Mae Llenyddiaeth Cymru wedi datgelu enwau’r cyfrolau sydd wedi cyrraedd Rhestr Fer Gymraeg Gwobr Llyfr y Flwyddyn eleni.
Cafodd rhestr fer y pedwar categori – Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigol a Phlant a Phobol Ifanc – eu cyhoeddi ar raglen Stiwdio ar Radio Cymru heno (dydd Llun, Mehefin 20).
tu ôl i’r awyr gan Megan Angharad Hunter ddaeth i’r brig y llynedd, ac mae hithau’n ymddangos ar y Rhestr Fer unwaith eto eleni, ar y cyd â holl awduron casgliad Y Pump.
Bydd y teitlau buddugol yn cael eu cyhoeddi ar Radio Cymru rhwng Gorffennaf 19 a 21.
Rhestr Fer Gymraeg 2022
Gwobr Farddoniaeth
Cawod Lwch – Rhys Iorwerth (Gwasg Carreg Gwalch)
merch y llyn – Grug Muse (Cyhoeddiadau’r Stamp)
Stafelloedd Amhenodol – Iestyn Tyne (Cyhoeddiadau’r Stamp)
Gwobr Ffeithiol Greadigol
Dod ’Nôl at fy Nghoed – Carys Eleri (Y Lolfa)
Paid â Bod Ofn – Non Parry (Y Lolfa)
Eigra: Hogan Fach o’r Blaena – Eigra Lewis Roberts (Gwasg y Bwthyn)
Gwobr Ffuglen
Mori – Ffion Dafis (Y Lolfa)
Hela – Aled Hughes (Y Lolfa)
Hannah-Jane – Lleucu Roberts (Y Lolfa)
Gwobr Plant a Phobol Ifanc
Pam? – Luned Aaron a Huw Aaron (Y Lolfa)
Gwag y Nos – Sioned Wyn Roberts (Atebol)
Y Pump (Y Lolfa)
Tim – Elgan Rhys gyda Tomos Jones
Tami – Mared Roberts gyda Ceri-Anne Gatehouse
Aniq – Marged Elen Wiliam gyda Mahum Umer
Robyn – Iestyn Tyne gyda Leo Drayton
Cat – Megan Angharad Hunter gyda Maisie Awen
‘Dathlu llenyddiaeth’
Cafodd y rhestrau byrion eu dewis gan y darlledwr Mirain Iwerydd, y cyflwynydd a cholofnydd Melanie Owen, yr academydd, golygydd ac awdur Llên Cymru Siwan Rosser; a’r cyfarwyddwr, bardd ac awdur Gwion Hallam.
Ar ran y panel beirniadu, dywed Melanie Owen ei bod hi’n “fraint enfawr i gael bod yn aelod o’r panel”.
“Rwyf wrth fy modd yn darllen ac ysgrifennu, felly roedd cael mwynhau gwaith rhai o ysgrifenwyr gorau Cymru yn freuddwyd,” meddai.
“Mae’n wir iawn i ddweud bod trafodaethau’r panel wedi bod yn fywiog ac angerddol – gyda chymaint o dalent ar y bwrdd o flaen ni, does dim syndod. Mae safon yr holl lyfrau wedi gwneud y dewisiadau yn galed, ond am gyfle arbennig i ddathlu llenyddiaeth Gymraeg.”
‘Dangos gwerthfawrogiad’
“Ochr yn ochr â phrif seremonïau llên ein Eisteddfodau a Gŵyl y Gelli, mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn uchafbwynt yng nghalendr darllenwyr a llên-garwyr Cymru,” meddai Leus Llewelyn, Cyd-Brif Weithredwr dros dro Llenyddiaeth Cymru.
“Mae’n gyfnod bywiog ar y cyfryngau cymdeithasol o drafod ein hoff lyfrau, o ddyfalu pwy sydd ar y rhestr, o ddathlu llwyddiannau a chwyno weithiau fod ein ffefrynnau heb ddod i’r brig!
“Ond yn bwysicach na dim, mae’n gyfle i ni ddangos gwerthfawrogiad i’n awduron talentog – i ddiolch iddynt am ein diddanu, ac am greu dihangfa i ni rhwng cloriau eu llyfrau. Mae hyn yn fwy gwir nac erioed yn dilyn dwy flynedd heriol, ac am hynny mae ein diolch yn fwy nag erioed.”
Bydd cyfanswm o £14,000 yn cael ei rannu ymysg yr enillwyr, a bydd pob enillydd yn derbyn tlws wedi’i ddylunio gan yr artist a’r gof Angharad Pearce Jones.
Bydd Rhestr Fer y gwobrau Saesneg yn cael ei chyhoeddi ar The Arts Show ar BBC Radio Wales nos Wener, Gorffennaf 1.
Barn y Bobol
Mae cyfle i ddarllenwyr ddweud eu dweud hefyd, gan fod yr holl deitlau sydd wedi cyrraedd y Rhestr Fer yn cystadlu am Wobr Barn y Bobol, mewn cydweithrediad â golwg360.
Gallwch bleidleisio dros eich hoff gyfrol isod: