Mae angen cofio’r egwyddorion oedd ym meddwl Iolo Morganwg wrth sefydlu Gorsedd y Beirdd wrth symud ymlaen, meddai’r Archdderwydd Myrddin ap Dafydd wrth golwg360.
Roedd brawdgarwch, cydraddoldeb a rhyddid yn greiddiol i syniadau Iolo Morganwg pan sefydlodd yr Orsedd ar Fryn Briallu.
230 o flynyddoedd yn ôl ar Fehefin 21 1792, ar Fryn Briallu yn Llundain, cafodd Gorsedd Beirdd Ynys Prydain ei sefydlu.
Yr hyn sy’n allweddol wrth ddathlu 230 o flynyddoedd, meddai Myrddin ap Dafydd, yw cofio nad oedd gan Gymru yr un sefydliad cenedlaethol bryd hynny.
“Mae’n anodd credu bellach gymaint o sefydliadau cenedlaethol sydd gennym ni. Ond mor agos â 230 o flynyddoedd yn ôl, doedd gennym ni ddim byd,” meddai wrth golwg360.
“Felly’r adeg yna roedd y weledigaeth o sefydlu rhywbeth i warchod ein treftadaeth ni, ond hefyd i’n datblygu ni fel diwylliant ac fel gwlad ymhob maes [yn allweddol].
“Pan sefydlwyd yr Orsedd, roedd gofyn i’r Orsedd fod yn llyfrgell genedlaethol, yn amgueddfa genedlaethol, yn senedd, yn brifysgol… yr holl bethau yma rydyn ni’n eu cymryd yn ganiataol.
“Mi sefydlwyd hi yn nhân yr ysbryd annibynnol oedd yn sgubo ar draws y byd yn sgil y Chwyldro Ffrengig a Rhyfel Annibyniaeth America, dyna’r syniadau oedd wedi cyffroi Iolo Morganwg, fel mae Geraint Jenkins yr hanesydd yn egluro’n wych yn ei gyfrol.
“Mi roedd brawdgarwch a chydraddoldeb a rhyddid, y tri pheth sylfaenol yna, yn allweddol ym meddwl Iolo Morganwg. Mae hi’n bwysig iawn dw i’n meddwl ein bod ni’n cadw hynny mewn cof heddiw hefyd.
“Roedd Iolo Morganwg yn erbyn pob rhyfel, yn erbyn pob trais, yn erbyn pob gormes, yn erbyn pob teyrn. Mae hwnna’n rhoi llwybr go bendant i ni.
“Rydyn ni eisiau edrych yn ôl ar hanes yr Orsedd er mwyn symud ymlaen, mewn ffordd, a symud ymlaen gyda’r egwyddorion yna yn gadarn yn ein meddyliau. Maen nhw, wrth reswm, yr un mor berthnasol heddiw ag oedden nhw 230 o flynyddoedd yn ôl.”
‘Diolch a dathlu’
Wrth i’r Archdderwydd baratoi i ailgydio mewn defodau yn Eisteddfod Tregaron, mae’n dweud bod y defodau’n rhannu i ddau gyfeiriad – y dathlu a’r diolch.
“Bore Llun a bore Gwener yn y brifwyl, mi rydyn ni’n diolch i tua hanner cant [o bobol] ar y ddau achlysur ac yn eu hurddo nhw yn aelodau newydd o Orsedd y Beirdd – diolch iddyn nhw am gyfraniad mewn sawl maes,” meddai Myrddin ap Dafydd.
“Mae hi’n hyfryd yn y blynyddoedd diwethaf yma gweld cymaint o rai o dras wahanol sy’n cyfrannu at ddiwylliant ac at genedl ac iaith Cymru. Mae hwnna’n brofiad pleserus iawn, iawn – cael diolch iddyn nhw ar ran ein gwlad, a rhoi cydnabyddiaeth iddyn nhw drwy eu derbyn nhw mewn i’r Orsedd.
“Mae’n amlwg bod hynny’n emosiynol bwerus iawn, iawn i’r rhai sy’n cael eu derbyn. Mae’n golygu llawer.
“Yn y tair defod yn y Pafiliwn, rydyn ni’n dathlu bod y ddawn ymysg ein llenorion ni i gyrraedd y safonau uchaf i gipio’r Goron, y Gadair a’r Fedal Lenyddiaeth. Mae yna ddeunydd llawenydd yn y defodau yna i gyd ond ar yr un pryd, cyfrifoldeb hefyd i wneud popeth posib i warchod a hyrwyddo ein hiaith a’n diwylliant ym mhob maes drwy’r amser.”
Mae angen gwneud popeth posib i sicrhau bod y profiad o urddo a’r profiad o ennill prif wobrau’r Eisteddfod yn un “mor arbennig â phosib”, meddai Myrddin ap Dafydd.
“Mae yna elfen o gadw’r urddas a chadw’r elfennau traddodiadol rydyn ni’n gyfarwydd â nhw, ond mae yna addasu, mae yna chwilio am ffordd ystwythach a rhwyddach drwy’r amser er mwyn gwneud y cyfan yn bleserus i’r rhai sy’n cael eu hurddo ac i’r gynulleidfa.”