Mae ysbryd datganoli yn fyw ac yn iach ym Mae Caerdydd, ac mae’n ymddangos mai megis dechrau mae cynlluniau Llywodraeth Cymru i sicrhau rhagor o bwerau.

Bythefnos yn ôl, amlinellodd Gweinidogion y Senedd elfennau craidd ar gyfer system gyfiawnder ddatganoledig.

Dyw hi ychwaith ddim yn gyfrinach fod Llywodraeth Cymru am weld pwerau dros blismona yng Nghymru cael eu trosglwyddo oddi wrth San Steffan.