Mae’r canwr poblogaidd a’i fand yn dychwelyd gyda chân newydd a rhesiad o berfformiadau byw dros y misoedd nesaf…

Aeth pum mlynedd heibio ers i ni glywed Yws Gwynedd yn canu hits heintus megis ‘Sebona Fi’ a ‘Neb ar ôl’ ar lwyfannau Cymru.

A’r newyddion da yw bod y canwr 38 oed yn ôl ar y lôn ac yn mynd i fod yn diddanu’r torfeydd dros yr haf yng ngŵyliau Tafwyl, Maldwyn, Sesiwn Fawr Dolgellau a’r Steddfod Genedlaethol.