Mae disgwyl i Eluned Morgan gael ei cheryddu gan Aelodau’r Senedd ar ôl iddi gael ei gwahardd rhag gyrru am droseddau goryrru.

Cafodd yr Ysgrifennydd Iechyd ddirwy o £800 gan Lys Ynadon Yr Wyddgrug ym mis Mawrth a gwaharddiad rhag gyrru am chwe mis ar ôl pledio’n euog i oryrru.

Dyna oedd y pedwerydd tro iddi gael ei dal yn goryrru, yn dilyn troseddau blaenorol yn 2019, 2020 a 2021.

Heddiw (dydd Mercher, Mehefin 22), bydd Eluned Morgan yn wynebu pleidlais o gerydd yn y Senedd, a bydd hi’n cael y cyfle i ymddiheuro wrth ei chyd-aelodau.

Yn ogystal â’r ymddiheuriad disgwyliedig heddiw, mae Eluned Morgan eisoes wedi ymddiheuro wrth y Prif Weinidog, y Llwydd a’r pwyllgor.

Roedd y bleidlais yn un o argymhellion Pwyllgor Safonau’r Senedd, sy’n cynnwys aelodau o bob un o’r tair prif blaid yn Senedd Cymru: Llafur, y Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru.

Er i’r pwyllgor argymell pleidlais o gerydd, doedden nhw ddim yn credu bod angen ei gwahardd o’r siambr.

Ym mis Mai, dywedodd Mark Drakeford na fyddai’n cymryd unrhyw gamau pellach yn erbyn ei Ysgrifennydd Iechyd er ei fod yn cydnabod nad oedd hi wedi cyrraedd y safonau uchel roedd yn ei ddisgwyl ganddi.

‘Mater difrifol’

Yn eu hadroddiad, dywedodd y pwyllgor fod “derbyn gwaharddiad gyrru a dirwy am droseddau goryrru yn fater difrifol”.

“Mae nifer y troseddau dros gyfnod cymharol fyr, a arweiniodd at y gosb hon, yn dangos patrwm ymddygiad sy’n is na’r safon a ddisgwylir gan Aelod o’r Senedd,” meddai.

“Wrth ddod i’w penderfyniad, ystyriodd y Pwyllgor y ffaith bod yr Aelod wedi pledio’n euog i’r drosedd a’i bod eisoes wedi cael ei dedfrydu gan y Llys.

“Ystyriodd y Pwyllgor hefyd fod yr Aelod dan sylw wedi ymddiheuro wrth y Prif Weinidog, y Llywydd a’r Pwyllgor am ei hymddygiad.”

‘Gosod esiampl wael’

Roedd adroddiad y pwyllgor yn seiliedig ar ganfyddiadau’r Comisiynydd Safonau Douglas Bain, a gafodd y dasg o ystyried a oedd Eluned Morgan wedi torri cod ymddygiad yr aelodau ai peidio.

Ym mis Ebrill ysgrifennodd: “Er y byddai rhai o’r farn nad yw’r drosedd hon yn arbennig o ddifrifol, mae nifer y troseddau dros gyfnod cymharol fyr, a arweiniodd at yr euogfarn hon, yn dangos patrwm ymddygiad sy’n is na’r safon a ddisgwylir gan Aelod o’r Senedd.

“Roedd ei hymddygiad hefyd yn gosod esiampl wael iawn i eraill, ac rwy’n fodlon ei fod wedi torri’r Egwyddor Arweinyddiaeth.”

Mark Drakeford yn amddiffyn Eluned Morgan yn sgil sgandal oryrru

“Rwyf wedi delio gyda’r mater o dan y cod gweinidogol ac mae ar gau”

Eluned Morgan wedi’i gwahardd rhag gyrru am chwe mis

Mae’n debyg ei bod wedi cael ei gwahardd wedi iddi groesi’r trothwy pwyntiau ar ei thrwydded