Y tro cyntaf y bu’n rhaid iddi ddarlithio o flaen cannoedd o fyfyrwyr, bu’r Athro Eleri Rosier yn agos iawn at droi ar ei sawdl a dianc yn ôl i’w char.

Mae’r darlithydd Marchnata a Strategaeth ym Mhrifysgol Caerdydd wedi dod yn bell ers hynny, a chafodd ei phenodi yn Athro yn ddiweddar am ragoriaeth mewn dysgu.

Yn byw yn Rhaglan yn Sir Fynwy gyda’i gŵr a’u plant, roedd bryd Eleri ar fod yn gyfreithwraig pan oedd hi’n iau.