Mae Pawb Dan Un Faner Cymru wedi cyhoeddi rhagor o fanylion am yr orymdaith annibyniaeth yn Wrecsam ar Orffennaf 2.
Mae llu o weithgareddau wedi’u trefnu ar gyfer y penwythnos o dan yr enw ‘Indy Fest Wrecsam’, gyda’r orymdaith ei hun yn dechrau am 12 o’r gloch ar y dydd Sadwrn.
Mae gofyn i bawb sy’n cymryd rhan gyfarfod am 10.30yb, ac i ddod â baneri, drymiau ac offerynnau amrywiol.
Ar ôl yr orymdaith, bydd rali gyda siaradwyr a cherddoriaeth, a bydd sgriniau mawr ger y llwyfan, lle bydd Dafydd Iwan, Pol Wong o Indy Fest Wrecsam, y bardd ac ymgyrchydd Evrah Rose, y digrifwr Tudur Owen, y Cynghorydd Carrie Harper a’r Archdderwydd Myrddin ap Dafydd yn annerch y dorf.
Mae disgwyl i ragor o enwau gael eu cyhoeddi maes o law.
Ynghyd â’r orymdaith, bydd marchnad yn Sgwâr y Frenhines rhwng 9.30yb a 4yp, gyda thros 20 o stondinau yn cynnig bwyd, diod a chynnyrch lleol, gan gynnwys nwyddau i hyrwyddo annibyniaeth.
Ar y nos Wener a’r nos Sadwrn, bydd gigs yn Saith Seren, gyda Bryn Fôn yn canu ar y noson cyn yr orymdaith.
‘Pobol yn ysu am y cyfle i ddod at ei gilydd’
Dyma’r tro cyntaf i orymdaith gael ei chynnal ers y pandemig, ac mae’r trefnwyr yn dweud bod “pobol yn ysu am y cyfle i ddod at ei gilydd unwaith eto”.
“Roedd gorymdeithiau AUOBCymru dros annibyniaeth yn 2019 yn llwyddiant ysgubol, daeth miloedd i Gaerdydd, Caernarfon a Merthyr,” meddai llefarydd.
“Mae rhywbeth arbennig am ddod at ein gilydd i orymdeithio ac mae pobl yn ysu am y cyfle i ddod at ei gilydd unwaith eto.
“Mae gwirfoddolwyr grŵp ‘Indy Fest Wrecsam’ wedi gwneud gwaith anhygoel o defnu penwythnos cyfan o ddigwyddiadau dan amgylchiadau anodd oherwydd y pandemig – o Farchnad Annibyniaeth i gigs fydd yn cyd-fynd gyda’r orymdaith a’r rali.
“Rydym hefyd yn ddiolchgar i YesCymru am y gefnogaeth ariannol, yn ogystal ag i bawb sydd wedi cyfrannu ar-lein.
“Gobeithiwn y bydd pobol o bob rhan o Gymru yn dod i Wrecsam ar Orffennaf 2 ac y bydd yr Orymdaith dros Annibyniaeth yn Wrecsam gyda’r gorau eto!”
Mae Gorymdaith Annibyniaeth Wrecsam ar Orffennaf 2 yn cael ei threfnu mewn cydweithrediad rhwng AUOBCymru, Indy Fest Wrecsam ac YesCymru.