Mae Liz Saville Roberts yn galw am Fil Hawliau Dynol Cymreig i wrthsefyll ymosodiadau gan y sefydliad yn Llundain, gan gynnwys ar ddatganoli.

Roedd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan yn ymateb i gynlluniau Dominic Raab i ddileu’r Ddeddf Hawliau Dynol a lleihau grym Llys Hawliau Dynol Ewrop.

Yn ôl Liz Saville Roberts, mae’r Ddeddf Hawliau Dynol “yn rhan uniongyrchol o wead setliad cyfansoddiadol Cymru”, ac fe wnaeth hi annog Dominic Raab i roi sicrwydd y byddai’n ceisio cydsyniad y Senedd ar gyfer y cynlluniau.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dweud y byddan nhw’n ymchwilio i’r posibilrwydd o ymgorffori Confensiynau’r Cenhedloedd Unedig yng nghyfreithiau Cymru “a allai, o bosib, arwain at Ddeddf Hawliau Cymreig”.

Mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan yn ddweud na ddylid gwastraffu amser cyn creu’r ddeddfwriaeth, ochr yn ochr â datganoli cyfiawnder “yn ei gyfanrwydd”.

‘Tanseilio ymdrechion i hybu hawliau dynol a chydraddoldeb’

“Wrth ddileu’r Ddeddf Hawliau Dynol, nid yn unig mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn diystyru hawliau dynol byd-eang hanfodol mewn ffordd ddidrugaredd, ond datganoli yng Nghymru hefyd,” meddai Liz Saville Roberts wrth annerch San Steffan a Dominic Raab.

“Mae’r Ddeddf Hawliau Dynol yn rhan o wead uniongyrchol setliad cyfansoddiadol Cymru.

“Bydd newidiadau i’r Ddeddf yn tanseilio ein hymdrechion i hybu hawliau dynol a chydraddoldeb.

“Pan, nid os, fydd Cymru’n gwrthod caniatâd deddfwriaethol i’r erydu hwn o hawliau dynol, a fydd e’n defnyddio tactegau bwlio cyfreithiol i sathru ar ein democratiaeth hefyd?”

“Na, wrth gwrs na fydda i, Mr Llefarydd,” meddai Dominic Raab wrth ymateb.

‘Cynyddol ddigywilydd’

“Mae’r Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan yn dod yn gynyddol ddigywilydd yn eu hymosodiadau ar ein hawliau sylfaenol,” meddai Liz Saville Roberts wedi’r sesiwn.

“Mae’n hanfodol wrth ymateb i’r ymosodiadau hyn ein bod ni’n dechrau ar raglen o gryfhau’r fframwaith hawliau dynol yng Nghymru, fel sy’n digwydd yn yr Alban.

“Ddylai Llywodraeth Cymru ddim gwastraffu unrhyw amser cyn creu Bil Hawliau Cymreig sy’n ymgorffori cyfreithiau hawliau dynol rhyngwladol yn fwy uniongyrchol.

“Rhaid gwneud hyn ochr yn ochr â datganoli cyfiawnder yn ei gyfanrwydd fel y gallwn ni gynnal, gweithredu’n well ac ehangu ar hawliau dynol byd-eang yng Nghymru.”

Unrhyw sôn am adael y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn “beryglus a phryderus”

Cadi Dafydd

Sioned Williams, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, am weld Mesur Hawliau Dynol Cymreig er mwyn “creu amddiffyniad a chymdeithas fwy teg”