Mae’r ddigrifwraig 33 oed, Eleri Morgan, yn rhan o daith gomedi cenedlaethol Glatsh! ym mis Ebrill.

Fe gafodd ei magu ar fferm ar gyrion pentref Tal-y-bont ger Aberystwyth ac mae yn byw yng Nghaerdydd ac yn sgrifennu comedi i Radio 4…

Beth fyddwch chi’n drafod yn eich sioe stand-yp?

Rydw i’n sôn am wneud panto yn yr iaith Gymraeg, sôn am fynd i ysgol feithrin yng Ngheredigion, a’r gwahaniaeth rhwng plant y gogs, yr hwntws a’r canolbarth.