Daeth cadarnhad neithiwr (nos Iau, Gorffennaf 21) mai casgliad Y Pump ddaeth i’r brig yng ngwobr Barn y Bobl golwg360 eleni, yn dilyn pleidlais agored gan ein darllenwyr.

Pum nofel onest, bwerus a diflewyn-ar-dafod gan rai o’n hawduron ifanc mwyaf blaengar yw’r gyfres.

Mae Y Pump yn cofleidio cymhlethdodau pum ffrind ym Mlwyddyn 11 Ysgol Gyfun Llwyd – Tim, Tami, Aniq, Robyn a Cat.

Mae’r pum nofel yn dilyn criw o ffrindiau wrth iddyn nhw ddarganfod y pŵer sydd gan eu harallrwydd pan maen nhw’n dod at ei gilydd fel cymuned.   

Yn wreiddiol, cafodd y pum llyfr yng nghyfres Y Pump eu cyflwyno fel cyfrolau unigol, ond barn y beirniaid oedd fod cyfrolau’r gyfres mor gysylltiedig, a’r cymeriadau yn ymddangos drwyddi-draw, fel nad oedd modd gwahaniaethu rhyngddyn nhw.

“Balch iawn” o’r berthynas

Mewn sgwrs ar raglen arbennig Llyfr y Flwyddyn ar Radio Cymru i gyhoeddi canlyniad y bleidlais, dywedodd Owain Schiavone, Prif Weithredwr Golwg Cyf, fod y berthynas rhwng golwg360 a Llyfr y Flwyddyn yn dyddio yn ôl i 2010.

“Mae’r berthynas rhwng golwg360, Llyfr y Flwyddyn a Barn y Bobl, yn benodol, yn ymestyn yn ôl bron mor bell â fy mherthynas i efo golwg achos yn ystod fy mlwyddyn gyntaf i’n gweithio i’r cwmni, roedden ni’n gyfrifol am redeg pleidlais Barn y Bobl am y tro cyntaf,” meddai.

“Yn amlwg mae golwg, ers i’r cylchgrawn gael ei gyhoeddi gyntaf ym 1988, wedi rhoi lle amlwg i ddiwylliant, i’r celfyddydau ac i lenyddiaeth yn arbennig.

“Felly rydan ni’n rhoi dipyn o bwys ar lenyddiaeth Gymraeg a dw i’n falch iawn o’r cysylltiad efo Llenyddiaeth Cymru a Llyfr y Flwyddyn yn arbennig.”

Cystadleuaeth agos neu enillydd clir?

“Dw i’n tueddu i ffeindio bod unrhyw bleidlais yn boblogaidd dros ben ac mae hynny’n wir efo Barn y Bobl,” meddai Owain Schiavone wedyn.

“Mae’n amlwg bod ein cynulleidfa ni’n gwerthfawrogi llenyddiaeth ac unwaith eto maen nhw wedi bod yn pleidleisio yn y niferoedd uchel iawn.

“Mae pawb yn gwerthfawrogi gwaith da’r awduron a’r gweisg, wrth gwrs, sydd yn cyhoeddi’r cyfrolau yma.

“Mae hi’n deg i ddweud bod yna rhyw dair cyfrol oedd dipyn ar y blaen i’r lleill.

“Ond dw i’n meddwl bod yr enillydd, o’r hyn dw i wedi gweld o’r ganran yn y bleidlais, yn weddol glir yn y diwedd.”

Yn ail yn y bleidlais roedd Hela gan Aled Hughes, gyda 19% o’r bleidlais, ac yn drydydd roedd Mori gan Ffion Dafis, gydag 16% o’r bleidlais.

Cyfle i artist newydd ddylunio’r wobr

Bu cwmni Golwg yn gweithio mewn cydweithrediad â Phrifysgol y Drindod Dewi Sant er mwyn creu tlws i enillydd pleidlais Barn y Bobl.

“Eto, oherwydd y pwys rydan ni’n rhoi ar y celfyddydau ac ar gelf hefyd, rydan ni wastad yn awyddus i roi cyfle i artist ifanc i gynllunio ac i greu’r gwaith celf sy’n cael ei roi fel gwobr ar gyfer Llyfr y Flwyddyn.

“Dw i’n falch iawn ein bod ni unwaith eto yn cydweithio gyda’r Coleg Celf yn Abertawe, Prifysgol y Drindod Dewi Sant, a’u darlithydd nhw, Gwenllian Beynon, i gynnig cyfle i fyfyrwraig o’r enw Karen McRobbie.”

“Mae adrodd stori, adeiladu cymeriadau a chreu awyrgylch yn rhan annatod o fy ngwaith,” meddai Karen McRobbie wedyn.

“Hoffwn barhau i ddatblygu fy sgiliau peintio a sgiliau cyfryngau digidol, gyda’r bwriad o ddatblygu a mireinio fy ngallu i ddatblygu amgylcheddau ac adeiladu byd ar gyfer fy naratifau.”

Barn y Bobl: Llyfr y Flwyddyn 2022

Pleidleisiwch dros eich hoff gyfrol – y bleidlais yn cau ddydd Llun Gorffennaf 11!