Mae Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn galw am gynnal cystadleuaeth yr Eurovision Song Contest yng Nghymru’r flwyddyn nesaf.

Fe ddylai’r Eurovision 2023 gael ei chynnal yn Wcráin, gan mai’r band Kalush Orchestra o’r Wcráin wnaeth ennill y gystadleuaeth eleni gyda’r gân ‘Stefania’.

Ond oherwydd y rhyfel yno ni fydd yn bosib cadw at y traddodiad o gynnal y gystadleuaeth yng ngwlad y pencampwyr presennol.

Y Sais Sam Ryder ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth eleni, gyda’r gân ‘Space Man’, a dyma ganlyniad gorau i gân yn cynrychioli’r Deyrnas Unedig ers blynyddoedd.

A gan mai’r Deyrnas Unedig ddaeth yn ail, mae adroddiadau mai yno y bydd yr Eurovision yn cael ei chynnal y flwyddyn nesaf.

Ac mae’r Ceidwadwr Andrew RT Davies eisiau gweld yr Eurovision yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd yn 2023.

Stadiwm y Principality

“Mae yn drist iawn na fydd modd cynnal yr Eurovision Song Contest yng ngwlad yr enillydd y flwyddyn nesaf oherwydd yr anghydfod yn Wcráin,” meddai Andrew RT Davies.

“A gan mai’r Deyrnas Unedig ddaeth yn ail, does dim dwywaith y gallai gynnal digwyddiad gwych.

“Byddai Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd yn le gwych i gynnal cystadleuaeth arobryn, a chael dangos un o leoliadau cyngherddau gorau Cymru a dangos y gorau o Gaerdydd a Chymru i’r byd.”

Ychwanegodd Tom Giffard, Gweinidog Cysgodol y Ceidwadwyr dros Ddiwylliant, mai Cymru fyddai “y dewis perffaith i gynnal yr Eurovision a hithau yn ‘Wlad Beirdd a Chantorion’.”

Does dim dwywaith bod modd cynnal cyngherddau ar raddfa fawr yn Stadiwm y Principality – mae Syr Tom Jones a’r Stereophonics yn canu yno’r penwythnos hwn.

Ond mae trafnidiaeth yn gur pen – roedd traffig a straffîg adeg cyngerdd diweddar gan Ed Sheeran yn y stadiwm rygbi cenedlaethol.

Andrew a’r ail-frandio

Mae Andrew RT Davies wedi bod yn ceisio meddwl am ffyrdd o Gymreigio’r Blaid Geidwadol yng Nghymru, yn dilyn canlyniadau gwael yn etholiadau cynghorau sir fis Mai.

Yn groes i bolisi’r Ceidwadwyr ar lefel Brydeinig, mae wedi dadlau o blaid cael diwrnod o wyliau ar Ddydd Gŵyl Dewi.

Mae hefyd eisiau gwario cyfran Cymru o’r £100 biliwn sy’n mynd ar greu rheilffordd gyflym HS2 yn Lloegr, ar drafnidiaeth yng Nghymru.

Ni fydd y gwasanaeth trenau cyflym yn cyrraedd Cymru, ac yn gwasanaethu Lloegr yn unig, ond mae Llywodraeth Prydain wedi dadlau y bydd o fudd i economi Cymru.

Mi fydd sawl un yn barnu mai ceisio rhoi llais unigryw i’r Ceidwadwyr Cymreig yw bwriad Andrew RT Davies wrth alw am gynnal yr Eurovision yng Nghaerdydd.

Ond o gofio bod 161 miliwn wedi gwylio’r Eurovision ar y teledu ym mis Mai, does dim dwywaith ei fod yn gyfle a hanner i farchnata’r wlad sy’n cynnal y jambori.