Mae hyfforddwr ffitrwydd wnaeth achub bywyd ei gleient ar ôl iddo gael ataliad y galon yn annog pobol eraill i ddysgu sgiliau CPR a diffibrilio.

Fe wnaeth Kyle Baggett, sy’n wreiddiol o Lanfair-ym-muallt, roi CPR i John Rawlins, cyn-ddarlithydd chwaraeon o Fachen, yng nghampfa David Lloyd yng Nghaerdydd ym mis Rhagfyr 2020.

Mae’r ddau, yn ogystal â theulu John, eisiau annog pobol dros Gymru i weithredu’n gyflym a rhoi CPR os ydyn nhw mewn sefyllfa debyg.

Bob blwyddyn, mae tua 6,000 achos o ataliad y galon yn digwydd tu allan i’r ysbyty yng Nghymru.

Mae Achub Bywyd Cymru, sefydliad cenedlaethol sy’n ceisio cynyddu cyfraddau goroesi ataliad y galon, wedi ymrwymo i wella’r siawns i bobol sy’n dioddef ataliad y galon yn y gymuned oroesi drwy roi cyfle i bobol yng Nghymru ddysgu sgiliau CPR sy’n achub bywydau.

“Roedd hi’n ddydd Iau arferol yn y gwaith,” meddai Kyle Baggett, sy’n 26 oed.

“Roeddwn i’n arwain dosbarth ffitrwydd fel unrhyw ddiwrnod arall, pan redodd un o’n haelodau ataf i ddweud bod argyfwng ar lawr y gampfa.

“Es i yno ar frys a gweld John (Rawlins) yn gorwedd ar y llawr gydag aelodau eraill o’r gampfa o’i gwmpas. Yn syth, roeddwn i’n gwybod fod y sefyllfa yn un ddifrifol.

“Roedd rhaid i ni weithredu’n gyflym gan ein bod yn gwybod mai dyma ei unig siawns i oroesi. Dechreuodd un o’r aelodau roi CPR wrth i mi ruthro i nôl y diffib.

“Fe wnaethon ni ffonio’r gwasanaethau brys yn syth ac fe wnaethon nhw ein harwain drwy’r cyfan.

“Rydw i wedi cael hyfforddiant CPR, ond pan rydych chi yn ei chanol hi, mae’n hawdd iawn anghofio pethau.

“Roedd y gwasanaeth ambiwlans yn wych – yn ddigynnwrf, yn glir ac yn fanwl, gan esbonio’n union beth oedd yn rhaid i ni ei wneud.

“Roedd fy meddwl ar ras. Ymgollais fy hun yn llwyr yn y foment gan ganolbwyntio’n llwyr ar y dasg o’m mlaen. Roeddwn i eisiau achub ei fywyd.”

‘Camau hanfodol’

Cafodd John Rawlins ei ruthro i Ysbyty Athrofaol Cymru lle cafodd e driniaeth.

“Roeddwn i’n ddyn gweddol ffit, ac yn mwynhau beicio a mynd ar deithiau cerdded hir,” meddai.

Doedd e ddim yn ymwybodol fod ganddo fe unrhyw broblemau iechyd sylfaenol cyn y digwyddiad.

“Roeddwn i’n cael fy adnabod fel rhyw fath o ‘gym junkie’ hefyd,” meddai.

“Ar fore’r digwyddiad, es i i’r gampfa yn teimlo’n ffit ac yn iach, yna’r peth nesaf roeddwn ni’n deffro yn yr ysbyty chwe wythnos yn ddiweddarach.

“Does gen i ddim cof o’r digwyddiad.

“Alla i ddim dychmygu sut oedd Kyle yn teimlo. Fe wnaeth ei waith chwim gyda’r diffib ailgychwyn fy nghalon, gan fy ngalluogi i gyrraedd yr ysbyty mewn pryd.

“Roedd y camau cyntaf hanfodol hynny wedi gwneud byd o wahaniaeth.

“Mae 18 mis wedi mynd heibio bellach ac rwy’ wedi gwella’n rhagorol.

“Rydw i nawr yn gallu mwynhau bywyd gyda fy ngwraig, Anne. Rydyn ni wrth ein bodd yn cerdded, ac yn gallu gwylio ein hwyresau’n tyfu i fyny.

“Mae bywyd yn grêt.”

Mae Ann, gwraig John, wedi bod yn egluro pwysigrwydd gweithredu cyflym Kyle wrth achub bywyd ei gŵr.

‘Annog i weithredu’

Pe na bai Kyle Baggett wedi gweithredu’n gyflym y diwrnod hwnnw, mae John Rawlins yn sicr y byddai wedi marw.

“Dydych chi byth yn gwybod beth sydd o’ch blaenau,” meddai.

“Os ydych chi mewn sefyllfa lle mae angen i chi weithredu’n gyflym a rhoi CPR, does gennych chi ddim byd i’w golli.

“Byddwn yn annog unrhyw un sydd mewn sefyllfa debyg i weithredu, gan y gallai fod y gwahaniaeth rhwng byw a marw.

“Mae’r camau’n syml – ffoniwch 999, dechreuwch roi CPR ac anfonwch rywun i nôl y diffib.

“Mae pobol yn poeni weithiau y byddan nhw’n achosi mwy o niwed.

“Torrodd y CPR a’r diffib fy asennau, ond i mi, nid yw hynny’n ddim o’i gymharu â bod yma heddiw gyda fy nheulu.”

Mae’r ddau wedi dod yn ffrindiau bellach, a dywed Kyle Baggett fod gweld John Rawlins yn gwneud cystal yn “rhyddhad mawr”.

“Gall ataliad y galon ddigwydd i unrhyw un, mewn unrhyw le, ar unrhyw adeg,” meddai.

“Mae tua 80% ohonynt yn digwydd yn y cartref, i’ch anwyliaid, ac efallai mai eich gweithredoedd chi yw’r gwahaniaeth rhwng byw a marw.

“Hyd yn oed os byddwch yn dysgu’r sgil unwaith, gall eich paratoi i achub bywyd rhywun.”

Beth i’w wneud os bydd rhywun yn cael ataliad ar y galon?

Mae pedwar cam hanfodol i’r gadwyn oroesi:

  1. Adnabod yr arwyddion yn gynnar a galw am gymorth – ffonio’r gwasanaethau brys yw’r cam cyntaf hollbwysig.
  2. CPR cynnar – bydd y gwasanaethau brys yn trafod hyn gyda chi.
  3. Diffib cynnar – bydd y gwasanaethau brys yn eich helpu i ddod o hyd i un.
  4. Gofal ar ôl dadebru – bydd y gwasanaeth ambiwlans yn mynd â’r claf i’r ysbyty i gael gofal meddygol.