Mae’r deuddeg llyfr sydd wedi cyrraedd Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn eleni wedi cael eu henwi.

Bydd y beirniaid – Melanie Owen, Mirain Iwerydd, Siwan Rosser a Gwion Hallam – yn penderfynu ar enillwyr y pedwar categori a’r brif wobr.

Fodd bynnag, mae cyfle i’r darllenwyr gael dweud eu dweud a phleidleisio dros eu hoff gyfrol yng nghystadleuaeth Barn y Bobl mewn cydweithrediad â golwg360.

Bydd y bleidlais yn aros ar agor tan Orffennaf 11, a’r enillydd yn cael ei gyhoeddi ar Radio Cymru ar Orffennaf 21 ynghyd â Phrif Enillydd 2022.


Barddoniaeth

Cawod Lwch – Rhys Iorwerth

Saith mlynedd yn ôl, cyhoeddodd Rhys Iorwerth ei gyfrol gyntaf – Un Stribedyn Bach. Canu gŵr yn ei ugeiniau oedd y casgliad hwnnw. Bellach, wedi pymtheg mlynedd yn y brifddinas, mae wedi gadael Caerdydd ac wedi symud yn ôl i Gaernarfon, lle mae’n awdur ac yn gyfieithydd llawrydd. Mae hefyd wedi priodi a chael dau o blant. Dyma ddeunydd nifer o gerddi’r casgliad hwn – cerddi’r tridegau, cerddi newid byd.

Mae’n gweld bod pethau wedi newid ar Gymru yn yr un cyfnod – mae’r cymunedau Cymraeg dan fwy o bwysau ac mae gwleidyddion Llundeinig a’r argyfwng hinsawdd yn rhoi min i’w linellau. Cafwyd cyfnod coffáu’r Rhyfel Mawr; gwelwyd twf enfawr mewn technoleg rithwir; digwyddodd Brexit a daeth pandemig. Dathlwyd heulwen yr Ewros yn 2016.

Plethiad o’r personol a’r cymdeithasol sydd yn y cerddi hyn. Plethiad o’r heulog a’r drycinog, y dwys a’r ysgafn, y mawr a’r mân. Ym mhob cerdd ac ym mhob cywair, mae’r ddawn wedi’i hogi’n fain wrth i eiriau droi’n lluniau cofiadwy. Dyma bencerdd ar sawl mesur ac mae’r amrywiaeth sydd ganddo i’w gynnig yn dal hwyl, her a hagrwch ein dyddiau.

Bardd ac awdur o Gaernarfon ydi Rhys Iorwerth. Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2011, a gwobr barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn 2015 am ei gasgliad, Un Stribedyn Bach (Gwasg Carreg Gwalch). Cyhoeddodd ei gyfrol ryddiaith gyntaf, Abermandraw (Y Lolfa), yn 2017. Yn 2020, enillodd Wobr Michael Marks am Farddoniaeth yn yr Ieithoedd Celtaidd am ei bamffled, Carthen Denau (Y Stamp). Mae’n perfformio’n gyson mewn digwyddiadau llenyddol ledled Cymru, ac yn un o sefydlwyr nosweithiau byw Bragdy’r Beirdd yng Nghaerdydd a Chaernarfon, ac ar y we. Mae hefyd yn dysgu dosbarth cynganeddu, yn cynnal gweithdai barddoni mewn ysgolion. Mae’n dalyrnwr ac yn ymrysonwr gyda thimau Dros yr Aber a’r Deheubarth, ac mae wedi ennill Gwobr Goffa Dic Jones am gywydd gorau cyfres Y Talwrn ar BBC Radio Cymru dair gwaith (yn 2013, 2019 a 2021). Ddiwedd 2021, cyhoeddodd ei ail gyfrol lawn o farddoniaeth, sef Cawod Lwch (Gwasg Carreg Gwalch).

merch y llyn – Grug Muse

Yn y ‘bargeinio rhwng meddalwch a chadernid’ y mae cerddi merch y llyn, ail gyfrol Grug Muse, yn digwydd; yn y cyrff o ddŵr sy’n ddihangfa ac yn fygythiad yn un gwynt. Mae haenau daeareg yn datgelu haenau’r hunan, mewn gwaith sy’n dangos fod y ffin rhwng poen a phleser, rhwng y cignoeth a’r synhwyrus, mewn gwirionedd yn denau iawn.

