Mae wedi bod yn gyfnod hectig i’r tîm pêl-droed cenedlaethol. Dyma argraffiadau Gwilym Dwyfor, aelod pybyr o’r Wal Goch sy’n mynd i Qatar ym mis Tachwedd…

Pum gêm mewn 14 diwrnod a lle yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf ers 64 blynedd, bu yn bythefnos hanesyddol i bêl-droed Cymru heb os. Mae fy ffleits wedi’u bwcio’n barod ac er y bydd dod o hyd i lety a sicrhau rhai o’r tocynnau prin i’r gemau yn fwy o sialens, mae meddyliau’r Wal Goch yn Qatar yn barod.