Mae’r “cyhoeddiad pwysicaf ar lawysgrifau Cymraeg a Chymreig ers canrif a mwy” allan heddiw (dydd Llun, Mehefin 20).

Mae A Repertory of Welsh Manuscrips and Scribes, c.800-c.1800 gan Dr Daniel Huws, cyn-Geidwad Llawysgrifau a Chofysgrifau’r Llyfrgell Genedlaethol, yn cynnwys astudiaeth fanwl o lawysgrifau Cymreig a Chymraeg a’u hawduron.

Ac yntau ar drothwy ei ben-blwydd yn 90 oed, mae’r casgliad yn benllanw blynyddoedd o waith ymchwil ac yn “gyfraniad tra sylweddol i ysgolheictod rhyngwladol”, meddai’r Llyfrgell Genedlaethol.

Mae’r tair cyfrol yn edrych ar lawysgrifau sy’n cael eu diogelu yn y Llyfrgell Genedlaethol, Prifysgol Bangor, y Llyfrgell Brydeinig, a Llyfrgell Bodleian, Rhydychen, yn ogystal â llawysgrifau sy’n cael eu cadw tu hwnt i wledydd Prydain mewn llefydd fel prifysgolion Yale a Harvard.

Llun gan y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd

Ar sail y llawysgrifau hynny, mae Dr Daniel Huws wedi dadansoddi’r gwaith a chymhellion yr unigolion a fu’n eu llunio – o’r Oesoedd Canol hyd at y Chwyldro Diwydiannol – gan gyflwyno cymeriadau enwog hanes y genedl, eraill a gafodd eu hanghofio’n llwyr, ac ambell gymeriad sy’n haeddu mwy o sylw.

Caiff y gwaith, sy’n cael ei ddisgrifio fel “magnus opus hirddisgwyledig” Dr Daniel Huws, ei lansio gan y Llyfrgell Genedlaethol a Chanolfan Uwchefrydiau Celtaidd Prifysgol Cymru mewn cynhadledd ryngwladol yn y Llyfrgell ac ar-lein heddiw.

‘Chwyldroi’r astudiaeth’

Yn ôl y Llyfrgell Genedlaethol, bydd y gyfrol yn “chwyldroi’r astudiaeth o hanes ein diwylliant a’n llên”.

Dywed Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, mai hwn, heb os, yw “un o’r gweithiau ymchwil, ysgolheigaidd pwysicaf i’w gyhoeddi gennym, os nad y pwysicaf un”.

“Mawr yw ein diolch i Daniel am ei waith cwbl ragorol a’r fraint yr wyf fi wedi’i gael o ddod i adnabod yr ysgolhaig annwyl ac unigryw hwn yn ystod y blynyddoedd diwethaf yma,” meddai.

“Ein dymuniadau gorau iddo ar ei ben-blwydd arbennig a mawr yw ein diolch iddo am oes o wasanaeth i Gymru, ei diwylliant a’i dysg.”

‘Campwaith’

Ychwanega’r Athro Elin Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, fod yr astudiaeth yn “gampwaith”.

“Dathlwn ysgolheictod Dr Daniel Huws ac ymhyfrydwn yn y cydweithio agos a fu rhyngom wrth gyflwyno’r gwaith hwn i’r byd,” meddai.

“Hoffwn ddiolch i bob un a fu ynghlwm â chyhoeddi’r cyfrolau hynod hyn ac edrychwn ymlaen – nid yn unig at y lansio a’r Gynhadledd eleni – ond at y gwaith a’r ymchwil newydd a ddaw yn sgil y Repertory am ddegawdau i ddod.”

‘Trysori’

Wrth ei longyfarch, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford, bod y Repertory yn waith ymchwil “ysgolheigaidd enfawr a ddylai gael ei drysori gan y genedl”.

“Cynhwysir gwerth canrifoedd o ddiwylliant a dysg yn y cyfrolau hyn gan Dr Daniel Huws,” meddai Mark Drakeford.

“Hoffwn longyfarch Dr Huws am ei waith, nid yn unig ar y prosiect hwn, ond drwy gydol ei yrfa hir a nodedig.”

  • Bydd cyfweliad gyda Dr Daniel Huws yn rhifyn nesaf Golwg yr wythnos hon.