Am y tro cyntaf ym myd y teledu, mae addasiad opera o’r nofel Gymraeg enwog Un Nos Ola Leuad wedi ei chomisiynu gan S4C a Channel 4 ac yn cael ei ddarlledu ar deledu Prydeinig.
Wedi’i chyfieithu i nifer o ieithoedd, ei haddasu’n ffilm, ei pherfformio ar lwyfannau, a’i throi yn opera, mae’r nofel o 1961 gan Caradog Pritchard, am ddod yn fyw gan Avanti ac OPRA Cymru mewn “cyfuniad arloesol o opera a ffilm”.
Mae’r nofel yn gofnod o blentyndod, ac yn darlunio perthynas rhwng mam a mab o safbwynt y mab.
Caiff ei lleoli yn ardal chwarelyddol Bethesda yn y cyfnod rhwng tua 1915 a 1920.
“Rydym wrth ein bodd yn cydweithio â S4C ar Un Nos Ola Leuad, addasiad cerddorol o’r nofel a ystyrir yn eang fel y darn gorau o lenyddiaeth Gymraeg,” meddai Ian Katz, Prif Swyddog Cynnwys Channel 4.
“Er ei fod wedi ei osod ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, mae’r gwaith oesol hwn yn ymdrin â themâu tlodi ac iechyd meddwl ac yn parhau i fod yn berthnasol iawn heddiw.
Blas o’r opera
Dan nawdd cychwynnol gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae cwmni Opra Cymru o Flaenau Ffestiniog wedi bod wrthi ers dechrau 2018.
Cafodd y cwmni gryn lwyddiant gyda’u cyflwyniad o Wythnos yng Nghymru Fydd yn 2017, wedi’i gyfansoddi gan Gareth Glyn a’r libretto gan Mererid Hopwood.
Y tro hwn, Patrick Young, Cyfarwyddwr Artistig Opra Cymru, ac Iwan Teifion Davies sy’n gyfrifol am y libretto, ond Gareth Glyn fu’n cyfansoddi eto.
“Roedden ni eisoes, ar fy nghais i, wedi dweud bod rhaid i ni ysgrifennu rhywbeth yn gysylltiedig – â defnyddio ymadrodd sy’n cael ei ddefnyddio’n aml yn Golwg – â’r llyfr a newidiodd fy mywyd,” meddai Gareth Glyn.
“Reit ar y top yn fan yna… y llyfrau sydd wedi newid bywydau pobol neu wedi cael argraff ddofn arnyn nhw, ydi Un Nos Ola Leuad.
“Fe wnaethon ni awgrymu pob math o syniadau, ond yn y diwedd – beth oedd ym meddyliau’r tri ohonom ni: Os yda ni am wneud un nofel eiconig, yna waeth i ni drïo gwneud opera ar nofel eiconig arall.
“Mae themâu o bob math sy’n oesol, a dyna un o’r rhesymau pam mae’r nofel ynddi’i hun yn dal i fod mor boblogaidd ac arwyddocaol i ni heddiw, ac mae’n debyg un o’r rhesymau pam ei bod hi wedi cael ei chyfieithu i 13 o ieithoedd rownd y byd.
“Mae’n amlwg bod yna rywbeth ynddi hi sy’n dal i adleisio dros y byd.
“Rydyn ni’n hoffi’r nofel yn rhannol oherwydd ei bod hi wedi cael ei sgwennu’n nhafodiaith Bethesda, ond mae’r bobol sydd wedi cyfieithu wedi gorfod gwneud y gorau medra nhw o hynny.
“Nid dyna sydd wedi denu sylw’r cyfieithwyr a beirniaid llenyddol drwy’r byd, ond y themâu yma sy’n canu cloch efo pawb mewn cymdeithas.”