Mae Grug Muse yn fardd ac ysgrifwr o Ddyffryn Nantlle. Enillodd Gadair Eisteddfod yr Urdd yn 2013, a chyhoeddodd ei chasgliad cyntaf, Ar Ddisberod (Cyhoeddiadau Barddas), yn 2017. Mae ei gwaith wedi ei gyfieithu i’r Almaeneg, Groeg a Latgaleg.

Stafelloedd AmhenodolIestyn Tyne

Casgliad o sonedau yw Stafelloedd Amhenodol, y drydedd gyfrol o farddoniaeth gan Iestyn Tyne. Maen nhw’n gerddi sy’n aflonyddu ac yn cyffroi; yn fyfyrdodau tyner, chwyrn ar gyflwr cymuned, cynefin a byd.

Mae Iestyn Tyne yn gyd-sylfaenydd a chyd-olygydd cylchgrawn a chyhoeddiadau’r Stamp. Enillodd gadair Eisteddfod yr Urdd yn 2019. Mae wedi cyhoeddi tair cyfrol o farddoniaeth, a chyhoeddodd ei nofel gyntaf i oedolion ifanc, Robyn yng nghyfres Y Pump (Y Lolfa), yn 2021. Mae’n un o gyd-olygyddion yr antholeg ysgrifau Welsh (Plural) a gyhoeddir gan Repeater Books yn 2022.


Ffeithiol Greadigol

Dod ‘Nôl at fy Nghoed – Carys Eleri

Mae Carys Eleri yn ein tywys trwy goedwig galar, ei gonestrwydd a’i hiwmor fel chwa o awyr iach. Wrth droedio ar hyd cyfnod anodd iddi hi a’i theulu mae’n dangos sut y gall cariad a chwerthin fod yn therapi. Ac mae’n rhannu sut y daeth hi ‘nôl at ei choed gyda help ffrindiau, natur a thaith feiciau anhygoel.

Mae Carys Eleri yn adnabyddus fel y cymeriad Myfanwy yn y ddrama boblogaidd Parch ar S4C ac am ei sioe gomedi ddwyieithog Lovecraft (Not the sex shop in Cardiff) / Cer i Grafu… Sori… Garu! Mae’n actores, yn gantores, yn gyflwynwraig, ac yn gynhyrchydd.

Paid â Bod Ofn – Non Parry

Yn ei hunangofiant cignoeth, mae’r gantores Non Parry yn codi’r llen ar glamyr bywyd yn llygad y cyhoedd ac yn trafod iechyd meddwl yn onest iawn.

Fel aelod o Eden, daeth Non yn wyneb cyfarwydd pan oedd hi ond yn 22 oed. Dros nos roedd hi’n gwireddu breuddwyd gyda’i ffrindiau gorau, Emma a Rachael. Ond y tu ôl i’r gytgan “Paid â bod ofn”, roedd yna Non wahanol iawn.

Yn 2018 daeth yr amser i gyfaddef y gwir: roedd ofn lot fawr o bethau arni. Wedi blynyddoedd o ddioddef yn dawel, digon oedd digon.

“Pryd dwi’n mynd i fod yn normal?” gofynnodd ar goedd.

Dyma ei stori hi – y plentyn ansicr yn dioddef o OCD a gorbryder aeth ymlaen i berfformio o flaen miloedd, a’r wraig a’r fam berffaith amherffaith sydd wedi dysgu byw gyda heriau salwch ei gŵr Iwan John a’r effaith gafodd blynyddoedd o ddisgwyl am drawsblaniad ar y teulu cyfan.

Mae Non Parry yn aelod o’r grŵp pop hynod boblogaidd, Eden. Mae hefyd yn ysgrifennu sgriptiau ac ar hyn o bryd yn astudio gradd MA mewn Psychotherapeutic Practice. Mae ganddi podlediad poblogaidd ar BBC Radio Cymru, sef Digon yw digon – amser i gael sgwrs onest am iechyd meddwl.  

