Mae un o ddigwyddiadau mawr y calendr Cymraeg yn cicio-off yfory yng Nghastell Caerdydd.

Ers sawl blwyddyn bellach mae gŵyl Gymraeg Tafwyl wedi denu pobol o bob cwr o Gymru a thu hwnt, gan dyfu yn aruthrol.

Rhyw fil o bobl wnaeth fynychu’r Tafwyl gyntaf i Fenter Iaith Caerdydd ei threfnu ym maes parcio tafarn y Mochyn Du, ond daeth 40,000 i’r un ddiwethaf i’w chynnal cyn Covid, yng Nghastell Caerdydd yn 2019.

Ac fe gafodd 500 fynychu Tafwyl 2021 – roedd angen cyfyngu ar y niferoedd oherwydd rheolau Covid.

Yn ogystal â hufen y Sîn Roc Gymraeg yn perfformio ar y prif lwyfan eleni, mae’r arlwy yn cynnwys comedi, drama, celf, chwaraeon, bwyd a diod, a llenyddiaeth.

Ond y rocars yw’r dynfa fawr, ac eleni fe fydd modd gweld y bythol boblogaidd Yws Gwynedd ar y prif lwyfan ar y nos Sul.

Hefyd yno’r un diwrnod mae Adwaith, y triawd gloyw o Gaerfyrddin sydd ar fin rhyddhau eu hail albwm, Bato Mato, ac eisoes wedi cyffroi’r dyfroedd tu hwnt i bob rheswm gyda’u sengl wych ‘ETO’ a laniodd ym mis Chwefror.

Ac ar y nos Sadwrn fe fydd Tara Bandito, Gwilym a Sŵnami ymysg y prif fandiau i’w gweld.

Meinir Gwilym ac ôl-barti nos Sul

Mae yna bethau da i’w gweld ar y llwyfannau llai hefyd, gyda Cerys Hafana, Parisa Fouladi a Meinir Gwilym ymysg y doniau disglair yn canu yn Y Sgubor ar y Sadwrn.

Ac ar y Sul yn Y Sgubor fe fydd Cowbois Rhos Botwnnog, Gareth Bonello a Thallo yn perfformio.

Mae criw Tafwyl wedi bod yn cynnal ‘Ffrinj Tafwyl’ gydol yr wythnos hefyd, a heno yng Nghlwb Ifor Bach fe fydd cyfle i weld Yr Ods yn chwarae yn fyw.

Ac i’r rheiny sydd dal yn sefyll, fe fydd ‘Parti ar ôl Tafwyl’ yng Nghlwb Ifor Bach nos Sul am ddeg.

Am fanylion llawn y penwythnos mawr, ewch i tafwyl.org