Mae’r ddadl fod adweithyddion niwclear bychan yn cynnig ateb i newid hinsawdd yn “gamarweiniol iawn”, yn ôl y mudiad Cadno.
Wrth ymateb i’r cyhoeddiad fod Cwmni Egino yn cynllunio i gychwyn adeiladu adweithydd modiwlaidd bach (SMR) yn Nhrawsfynydd yn 2027, dywed Awel Irene ar ran grŵp Cadno ei fod yn codi gobeithion pobol leol.
Mae Awel Irene yn amau’n gryf na fydd unrhyw beth yn digwydd am o leiaf ddeng mlynedd gan nad oes yna gynlluniau yn eu lle ar bapur eto.
Dywed Cwmni Egino eu bod nhw am gael trafodaethau cychwynnol gyda phartneriaid posib yn y misoedd nesaf.
Mae gan Cadno, grŵp sy’n gwrthwynebu datblygiad SMRs yn Nhrawsfynydd, bryderon ynghylch diogelwch yr adweithydd, y gwastraff ymbelydrol, a phwy fyddai’n ysgwyddo’r baich ariannol hefyd.
“Rydyn ni’n teimlo bod y cyhoeddiad yma gan Egino yn trio gafael ar ryw fath o headline pan, go iawn, does yna ddim byd ar bapur,” meddai Awel Irene wrth golwg360.
“Does yna ddim SMR yn bod trwy’r byd, mae SMR yn rhywbeth ar bapur ers degawdau.”
Mae’r “modiwlaidd” yn yr enw’n golygu bod yr SMRs am gael eu hadeiladu mewn ffatrïoedd ymhell o Drawsfynydd, cyn cael eu gosod ar safle’r hen atomfa sy’n cael ei datgomisiynu ers 1995.
“Fydd y swyddi ddim byd tebyg i be’ oedd y swyddi yn y 1960au a’r 70au,” meddai Awel Irene wrth drafod hynny.
Ateb i newid hinsawdd?
Mae Cadno yn gwrthwynebu ar sawl sail, gan gynnwys yn sgil y cysylltiad rhwng ynni ac arfau niwclear – cysylltiad sydd wedi cael ei wneud yn “hollol glir” gan Rolls-Royce, sydd wrthi’n arwain consortiwm i ddatblygu SMRs.
“Roedden nhw’n dweud mai’r rhesymeg dros gadw’r diwydiant ynni niwclear oedd bod angen cadw’r skillset i’r diwydiant arfau niwclear,” eglura Awel Irene.
“Rydyn ni’n teimlo bod hyn yn hollol amhriodol pan mae angen buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy, hollol lân ac iach, a rhatach yn y diwedd.
“Mae defnyddio’r ddadl bod SMRs yn mynd i fod yn ryw ateb i newid hinsawdd, a rhoi dyddiad fel dechrau adeiladu’r SMRs mewn pum mlynedd, yn gamarweiniol iawn.
“Y ddadl o ran newid hinsawdd – mae trio portreadu’r diwydiant niwclear fel ateb i newid hinsawdd ddim yn cymryd mewn holl gadwyn wraniwm sy’n dod o lefydd lle mae gwrthdaro, fel y Congo a Namibia.
“Mae wâst yr SMRs yma, mae yna astudiaeth wedi cael ei wneud i dri chynllun SMRs gan Brifysgol Stanford yng Nghaliffornia ac maen nhw’n gweithio allan bod y wâst yn mynd i fod 35 gwaith yn fwy na fysa adweithydd arferol fel oedd gennym ni yn Traws o’r blaen… a dydyn ni ddim wedi sortio allan y wâst o Traws eto.
“Mae o yna ers 60 mlynedd heb ffeindio ateb i wâst y diwydiant.”
Ariannu?
Cwestiwn arall sydd gan Awel Irene yw pwy sydd am eu hariannu?
“Y cynllun busnes mae Llywodraeth [y Deyrnas Unedig] yn ei hybu ydy rhywbeth o’r enw RAB – Resource Asset Based. Be mae hwn yn feddwl ydy ein bod ni sy’n talu ein biliau trydan yn mynd i orfod talu am ddatblygu’r SMRs cyn eu bod nhw hyd yn oed yn cael eu rhoi at ei gilydd,” meddai.
“Dw i’n gweld bod hynny mor anfoesol ar gyfnod pan mae tlodi tanwydd a phobol yn stryglo efo talu eu biliau letrig…
“Fysa hi lot gwell insiwleiddio tai a rhoi pethau fel yr airforce heat pumps mewn tai sy’n golygu bod gan bobol lot mwy o reolaeth dros eu biliau eu hunain.”
‘Arbrawf’
Mae gan Cadno amheuon am ddiogelwch yr adweithyddion hefyd.
“Maen nhw’n trio dadlau bod yr SMRs ddim angen yr un lefel o ddiogelwch â gorsaf draddodiadol, maen nhw’n sôn bod yr ardal diogelwch jyst am fod yn ffens o amgylch [atomfa] Traws. Os oes yna ollwng ymbelydredd, mae o’n mynd i gario uwchben unrhyw ffens,” meddai Awel Irene.
“Yn barod, mae pobol yn poeni am lefel canser yn yr ardal, ac yn teimlo eu bod nhw’n defnyddio ni fel rhyw fath o arbrawf lle does yna neb arall yn fodlon cymryd SMRs. Os fysan nhw be oedden nhw fod, fysa hi’n well eu hadeiladu nhw wrth ymyl dinas, ond dydy neb eisiau un wrth ymyl dinas – technoleg dydyn nhw ddim wedi’i brofi’n barod.
“Dw i’n meddwl bod teimladau pobol am fod yn wahanol, mae Chernobyl a Fukushima wedi digwydd ers adeiladu Traws. Mae pobol lot mwy amheus ynglŷn â’r diwydiant niwclear.
“Mae o mor siomedig eu bod nhw’n codi gobeithion pobol mewn lle gwledig fel Meirionnydd sydd wirioneddol angen swyddi, ond nid swyddi sy’n fygythiad i iechyd pobol ac i’r ardal.”