Eigra: Hogan Fach o’r Blaena – Eigra Lewis Roberts

Hunangofiant Eigra Lewis Roberts, un o’n hawduron mwyaf toreithiog. Merch o’r Blaenau yw hi ac mae’r gyfrol yn dangos maint dylanwad yr ardal honno arni. A’i llyfrau hi yw’r cerrig milltir sy’n ein tywys ninnau ar y daith.

Mae Eigra Lewis Roberts wedi cyfoethogi ein bywyd diwylliannol ni dros y blynyddoedd, gan greu nofelau a straeon arbennig a chyfresi teledu fel Minafon sy’n parhau i aros yn y cof.


Ffuglen

Mori – Ffion Dafis

Dydi Morfudd ddim yn deall pobl a dydi pobl ddim wedi trio ei deall hi. Pan mae’n derbyn cais Facebook gan ferch ifanc sy’n byw ei bywyd ar y we, mae natur chwilfrydig Morfudd yn deffro.

Wrth i’w hobsesiwn â’r ferch drydanol yma dyfu fe orfodir Morfudd i wynebu cyfrinachau ei gorffennol. A fydd y clwyfau sy’n byw yn ei chrombil yn ei gyrru i le fydd yn sigo bydoedd y ddwy am byth?

Stori gyfoes bwerus a nofel gyntaf yr actores amryddawn Ffion Dafis yn dilyn llwyddiant Syllu ar Walia (Y Lolfa, 2017).

Mae Ffion Dafis yn enwog fel actores a chyflwynwraig ar radio a theledu. O Fangor yn wreiddiol, mae’n adnabyddus am chwarae rhan Llinos yn y gyfres deledu Amdani a Rhiannon yn Byw Celwydd ar S4C. Bu’n actio rhan yr Arglwyddes Macbeth yng nghynhyrchiad arloesol Theatr Genedlaethol Cymru o ddrama Shakespeare yng Nghastell Caerffili yn 2017.

Hela – Aled Hughes

Yn yr ychydig funudau yna, mi oedd diniweidrwydd y criw o bedwar oedd yn adnabod ei gilydd ers yr ysgol feithrin wedi diflannu yn llwyr i wynt Guinness a Scampi Fries. Syllodd y pedwar i’r tân nad oedd bellach yn cynnig cysur…  Dyma nofel am gyfeillgarwch, rhagrith a chymuned. Mae’r ffrindiau bore oes, Callum, Babo, Jac-Do a Saim Bach yn gorfod tyfu i fyny’n gyflym iawn wrth i’r gymuned, ei phobl a phob dim sy’n gyfarwydd iddynt gael eu chwalu’n yfflon.

Un o Ben Llŷn yw Aled Hughes yn wreiddiol ond mae bellach yn byw yn Sir Fôn gyda Laura, Osian, Tristan a Lois. Mae’n cyflwyno ei raglen foreol ei hun ar Radio Cymru yn ogystal â chyflwyno ar y teledu.

Hannah-Jane – Lleucu Roberts

Mae Hannah-Jane yn colli ei chof, ond mae ei thafod yn siarp fel rasel, fel y gŵyr Beth ei chymdoges yn iawn.

Ond oes yna fwy na salwch y tu ôl i’r cymylau ym meddwl yr hen ddynes hon?

Wrth i’r tymhorau droi yn hanes y dre, fe ddaw golau i egluro’r dieithrwch rhwng Hannah-Jane a’i merch, Susan, a gobaith am gymod trwy ei pherthynas â’i hwyres, yr artist Ishi Mai.

Stori deuluol ddirdynnol fydd yn gwneud i chi ysu i droi’r tudalennau wrth geisio datrys y dirgelwch yng ngorffennol Hannah-Jane.

