‘Miloedd o lyfrau o ddiddordeb Cymreig ar werth’. Dyna eiriau posteri’r Ffair Lyfrau sy’n dod i ganolfan Y Morlan yn Aberystwyth ddydd Sadwrn yma (Mehefin 25).
Nid yw’r Ffair wedi cael ei chynnal ers mis Mawrth 2019. Ffair Lyfrau cylchgrawn Y Casglwr yw hi, ar ran Cymdeithas Bob Owen. Dyma’r gymdeithas ar gyfer casglwyr a charwyr llyfrau Cymraeg a Chymreig a gafodd ei sefydlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1976, yn enw’r hanesydd a’r llyfrbryf enwog o Groesor.
Mae 24 o fyrddau wedi cael eu harchebu gan wahanol stondinwyr eleni, yn ôl y trefnydd Gwyn Tudur Davies, a fydd yn mynd â’i lyfrau ei hun yno i’w gwerthu.
Mae’n gwerthu llyfrau ail-law ar y cyd â dau hen gyfaill coleg iddo, Gwynedd Davies o Gwm-y-glo, a Rhun Jones o Faesteg.
Beth yw hud y Ffair Lyfrau Gymraeg, felly?
“Mi gewch chi lyfrau prin iawn, llyfrau hynafiaethol sy’n werth cannoedd, neu lyfrau gweisg preifat fel Gwasg Gregynog ac yn y blaen,” meddai Gwyn Tudur Davies wrth golwg360.
“Ond hefyd mi gewch chi bethau nad ydyn nhw’n werthfawr yn ariannol, ond sy’n anodd iawn eu cael. Hynny ydi, llyfrau hanes lleol yn aml iawn, a rhyw bamffledi ac effemera.
“Os oes yna rywun yn casglu mewn rhyw faes arbennig, neu â diddordeb mewn rhyw berson sydd wedi cael eu magu mewn rhyw bentref ac yn chwilio am ryw ddeunydd, mae o’n lle da i gael y math yna o bethau.”
Unwaith mae llyfr yn mynd allan o brint, maen nhw’n bethau anodd eu cael, meddai, ac mae’r ffair yn ffordd dda i chwilio amdano.
“Mae pobol yn prynu ar y we’r dyddiau yma, wrth gwrs, ond mewn ffair fel yna, neu siop lyfrau, rydach chi’n dod ar draws pethau eraill.
“Os ydych chi’n chwilio am ryw deitl penodol, mae’r we yn ffordd dda iawn ond os ydach chi eisio pori, beth well na ffair?”
Y llyfrbryfed brwd
Fe fydd y Ffair yn agor i’r cyhoedd am 10 o’r gloch y bore – ac fel pob ffair dda, mae’r prynwyr brwdfrydig yn dechrau’n fore.
“Rydan ni’n agor i stondinwyr am 8am, ac i’r cyhoedd am 10am,” meddai Gwyn Tudur Davies.
“Efo llyfrau allan o brint, yn aml iawn dim ond un copi sy’ yna, felly mae’r bobol sydd o ddifri yn ciwio am 10am i ddod mewn. Y tueddiad ydi ei bod hi’n rhyw brysur iawn am ryw ddwy awr ac wedyn mae hi’n tawelu wedyn.”
Mae’r ffair hefyd yn gweithio fel rhyw ffair fasnach, gyda rhai o’r stondinwyr yn prynu gan y stondinwyr eraill, yn ôl y trefnydd.
“Efallai bod yna stondinwyr yn casglu mewn rhyw faes arbennig,” meddai.
“Dw i’n gwybod bod yna un o Sir Fflint sy’n yn casglu lot fawr o bethau Thomas Pennant. Os oes gan ryw stondinwr arall rywbeth ar Thomas Pennant, maen nhw’n bargeinio.”
I bob oed
Mae rhywbeth i bob oed, ac mae denu’r “criwiau ifanc” yn bwysig, yn ôl Gwyn Tudur Davies.
“Mae’r pwyslais ar y we’r dyddiau yma, ond mae ffair lyfrau mor bwysig,” meddai.
“Efallai bod rhywun yn dod yna sydd heb brofi dim byd fel yna o’r blaen, ac yn gweld yr holl stwff gwahanol.
“Mae pobol yn rhyfeddu faint o bethau sy’ wedi eu cyhoeddi yng Nghymru weithiau.
“Mae yna bethau gwerthfawr ond mae pobol sy’n chwilio am nofelau Cymraeg sydd wedi mynd allan o brint, efallai am ryw bunt neu ddwy. Mae pobol yn cael yr un pleser o hynna.
“Mae yna ystod eang iawn o £1 i £1,000.”
Weithiau bydd diddordeb yn codi o’r newydd mewn hen lyfr, fel y digwyddodd gyda nofel Owain Owain o 1976, Y Dydd Olaf dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’r nofel honno bellach wedi cael ei hadargraffu.
“Mae yna bethau wedi cael eu cyhoeddi flynyddoedd yn ôl, ac yn sydyn mae pobol yn holi amdanyn nhw,” meddai Gwyn Tudur.
“A llyfrau plant – mae pobol yn chwilio am rywbeth o’u plentyndod eu hunain, a’r llyfr wedi mynd ar goll.
“Mae gennych chi feysydd arbennig – hanes lleol, llyfrau plant, llyfrau natur… mae chwaeth pawb yn wahanol.”
- Mae Ffair Lyfrau’r Morlan, Aberystwyth, yn digwydd ddydd Sadwrn yma, 25 Mehefin am 10am