Trip i Siberia sydd wedi ysbrydoli caneuon newydd y band sydd am fod yn diddanu miloedd o bobol yng Nghaerdydd fis yma…

Mae eleni yn argoeli i fod yn flwyddyn felys i Adwaith, y band o ferched o Gaerfyrddin wnaeth ennill Gwobr Gerddoriaeth Gymraeg 2019 am eu halbwm wych, Melyn.

Mi fydd eu hail albwm, Bato Mato, yn dod i’r fei ym mis Gorffennaf, ac maen nhw eisoes wedi rhyddhau’r sengl gyntaf oddi arni.

Mae ‘ETO’ yn gân hyfryd o iwfforig a melodig sydd wedi ysgogi The Guardian i ddweud hyn: “The first single from their second album embodies [a] beautiful push and pull in tersely thrumming bass and vocal harmonies.”

Ac os ydy’r Wasg yn Llundain yn talu sylw agos i’r triawd talentog, mae ganddyn nhw ddilynwyr ffyddlon yma yng Nghymru hefyd.

Fe werthodd yr holl docynnau ar gyfer eu gig BBC Six Music yng Nghlwb Ifor Bach ar nos Fercher, 30 Mawrth, mewn pedwar munud – PEDWAR MUNUD!

A’r noson ganlynol, 31 Mawrth, fe fydd Adwaith yn chwarae yn Arena Motorpoint Caerdydd, sy’n dal 7,500 o bobol, wrth iddyn nhw gefnogi’r band roc poblogaidd IDLES.

Ac mae mwy i ddod – mi fyddan nhw ar daith yn yr Haf yn hyrwyddo’r ail albwm, ac maen nhw am fod yn diddanu torf sychedig Maes B hefyd.

Felly mae yna hen ddigon o gyfleon i weld un o fandiau mwya’ poblogaidd Cymru.

Daeth Hollie Singer (gitâr a chanu), Gwenllïan Anthony (bass, allweddellau, mandolin) a Heledd Owen (drymiau) at ei gilydd i ffurfio Adwaith yn 2015, a ‘Pwysau’ oedd eu sengl hypnotig, hyfryd gyntaf.

Mae’r gwybodusion yn gwybod yn iawn bod eu halbwm gyntaf, Melyn, yn glasur, ac mae James Dean Bradfield yn ffan ac wedi ailgymysgu’r trac ‘Gartref’.

Ond yr hyn sy’n fwy difyr fyth yw bod gan Adwaith ffans yn Rwsia.

Ar gychwyn 2020 – wythnosau yn unig cyn i’r cyfnod clo cyntaf frathu – fe gafodd y band fynd i Siberia i chwarae yng ngŵyl UU.Sound mewn arena hoci iâ yn ninas Ulan-Ude, sydd dros 5,000 kilomedr i’r dwyrain o Moscow.

Fe gafodd y tirlun a’r trip yno gymaint o effaith ar y band, nes iddyn nhw roi’r caneuon roedden nhw eisoes wedi eu hysgrifennu ar gyfer ail albwm yn y bin, a sgrifennu rhai newydd ar ôl dychwelyd o Rwsia.

A’r trac cyntaf iddyn nhw ei sgrifennu ar ôl bod i Siberia oedd y sengl ‘ETO’, cân sydd wedi cael croeso brwd gan bawb fu yn aros yn eiddgar am stwff newydd gan y band byth ers cyhoeddi Melyn yn 2018.

“Rydw i yn credu mae pawb yn really lico fe, ac mae e’n rhywbeth gwahanol i ni – so ni fel arfer yn sgrifennu pop love songs,” meddai Gwenllïan Anthony, basydd 24 oed y band sy’n rhedeg siop gwerthu dillad ffynci The Dandy Lion Vintage yng Nghaerfyrddin.

Bu Gwenllïan yn cadw yn brysur yn y cyfnod clo yn rhyddhau caneuon gyda’i phroject bach ar yr ochr, Tacsidermi. Ond mae hi wrth ei bodd bod ei phrif fand yn ôl ar y sîn gyda bangar.

“100%. Mae fe’n teimlo fel ages ers i ni ryddhau unrhyw beth, felly, ie, ryden ni wedi bod yn aros ac aros ac aros… felly ry’n ni’n hapus iawn cael e mas nawr!”

Mae ‘ETO’ yn gân hapus am y teimlad yna o wirioni efo rhywun, gyda Hollie Singer yn canu: ‘Agored i newid, agored i niwed… dyma beth yw cariad’.

O ran y sain, mae yna lot o haenau ac allweddellau sy’n rhoi naws epig a mawr i’r gân ac mae hi’n un berffaith i wrando arni tra yn gyrru yn y car.

