Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi rhestr fer Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2022.

Wyth albwm sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni, a bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron ym mis Awst.

Mae’r rhestr fer yn cynnwys albymau gan Ciwb, Breichiau Hir, Kizzy Krawford, ac enillydd Albwm y Flwyddyn Gwobrau’r Selar eleni, Amser Mynd Adra gan Papur Wal.

Y rhestr fer

Hir Oes i’r Cof – Breichiau Hir

Wyt Ti’n Meddwl Bod o Wedi Darfod – Ciwb

Gwalaxia – Ffrancon

Rhydd – Kizzy Krawford

Amser Mynd Adra – Papur Wal

Tri – Plu

Bywyd Llonydd – Pys Melyn

Deuddeg – Sywel Nyw

Cafodd y rhestr fer ei llunio gan banel o feirniaid sy’n rhan o’r diwydiant cerddoriaeth, gan gynnwys Catrin Morris, Elin Fouladi, Elliw Mai, Ffion Wyn Morris, Gwen Màiri, Lloyd Steele, Tomos Williams ac Ynyr Morgan Ifan.

Yr wyth beirniad fydd yn dewis yr enillydd y gystadleuaeth, sy’n cael ei threfnu ar y cyd â BBC Radio Cymru.

“Llongyfarchiadau mawr iawn i bawb sydd ar ein rhestr fer arbennig eleni,” meddai’r Eisteddfod Genedlaethol.

“Methu aros i glywed pwy sydd wedi ennill…”