Mae Ystad Bodior yn Rhoscolyn ar Ynys Môn ar werth am £7.75m ac yn cael ei disgrifio gan gwmni Savills fel “ystad arfordirol â ffrwd incwm amrywiol a llu o gyfleoedd cyfleusterau, hamdden ac amgylcheddol a thraethau”.

Dyma’r tro cyntaf i’r ystâd fod ar werth ers 60 mlynedd, ac mae modd prynu naill ai yr holl eiddo neu un rhan o dair.

Mae’r ystad yn ymestyn dros 639 erw ac yn cynnwys plasty Cofrestredig Gradd II ag 11 ystafell wely, fflat, cryn dipyn o dir ac adeiladau carreg allanol.

Mae’r eiddo’n cynnwys traeth preifat.

Hanes yr ystad

Mae modd olrhain yr ystad i’r unfed ganrif ar bymtheg, pan gafodd ei sefydlu gan ddisgynyddion Llywelyn Aurdorchog o Iâl yn Sir Ddinbych.

Cafodd yr ystad ei throsglwyddo o un genhedlaeth i’r llall, ac fe wnaeth John Hampton Henllys ei hetifeddu gan ailadeiladu’r plasty yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Pan fu farw John Hampton yn 1843, fe wnaeth ei fab John Lewis Hampton Lewis ei hetifeddu, ac yntau wedi priodi Frances Elizabeth Lanson, a chafodd yr eiddo ei hailddatblygu yn 1848.

Roedd y teulu Hampton-Lewis yn berchen yr ystad tan 1946 cyn iddi gael ei phrynu gan Bertram Bulmer, ac mae’r teulu’n dal yn berchen arni hyd heddiw.

‘Cynnig unigryw iawn’

“Mae Bodior yn gynnig unigryw iawn,” meddai Rhydian Scurlock-Jones, cyfarwyddwr cefn gwlad Savills.

“Mae ei safle arfordirol, sy’n agos i Roscolyn ddeniadol ar Ynys Gybi, yn golygu bod yna gyfleoedd cyfleusterau, hamdden ac amgylcheddol di-ben-draw.

“Dyma’r tro cyntaf iddi fod ar y farchnad ers y 1950au.

“Hefyd yn rhan o’r cynnig mae fferm, ffermdy pum ystafell wely ac ystod o adeiladau fferm, 312 erw o dir fferm gan gynnwys tir pori cynhyrchioli, 263 erw o goetir, ffermdy sengl tair ystafell wely, dau fwthyn, a phedwar tŷ a bwthyn arall sy’n cael eu defnyddio fel llety gwyliau ar hyn o bryd, gan gynhyrchu incwm ychwanegol.

“Mae cadwraeth wedi chwarae rhan fawr yn y ffordd y caiff Bodior ei rheoli a’i ffermio erioed, o ganlyniad i’w hamrywiaeth fawr o ran bywyd gwyllt.

“Yn hanesyddol, mae’r ystad wedi gwerthu ei chynnyrch cartref ei hun drwy siop fferm ar yr ystad, ond bellach mae’n ei werthu drwy brif frand archfarchnad ac yn cael pris premiwm am ei bridiau cynhenid.”

Mae modd cael rhagor o wybodaeth drwy fynd i’r wefan https://search.savills.com/property-detail/gblhralar220005