“Mae hi ychydig bach yn wahanol i beth rydyn ni wedi gwneud o’r blaen, ac ychydig bach yn wahanoli weddill yr albwm hefyd,” eglura Gwenllïan Anthony.

“Mae gweddill yr albwm yn fwy tywyll a’r stwff rydyn ni wedi sgrifennu ambwyti, yn fwy abstract a thywyll a mwy ambyti fel mae bywyd yn shit, basically!”

Ar ôl gorffen chwerthin yn iach, mae Gwenllïan yn ymhelaethu: “Ti’n gwybod fel roedd Melyn yn kind of dweud stori, yn llawn gobaith. Ac rydw i yn teimlo fod yr albwm newydd fwy am: ‘Actually, dyw bywyd ddim mor dda, ac mae’r pethe shit yma yn mynd ymlaen’.”

Ac mae cael ‘ETO’ yn cloi’r albwm “yn gweithio yn dda… cael bach o positivity ar y diwedd”.

Mae hi’n sleisen berffaith o indi pop ac yn ffordd wych i Adwaith gyhoeddi i’r byd a’r betws eu bod nhw yn ôl.

Pryd wnaeth y band sylweddoli bod ganddyn nhw un dda ar eu dwylo?

“O’r dechre,” meddai Gwenllïan.

“Yn enwedig ar ôl cael y lyrics a pan oeddet ti yn gallu clywed kind of y final track yn dod.

“Roedden ni yn gwybod fod hwn yn tiwn yn syth bin.

“Ac ar y ffordd nôl o recordio fe, roedden ni jesd yn gwrando arno fe eto ac eto ac eto!

“Roedden ni yn kind of obsesd gyda fe, a wir yn hapus.”

Rwsiaid yn gwrando ar ganeuon Cymraeg

Er mwyn cyrraedd dinas Ulan-Ude yn nwyrain Siberia yn 2020, fe deithiodd Adwaith ar y Trans-Siberian Express, sef trên enwog sy’n cludo pobol ar reilffordd hira’r byd.

Ac fe gafodd y daith argraff fawr ar y genethod o Gymru.

“Roedd y tirlun yn wyn,” cofia Gwenllïan, “popeth yn wyn. A wnaethon ni ddim pasio unrhyw dai na phobol wrth deithio, roedd y tirlun yn noeth.”

Ac fe wnaeth Ulan-Ude gryn argraff hefyd.

“Roedd e fel rhywle oedd wedi cael ei anghofio. Dim city centre na shopau, popeth yn wag. Brutalist architecture.

Bizarre. Roedd e fel bod bom wedi mynd off yna. Neb ar y stryd.”

Fe gawson nhw’r cynnig i chwarae mewn gŵyl newydd yno o’r enw UU.Sound trwy Focus Wales, y criw sy’n trefnu gŵyl ryngwladol i fandiau ddangos eu stwff yn Wrecsam.

Ac er bod y lle yn teimlo yn estron, fe gafodd Adwaith hwyl arni yn chwarae i dorf o “gwpwl o filoedd, efalle” mewn arena hoci iâ.

“Does dim byd yn mynd ymlaen yna, really, felly roedd hwn fel big deal iddyn nhw,” meddai Gwenllïan.

“Ac roedd billboards dros y lle gyda gwynebau ni arnyn nhw, ac roedd e’n really, really bizarre!

“Dw i’n credu roedd lot o bobol heb weld merched ar lwyfan fel yna o’r blaen.

“A gawson ni lwyth o ferched yn dod lan a dweud: ‘Mae hi mor braf gweld merched ar lwyfan’.”

A sut oedden nhw yn ymateb i’r ffaith fod Adwaith yn canu yn Gymraeg?

“Roedden nhw yn lyfo fe. Gawson ni gwpwl o ferched yn dweud eu bod nhw wedi clywed bod ni yn dod, ac wedi bod yn gwrando ar yr albwm ac yn caru’r caneuon… gwallgof!”

Yr hyn sy’n hyfryd am Adwaith, er iddyn nhw brofi’r holl lwyddiant, yw eu bod yn dal i ganu yn Gymraeg, ac mae holl draciau Bato Mato yn iaith y nefoedd.

Mae Gwenllïan Anthony yn bendant nad oes angen canu yn Saesneg i ddenu sylw.

“Pan ry’n ni’n mynd i Llundain, mae’r gigs wastad yn packed a pawb yn lyfo fe.

“Yng Nghymru, mae e’n normal i weld band Cymraeg. Ond tu fas i Gymru mae e’n eitha’ egsotig, I guess.

“Felly sdim rheswm i ni sgrifennu cân Saesneg. Mi fyddai yn teimlo yn very unauthentic i wneud hynna.”

 

Mae ‘ETO’ ar gael i’w ffrydio nawr