Yn wreiddiol o Llandre, ger Aberystwyth, ond yn bellach yn byw yn Rhostryfan. Bu Lleucu Roberts yn olygydd yn Y Lolfa am gyfnod ac erbyn hyn mae hi yn gwneud bywoliaeth o ysgrifennu nofelau a sgriptio ar gyfer y radio a’r teledu. Mae hi wedi ennill gwobr Tir na n-Og ar sawl achlysur ac enillodd Wobr Goffa Daniel Owen a’r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr 2014, y person cyntaf i gipio’r ddwy brif wobr ryddiaith yn yr un flwyddyn. Llwyddodd i gyflawni’r gamp hon am yr eilwaith yn 2021, yn yr Eisteddfod AmGen.


Plant a Phobol Ifanc

Pam? – Luned a Huw Aaron

Mae’r llyfr hwyliog hwn yn codi nifer o gwestiynau gan fachgen bach direidus. Mae i’r gyfrol eirfa syml ar ffurf mydr ac odl drwyddi draw, a bydd iddi ddelweddau inc lliwgar i asio â’r testun. Wrth i’r gyfrol fynd rhagddi, bydd y cwestiynau chwareus yn mynd yn fwyfwy dros ben llestri wrth i’r bachgen leisio ei rwystredigaethau.

Yn wreiddiol o Fangor, mae Luned Aaron nawr yn byw mewn tŷ llawn llyfrau yng Nghaerdydd, gyda Huw ei gwr a’u dwy ferch fach, Eos ac Olwen.

Mae Huw Aaron yn byw yng Nghaerdydd gyda’i deulu, ac yn gweithio fel dylunydd a chartwnydd. Mae Huw wedi darlunio nifer o lyfrau i blant a stribedi comig, gan gynnwys y cylchgrawn poblogaidd i blant Mellten. Mae Huw hefyd yn cyfrannu at Private Eye, The Oldie a’r Spectator yn rheolaidd.

Gwag y Nos – Sioned Wyn Roberts

‘Dim ond un rebel sy ei angen i wneud gwahaniaeth. A ti ydy honno, Magi.’

Yn 1867 mae bywyd yn anodd, ac os wyt ti’n dlawd mae’n uffern.

Ers i Magi Bryn Melys symud i Wyrcws Gwag y Nos, mae hi wedi bod yn ddraenen yn ystlys Nyrs Jenat. Ond mae bod yn rebel yn beryglus, ac un bore mae pethau’n dechrau mynd o ddrwg i waeth i Magi.

Mae’n amlwg bod rhywbeth mawr iawn o’i le yn y Wyrcws, ond pwy sydd ar fai? A fydd Magi’r rebel yn llwyddo i achub ei ffrindiau a datrys cyfrinach dywyll Gwag y Nos?

Dyma ei stori hi …

Yn wreiddiol o Bwllheli ond wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd, bu Sioned Wyn Roberts yn gweithio yn y maes darlledu plant ers dros ugain mlynedd. Ar hyn o bryd mae’n Gomisiynydd Cynnwys Plant yn S4C ac yn gyfrifol yn olygyddol am Cyw a Stwnsh. Cyn hynny, bu’n cynhyrchu ac uwch-gynhyrchu rhaglenni plant gyda’r BBC. Dewiswyd Sioned fel un o awduron cwrs Llenyddiaeth Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru (Tŷ Newydd Chwefror 2019). Dyma lle datblygodd ei syniad ar gyfer y gyfres hon o lyfrau. Credai Sioned bod creu cynnwys safonol yn y Gymraeg sy’n tanio dychymyg plant ac sy’n helpu caffael iaith yn hanfodol.

Pump

Pum nofel onest, pwerus a diflewyn-ar-dafod gan rai o’n hawduron ifanc mwyaf blaengar. Mae Y Pump yn cofleidio cymhlethdodau pum ffrind ym Mlwyddyn 11 Ysgol Gyfun Llwyd – Tim, Tami, Aniq, Robyn a Cat. Mae’r pum nofel yn dilyn criw o ffrindiau wrth iddynt ddarganfod y pŵer sydd gan eu harallrwydd pan maen nhw’n dod at ei gilydd fel cymuned.   

Yn wreiddiol, cyflwynwyd y 5 llyfr yng nghyfres Y Pump fel cyfrolau unigol, ond barn y Beirniaid oedd fod cyfrolau’r gyfres mor gysylltiedig, a’r cymeriadau yn ymddangos drwyddi-draw, ac felly nad oedd modd gwahaniaethu rhyngddynt. At hynny, mae’r beirniaid wedi penderfynu y dylid eu cynnwys fel un teitl ar restr fer y wobr.

