Mae cerddor o orllewin Iwerddon, sydd ar frig siartiau cenedlaethol ei wlad, ar daith o gwmpas gorllewin Cymru yr wythnos hon…

Mae Padraig Jack yn ganwr sy’n sgrifennu ac yn perfformio yn y Wyddeleg a’r Saesneg. Mae ei gân ddwyieithog newydd, ‘Making Sand’, yn boblogaidd iawn ymhlith pobol ifanc y Gaeltacht – y bröydd lle mae’r Wyddeleg yn cael ei gwarchod. Yr wythnos ddiwethaf, hon oedd y gân a gafodd ei chwarae fwyaf ar yr orsaf radio genedlaethol RTE.