Fe gafodd yr holl docynnau ar gyfer y ddrama lwyfan Nôl i Nyth Cacwn eu gwerthu mewn llai na hanner awr ar fore Gwener, 17 Mehefin.
Roedd y trefnwyr wedi bwriadu cynnal dau berfformiad o’r ddrama ar nos Fercher yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron yn wythnos gyntaf mis Awst, a hynny yn Neuadd Pontrhydfendigaid yng Ngheredigion.
Ac fe werthwyd y 500 tocyn ar gyfer y ddau berfformiad – un am saith o’r gloch a’r llall am hanner awr wedi naw – o fewn 25 munud iddyn nhw fynd ar werth am 9.30 ar y bore Gwener.
Nawr mae’r trefnwyr am gael trydydd perfformiad ar y nos Iau, ac efallai pedwerydd un hefyd, oherwydd maint y galw am docynnau.
Mae’r ddrama Nôl i Nyth Cacwn yn seiliedig ar gyfres gomedi o’r enw Nyth Cacwn a gafodd ei darlledu ar S4C yn 1989.
Enw fferm oedd ‘Nyth Cacwn’ yn y gyfres deledu gyda’r diddanwr poblogaidd Ifan Gruffydd yn chwarae’r brif ran, ‘William’.
Er mai dim ond un gyfres gafwyd ar y teledu, daeth Nyth Cacwn yn boblogaidd iawn ar hyd y blynyddoedd gyda chwmni recordiau Sain yn gwerthu’r gyfres ar dapiau fideo a dvd.
Fel C’Mon Midffîld, mae cenhedlaeth o wylwyr iau wedi cymryd at Nyth Cacwn yng nghefn gwlad Ceredigion.
Ac mae Euros Lewis, wnaeth gyd-ysgrifennu’r gyfres wreiddiol gydag Ifan Gruffydd, wrth ei fodd bod ei phoblogrwydd wedi para.
“Yr hyn sy’n ddiddorol yw mai nid gyda’r gynulleidfa hŷn y mae hwn wedi sefyll,” meddai Euros, “mae e wedi cael ei drosglwyddo i gynulleidfa iau, cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth.
“Roeddwn i mewn tŷ yn cydymdeimlo yn gynharach yr wythnos hon, gyda rhieni sydd bellach yn dad-cu a mam-gu, yn dweud bod eu plant wedi tyfu lan yn gwylio Nyth Cacwn… a nawr, os oes dipyn o gwympo mas yn y tŷ, ac mae eisiau cael pawb i drefn, maen nhw yn rhoi Nyth Cacwn ymlaen i’r wyrion.”
Y fwyell
Er bod Nyth Cacwn yn un o raglenni mwyaf poblogaidd S4C yn 1989, ni chafwyd ail gyfres wrth i S4C roi’r fwyell iddi.
“Daeth staff rheoli newydd mewn i S4C,” cofia Euro Lewis, “a’u cenhadaeth nhw oedd gwneud S4C yn llai cefen gwlad. Pellhau S4C oddi wrth y ddelwedd mai cefn gwlad oedd S4C.
“Roedd [y ddelwedd] wedi tyfu yn naturiol wrth gwrs oherwydd roedd gymaint o gwmnïau [teledu] annibynnol bryd hynny yn frith ar draws cefen gwlad, o’r gogledd i’r gorllewin ar draws Bae Ceredigion.
“Roedd yna benderfyniad sylfaenol i symud y pwyslais oddi wrth raglenni oedd yn ymwneud â chefen gwlad.”
Drama wleidyddol
Er bod Nôl i Nyth Cacwn yn seiliedig ar gyfres gomedi, mae Euros Lewis yn addo y bydd y ddrama lwyfan yn holi cwestiynau caled am yr hyn sy’n wynebu cefn gwlad Cymru.
Yn y ddrama mae ‘William’, cymeriad Ifan Gruffydd, yn dychwelyd i Nyth Cacwn heb fod yn siŵr a yw’r fferm yn dal i fodoli.
“Mae angen theatr Gymraeg berthnasol sy’n digwydd o fewn etholaeth greadigol naturiol y Gymraeg – a dw i yn gwybod bod hwnna yn lond pen!” meddai Euros Lewis wrth egluro natur wleidyddol Nôl i Nyth Cacwn.
“Mae e’n codi mas o lawr gwlad ac mae e’n theatr go-iawn. Mae e’n theatr edgy.
“Tydyn ni ddim yn mynd nôl i ryw hen ramant o Nyth Cacwn.
“Rhan o gyfrinach Nyth Cacwn oedd fod e ddim mewn lle rhamantus. Roedd e yn edrych ar realiti cynaladwyaeth cefen gwlad, ond mewn ffordd oedd yn defnyddio comedi i wneud hynny.
“Ac ryden ni yn mynd nôl i [fferm] Nyth Cacwn heddi’ gyda reial cwestiynau: Oes ffarm ar ôl yma? Bydde ffarm yma nawr? Ydy’r ffarm yn dal i fynd? Yydn nhw wedi gwerthu i Saeson?”