiannau mwyaf gwerthfawr, sy’n dathlu ein tirluniau, ac sy’n ariannu isadeiledd y bu mawr ei angen ers amser hir.
“Tra ein bod ni, yn drist iawn, yn gweld pleidiau eraill ag obsesiwn ynghylch trethi ein sectorau mwyaf blaenllaw a chanolbwyntio ar greu mwy o wleidyddion ym Mae Caerdydd yn hytrach na mwy o swyddi yng nghanolbarth Cymru, dydy’r Ceidwadwyr Cymreig ddim yn ymddiheuro am fod yn uchelgeisiol yn ein gweledigaeth ar gyfer Cymru, ac yn sefyll yn barod i’w chyflwyno.”