Mae’n amser pwyso a mesur. Cymryd anadl bach ac edrych yn ôl. Ychydig ddyddiau wedi methiant y bleidlais diffyg hyder, doedd cyn-Brif Weinidog Cymru ddim yn gweld llawer o obaith i un presennol y Deyrnas Unedig…

“Alla’ i ddim gweld sut y gall e barhau yn y swydd. Rhaid i Brif Weinidog gael awdurdod, urddas ac ymddiriedaeth. Maen nhw’n elfennau hanfodol o’r swydd ac mae’r Prif Weinidog wedi colli ar y tri chyfri’. Ac ynte yn y swydd ond heb rym, fe fydd y Prif Weinidog yma’n cario ymlaen cyhyd ag y gall e ac, ar adeg o argyfwng, mae hynny’n ddrwg i bawb.” (Carwyn Jones yn thenational.wales)

Ystyried un o’i ddatganiadau yr oedd John Dixon – awgrym Boris Johnson fod rhaid i bawb fyw’n llai bras…

“… ddylen ni ddim disgwyl i’n hincwm godi yn unol â chwyddiant; datganiad sydd i bob pwrpas yn dweud wrthon ni bod rhaid derbyn cwymp go-iawn yn ein safon byw. Bydd tynhau’r belt yn siŵr o edrych dipyn haws i rywun sydd â chartref gyda stoc o sawl math o fara [Rishi Sunak, y Canghellor] nag i un sy’n cael trafferth i brynu un dorth. Mae’r rhan fwya’ ohonon ni rhwng y ddau eitha’ yna, ond mae fel petai’r rhai sydd agosa’ at y pen ucha’ yn ei chael hi’n amhosib deall y pwysau ar y rhai yn is i lawr.” (borthlas.blogspot.com)

Mi allwch chi deimlo’r cynnwrf wrth i Dafydd Glyn Jones ail-fyw trefn newydd brutans-got-talent-aidd Eisteddfod yr Urdd o gyflwyno gwobrau. Mae’n ddramatig…

CYFLWYNYDD: Pwy sy wedi dod o hyd i’r Greal Sanctaidd, sef dirgelwch mwya’r greadigaeth? Wel, mi gawn ni wybod RŴAN !! [Drymiau] Yn drydydd …………. [saib hir], mae’r beirniaid yn gosod ……………….[saib hir iawn] ………………… SYR BWRT !!CEFNOGWYR: Waaaaaaa! CYFLWYNYDD: Waa! A llongyfarchiadau ichdi! Sut deimlad ydi dod i’r tri ucha? BWRT: Ameising!” (Glynadda.wordpress.com)

Mae awgrym Llywodraeth Cymru eu bod nhw eisio edrych ar broblem lobïo wedi rhoi cyfle i Royston Jones grisialu un o’i hoff bynciau a rhybuddio bod angen ateb arbennig i wlad y menig gwynion…

“Mewn gwledydd normal, gydag economïau normal, buddiannau busnes sy’n lobïo ac mae’n aml yn cynnwys cyfraniadau i bleidiau gwleidyddol. Mewn geiriau eraill: lobïo sy’n penderfynu pa gwmni neu gorfforaeth sy’n cael y cytundebau… yng Nghymru, mae lobïo ar ffurf crafu a pherswadio gan grwpiau pwysau sy’n rhannu agweddau gwleidyddol yr elît. Mae’r rhain yn mynnu cael deddfau sy’n ffafrio eu hachos, yn ogystal ag arian ac adnoddau cyhoeddus.” (jacothenorth.net)

Dim ond yn awr y mae Dic Mortimer yn dod tros ei hangofyr pêl-droedaidd ac yn ystyried addewid a wnaeth fwy na deng mlynedd yn ôl …

“… i gerdded yn noeth i lawr Clifton Steet yn bwyta pot nwdl tra’n canu ‘I Know an Old Lady who Swallowed a Fly’ pe bai Cymru fyth yn cyrraedd Cwpan y Byd. Gadewch i fi roi sicrwydd… fy mod yn ddyn sy’n cadw’i air ac y bydd hyn yn digwydd yr ha’ hwn (yn yr oriau mân ar ôl i’r tywydd gynhesu)…” (dicmortimer.com)