Dychwelodd Gŵyl Tafwyl i Gastell Caerdydd dros y penwythnos (Mehefin 18 – 19) am ddau ddiwrnod o gerddoriaeth fyw, theatr, sgyrsiau difyr, comedi a gwledda.
Dyma rai o hoff luniau golwg360 o’r penwythnos…
Y ferch o Geredigion, Mari Mathias, yn pefformio ar lwyfan y Sgubor ddydd Sul. Llun: ffotoNant/Tafwyl
Buodd Yws Gwynedd yn perfformio un o’i gigiau cyntaf ers 2017 nos Sul gyda’r set yn cynnwys hen glasuron Frizbee a senglau diweddarach ‘Dau Fyd’. Llun: ffotoNant/Tafwyl
N’famady Kouyaté, y cerddor sy’n cyfuno bîts ac alawon Affricanaidd gyda’r iaith Gymraeg yn perfformio ar y Prif Lwyfan brynhawn Sadwrn. Llun: ffotoNant/Tafwyl
Un o’r artistiaid a wnaeth, o bosib, ddenu un o’r torfeydd mwyaf egnïol – Bwncath ar lwyfan y Sgubor nos Sadwrn. Llun: ffotoNant/Tafwyl
Buodd Tara Bandito yn cymysgu rhai o oreuon ei set Lleden gyda’i cherddoriaeth newydd dan yr enw Tara Bandito fel Blerr a Drama Queen. Llun: ffotoNant/Tafwyl
Barracwda, sy’n creu cerddoriaeth wedi’i hysbrydoli gan Frasil, yn diddanu’r rheiny a oedd yn cyrraedd Tafwyl ar Lwyfan y Porth. Llun: ffotoNant/Tafwyl
Un wyneb cyfarwydd yn ddiweddar ar ôl ei gân feiral, Rownd a Rownd, a’i gydweithrediad gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru ar y trac, ‘O Hyd’, yw Sage Todz. Fe wnaeth yr artist Dril Cymreig ymuno â Lloyd a Dom James ar y Prif Lwyfan. Llun: ffotoNant/Tafwyl
Sage Todz yn perfformio ‘Rownd a Rownd’ gyda Lloyd a Dom James. Llun: ffotoNant/Tafwyl
Torfeydd yn crwydro o amgylch y stondinau a’r llwyfannau. Llun: ffotoNant/Tafwyl
Y gantores werin, Meinir Gwilym, yn denu torf fawr ar lwyfan y Sgubor nos Sadwrn. Llun: ffotoNant/Tafwyl
Rhai o’r plant a oedd yn mwynhau doniau amrywiol y Prif Lwyfan dros y penwythnos. Llun: ffotoNant/Tafwyl