Fe chwaraeodd Virginia Crosbie, Aelod Seneddol Ynys Môn, i dîm pêl-droed merched Amlwch dros y penwythnos.

Roedd y tîm yn cystadlu mewn twrnament saith bob ochr, oedd yn cynnwys Llandudno, Pwllheli, Llangefni A, Llangefni B, Rhyl 1879 A, Rhyl 1879 B, Bangor 1876, Bangor dan 19 a Threarddur.

Fe wnaeth y tîm ddarganfod eu hunain â dim ond chwe chwaraewr, felly fe gamodd yr Aelod Seneddol Ceidwadol i’r adwy.

Aeth golwg360 ati, felly, i feddwl am adegau eraill pan fo gwleidyddion a phêl-droed wedi cymysgu.

Wedi’r cwbl, mae gan wleidyddion hanes o geisio defnyddio pêl-droed er mwyn rhoi hwb i’w poblogrwydd…

Felly, beth am gael cipolwg ar rai o’r achlysuron hynny?

Tony Blair a Kevin Keegan

Un o’r enghreifftiau amlycaf yw Tony Blair yn penio pêl yn ôl ac ymlaen gyda Kevin Keegan, rheolwr Newcastle United ar y pryd. A chwarae teg… doedd ei sgiliau ddim rhy ddrwg!

David Cameron – Aston Villa neu West Ham?

Fodd bynnag, nid pob gwleidydd sy’n gallu cynnal y ffasâd.

Pwy all anghofio David Cameron yn anghofio pa dim roedd e’n ei gefnogi yn ystod ymgyrch etholiadol 2015?

Ar ôl honni ei fod yn gefnogwr brwd o Aston Villa, dywedodd y cyn Brif Weinidog: “Fe allwch chi gefnogi Manchester United, y Windies [tîm criced India’r Gorllewin] a Thîm GB i gyd ar yr un pryd,” meddai.

“Byddai’n well gen i petai chi’n cefnogi West Ham.”

Aeth yn ei flaen i gywiro ei hun: “Rydw i yn cefnogi Villa, mae’n rhaid bod rhywbeth wedi dod drosta i bore ma!”

Theresa May a chrys… Gwlad Belg?!

Cyn-Brif Weinidog Ceidwadol arall gafodd brofiad anffodus oedd Theresa May, er nad oedd hi gyn waethed â’i rhagflaenydd!

Digwyddodd hyn ar ddechrau Uwchgynhadledd yr Undeb Ewropeaidd ym Mrwsel ar ddiwrnod gêm grŵp Cwpan y Byd Lloegr a Gwlad Belg 2018.

Cyflwynodd Prif Weinidog Gwlad Belg, Charles Michel, grys Gwlad Belg iddi hi i’w ddal i’r camerâu tra bod Emmanuel Macron, Arlywydd Ffrainc, yn chwerthin yn y cefndir.

Mae’n debyg bod tîm y Prif Weinidog wedi sylweddoli nad dyma’r ffordd orau o ddangos cefnogaeth i dîm Gareth Southgate, oherwydd fe ddiflannodd y crys yn reit gyflym.

Yn ddiweddarach fe ddychwelodd Theresa May gyda chrys Lloegr gan gyfeirio ato fel yr “Equaliser”.

Colli’r gêm 1-0 wnaeth Lloegr.

Marcus… neu Daniel Rashford?

Yn fwy diweddar, fe wnaeth y cyn-Ysgrifennydd Iechyd Matt Hancock alw Marcus Rashford yn Daniel Rashford.

Digwyddodd hyn yn ystod ymgyrch y pêl-droediwr i sicrhau prydau ysgol am ddim i blant difreintiedig.

Fe lwyddodd yr ymgyrch, gyda’r Llywodraeth yn cael eu gorfodi i wneud tro pedol ar y mater ym mis Tachwedd 2020.


“Cadw at y tenis o hyn ymlaen”

Sut hwyl gafodd Virginia Crosbie, sy’n dweud nad oes ganddi “ddim sgiliau pêl-droed”, felly?

“Roedd fy nghyd-chwaraewyr yn wych, roedden nhw’n help mawr ac yn glên iawn pan oeddwn i’n gwneud llanast o bethau,” meddai.

“Roedd y twrnament yn wych ac roedd pawb yn chwarae pêl-droed safonol, llawer iawn gwell na fi.

“Dw i’n meddwl y bydda i’n ymddeol o bêl-droed a chadw at y tenis o hyn ymlaen!”

Ychwanegodd Capten Tîm Pêl-droed Merched Amlwch, Carol Lewis ei bod hi’n “bleser croesawu Virginia i’n twrnament cyntaf ers rhai blynyddoedd”.

“Mae Virginia wedi bod yn gefnogwr brwd ac roedd yn braf gadael iddi wisgo’r crys a phrofi chwarae i Amlwch – chwarae teg iddi am gymryd rhan,” meddai.