Cyn pen deufis, bydd yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd yn arwain seremonïau’r Orsedd o’r Maen Llog ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron.

Dyma’r tro cyntaf iddo wneud hynny ers yr Eisteddfod yn Llanrwst yn 2019. Mi fuodd, serch hynny, yn arwain dirprwyaeth o’r Orsedd mewn seremonïau’n fyw o ganolfan ddarlledu’r BBC yng nghystadlaethau’r Goron, y Fedal Ryddiaith a’r Gadair yn rhan o’r Eisteddfod AmGen y llynedd, ond doedd y rheiny ddim yr un fath.