Academi Pêl-droed Abertawe yw’r lle sydd yn gyfrifol am ddatblygu rhai o’r chwaraewyr gorau yng Nghymru.

Mae’n cael ei hadnabod fel man cychwyn sawl chwaraewr rhyngwladol dros y degawdau diwethaf, gan gynnwys chwe aelod o dîm diwethaf Cymru i chwarae yng Nghwpan y Byd yn 1958.

Heddiw, dyma ble mae dros 200 o ferched a bechgyn rhwng pump a 18 oed yn dod i geisio gwireddu eu breuddwydion o fod yn chwaraewyr proffesiynol.

Ond am bob un Joe Allen, Ben Davies neu Ben Cabango, mae 99 chwaraewr sydd yn disgyn yn methu allan ar chwarae yn y byd proffesiynol digyfaddawd.

Yn y rhaglen ddogfen DRYCH diweddaraf, mae Bois yr Academi yn mynd tu fewn i academi fodern Abertawe yng Nglandŵr, i ddweud stori tri bachgen talentog sydd yn gobeithio bod yn yr 1% o chwaraewyr academi sydd yn llwyddo i chwarae ar y lefel broffesiynol.

Mae Bois yr Academi, sydd yn cael ei dangos am 9.00yh ar nos Fawrth 21 Mehefin ar S4C, yn olrhain taith tri aelod o academi Abertawe, Iwan Morgan, Dylan Pritchard a Yori Griffith, tri bachgen mewn cyfnodau gwahanol yn eu datblygiad.

Cawn glywed gan y chwaraewyr a’u rhieni, sydd yn gwario arian sylweddol a threulio amser maith yn teithio i sesiynau hyfforddi yn ystod yr wythnos a gemau ar draws gwledydd Prydain ar benwythnosau.

Byddwn hefyd yn cael safbwynt yr hyfforddwyr sydd yn ceisio dod â’r gorau allan o bob chwaraewr a chanfod y seren nesaf i’r tîm cyntaf. Ar ddiwedd pob tymor, mae’n rhaid i’r hyfforddwyr hefyd ddewis pwy i’w cadw yn yr academi, a phwy fydd yn cael eu rhyddhau.

‘Aberth anhygoel’

“Mae’r aberth mae rhieni yn gwneud yn anhygoel. Y pwysau ariannol, yr aberth a’r ymrwymiad maen nhw’n dangos er mwyn i’w plant geisio gwireddu eu breuddwyd, mae’n anhygoel,” meddai Jon Grey, Rheolwr Academi Abertawe.

“Mae’r stadiwm yno o fewn golwg. Maen nhw eisiau gwneud y daith yma o’r academi i’r stadiwm. Does dim gwell ysbrydoliaeth na gweld hwnna pob tro maen nhw’n dod yma. Mae’n siwrne fer ond mae’n gallu bod yn un hir iawn.”

Iwan Morgan
Iwan Morgan

Mae Iwan o Gaerdydd yn 15 oed, ond eisoes yn chwarae i dîm dan 18 y clwb fel ymosodwr.

“Fi’n lyfio pêl-droed felly does dim byd gwell na dod i fan hyn ar ddydd Llun a chwarae tipyn bach o bêl-droed,” meddai.

“Dyw ysgol ac education ddim yn dod drosodd i fi, dw i’n casáu e rili. Dwi’n caru pêl-droed a ‘sa i’n gweld be’ arall fi’n gallu gwneud yn y dyfodol. Does dim Plan B – mae’n Plan A or nothing i fi.”

Dylan Pritchard
Dylan Pritchard

Mae Dylan, sy’n 11 oed ac yn dod o Dresaith yn Sir Benfro, yn chwarae fel gôl-geidwad i’r tîm dan 12.

“Mae lot o pressure ar fod yn goalkeeper. Un mistêc a byddwn ni’n gallu colli’r gêm, so mae rhaid i fi fod ar dop o fy ngêm,” meddai.

Mae Yori, sy’n 15 oed ac yn dod o Hwlffordd, yn asgellwr i’r tîm dan 16.

Wedi gorfod cymryd seibiant ar ôl anaf, mae Yori yn gorfod disgwyl i weld a fydd e’n cael ei gadw ymlaen yn yr academi ar ddiwedd y tymor.

“Mae cael anafiadau yn gwneud i mi feddwl, dyna pam mae angen Plan B,” meddai.

Yori Griffith
Yori Griffith

Plan B fi yw i just cario ymlaen gweithio yn ysgol. Gobeithio galla i fod yn bêl-droediwr proffesiynol, ond os dyw hynny ddim yn digwydd, bydd rhywbeth arall i gwympo nôl arno.

“Ond mae colli un wythnos o training yn gallu cael effaith hir dymor, oherwydd gall fy spot fi yn y tîm gael ei gymryd gan rywun arall.

“Felly mae hwnna yn gallu effeithio fi yn cael scholarship.

“Dyw e ddim yn gystadleuaeth ond mae pawb eisiau cael scholarship yn y diwedd.”