Mae angen i ni roi mwy o gyfleoedd i dwristiaid ddod i’n hadnabod ni fel pobol, a chael blas ar werthfawrogi iaith, diwylliant a ffordd o fyw’r Gymru wledig.

Dyna farn tiwtor Cymraeg fydd yn rhannu “profiad gwirioneddol o fywyd yng nghefn gwlad Cymru” gydag ymwelwyr fel rhan o gwrs deuddydd ym mhentref Llanfrothen yng Ngwynedd.