Elgan Rhys a Tomos Jones (cyd-awduron Tim, y nofel gyntaf yn y gyfres)

Cafodd Elgan Rhys ei fagu ym Mhwllheli, ac mae’n byw yng Nghaerdydd ers degawd. Mae’n gweithio yn bennaf ym maes theatr, fel awdur (Woof), perfformiwr (Chwarae) a chyfarwyddwr (Llyfr Glas Nebo). Ei rôl fel awdur, rheolwr creadigol a golygydd cyfres Y Pump yw ei brosiect cyntaf yn y sector cyhoeddi.

Mae Tomos Jones yn 18 oed ac yn byw yng Nghaerdydd. Dyma’r nofel gyntaf mae wedi helpu i’w chreu. Ei obaith yw aros yng Nghaerdydd er mwyn astudio’r Gymraeg yn y brifysgol.

Mared Roberts a Ceri-Anne Gatehouse (cyd-awduron Tami, yr ail nofel yn y gyfres)

Mae Mared Roberts yn dod o ardal Cei Newydd, Ceredigion. Graddiodd mewn Ffrangeg a Sbaeneg o Brifysgol Caerdydd ac mae bellach yn gyfieithydd. Hon yw ei nofel gyntaf.

Mae Ceri-Anne Gatehouse yn ysgrifennwr ac yn fardd sydd ar hyn o bryd yn dilyn cwrs gradd BA Drama ac Ysgrifennu Creadigol yn Royal Holloway, Prifysgol Llundain. Mae’n falch iawn o weithio ar nofel sy’n rhoi cynrychiolaeth i bobl ifanc sy’n cael eu tangynrychiol

Marged Elen Wiliam a Mahum Umer (cyd-awduron Aniq, y drydedd nofel yn y gyfres)

Yn wreiddiol o Fangor, mae Marged Elen Wiliam bellach yn byw yn Nghaerdydd ar ôl cyfnodau yn byw ac astudio yn Llundain a Chaergrawnt. Yn diweddar, cwblhaodd radd MPhil mewn Astudiaethau De Asiaidd. Mae’n gweithio fel swyddog polisi ac yn treulio’r rhan fwyaf o’i hamser sbâr yn sgwennu neu’n synfyfyrio.

Mae Mahum Umer yn Bacistani trydedd genhedlaeth a anwyd yng Nghymru, ac mae‘n falch o‘i gwreiddiau Pacistanaidd a Chymreig. Mae’n astudio Cymraeg ac yn gobeithio defnyddio ei phrofiadau i ddod ag amrywiaeth i lenyddiaeth a’r cyfryngau, gan ddechrau gydag Aniq, ei phrofiad cyntaf o weithio ar nofel.

Iestyn Tyne a Leo Drayton (cyd-awduron Robyn, y bedwaredd nofel yn y gyfres)

Daw Iestyn Tyne o Lŷn yn wreiddiol, ond mae bellach yn byw yng Nghaernarfon. Mae’n un o olygyddion Cyhoeddiadau’r Stamp, ac mae wedi cyhoeddi dwy gyfrol o farddoniaeth. Dyma’i nofel gyntaf.

Mae Leo Drayton yn fachgen traws o Gaerdydd. Ar ôl gadael Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf aeth i wirfoddoli yng Nghambodia cyn mynd i’r brifysgol. Dyma’r nofel gyntaf iddo weithio arni ac mae’n hoff o ysgrifennu barddoniaeth.

Megan Angharad Hunter a Maisie Awen (cyd-awduron Cat, y bumed nofel yn y gyfres)

Mae Maisie Awen yn 18 oed ac yn dod o Sir Benfro. Mae’n astudio’r celfyddydau perfformio ac yn caru pob math o gelfyddyd. Cat yw’r nofel gyntaf iddi weithio arni ond mae wedi bod yn sgwennu barddoniaeth a straeon byrion ers blynyddoedd.