Mae ffoaduriaid o Wcráin wedi cael eu croesawu i Gymru gan y Prif Weinidog Mark Drakeford a’r Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt.
Fe wnaeth y gweinidogion gyfarfod â’r ffoaduriaid sy’n ceisio noddfa yng Nghymru ar Ddiwrnod Ffoaduriaid y Byd ddechrau’r wythnos (dydd Llun, Mehefin 20).
Bu Mark Drakeford a Jane Hutt yn ymweld â mwy na 200 o bobol yn y Ganolfan Groeso sydd wedi’u noddi dan gynllun Uwch-Noddwr Llywodraeth Cymru.
Mae miloedd o bobol eraill o Wcráin eisoes wedi hawlio noddfa yng Nghymru ar ôl ffoi o’r wlad yn sgil goresgyniad Rwsia, diolch i haelioni pobol sydd wedi gwirfoddoli i fod yn noddwyr.
Mae mwy na 6,500 o bobol wedi cael eu croesawu i Gymru wedi i’w ceisiadau am fisa gael eu cadarnhau, ac mae Llywodraeth Cymru yn uwch-noddwr i 3,600 ohonyn nhw.
Ynghyd â hynny, mae 5,500 o fisas eraill wedi cael eu cyhoeddi i bobol sydd â noddwyr yng Nghymru, ac mae Llywodraeth Cymru’n uwch-noddwr i 2,965 o’r rhain.
Er hynny, mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod y ffigurau gwirioneddol yn debygol o fod yn uwch.
Yn ystod eu cyfnod yn y Ganolfan Groeso, cafodd gwesteion gymorth o ran gwaith ysgol i blant a phobol ifanc, i oedolion ddod o hyd i waith, ac i gadw mewn cysylltiad â theuluoedd eraill o Wcráin sydd yng Nghymru.
Yn ogystal â gwersi Saesneg a Mathemateg i’r plant, cafodd oedolion wersi Saesneg er mwyn hybu eu cyfleoedd i ddod o hyd i waith.
Mae pob ymdrech yn cael ei wneud i gofrestru plant mewn ysgolion lleol pan fydd eu teuluoedd wedi dod o hyd i gymunedau addas i ymgartrefu ynddyn nhw, ac ar hyn o bryd mae Canolfannau Croeso ledled Cymru’n gweithio’n agos â llywodraeth leol, byrddau iechyd ac elusennau er mwyn dod o hyd i leoedd aros i’r ffoaduriaid ymgartrefu.
Maen nhw hefyd yn cael cyngor i’w cynorthwyo i ymgartrefu mewn gwlad newydd, gan gynnwys cymorth gydag arian a budd-daliadau lles.
‘Teimlo’n gartrefol’
Dywed Jane Hutt fod y llywodraeth yn falch eu bod nhw wedi gallu croesawu miloedd o bobol i Gymru o Wcráin a’i bod hi’n fraint cyfarfod â nhw a chlywed eu hanesion.
“Rydym yn benderfynol o fod yn Genedl Noddfa a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’w helpu i ailadeiladu eu bywydau ac ymgartrefu yng Nghymru,” meddai.
“Roeddem ni’n falch o weld yr ymdrech sy’n cael ei gwneud yn y Ganolfan Groeso i’w croesawu a gwneud iddyn nhw deimlo’n gartrefol a hoffwn ddiolch iddyn nhw am bopeth maen nhw wedi ei wneud.”
Dywed Mark Drakeford fod y llywodraeth yn “gweithio’n galed iawn gydag awdurdodau lleol ledled Cymru i ddod o hyd i leoliadau i bobol ar ôl eu cyfnod yn y Ganolfan Groeso”.
“Mae miloedd o aelwydydd yng Nghymru wedi dweud eu bod am gymryd rhan yn y cynllun Cartrefi i Wcráin ac mae nifer o’r rheini eisoes yn lletya pobol o Wcráin,” meddai.
“Hoffem ddiolch iddyn nhw am eu hymdrechion gan fod hynny, yn ogystal â’n Canolfannau Croeso ar draws Cymru, wedi bod o gymorth i ddarparu noddfa i’r rheini oedd mewn angen yn ystod cyfnod anodd iawn iddyn nhw.”