Mae 46% o bobol yng Nghymru yn awyddus i weld y teitl Tywysog Cymru yn cael ei drosgwlyddo i’w olynydd pan fydd Tywysog Charles yn dod yn Frenin Lloegr.

Does neb wedi bod yn Dywysog Cymru am fwy o amser na Charles – 64 mlynedd fis nesaf.

Tywysog William sydd nesaf yn y llinach, ac yna ei fab yntau, Tywysog George.

Fodd bynnag, mae’r teitl Tywysog Cymru o fewn teulu brenhinol Lloegr yn un dadleuol yng Nghymru erioed.

Wedi’r cwbl, cafodd tywysog brodorol diwethaf Cymru ei lofruddio gan luoedd Brenin Lloegr bron i 750 o flynyddoedd yn ôl.

Yn y 1960au, sbardunodd y syniad o Dywysog Cymru newydd a seremoni arwisgo yng Nghastell Caernarfon brotestiadau, a chynllwyn hyd yn oed i ymosod ar yr arwisgiad gyda bom.

Arolwg

Felly sut mae’r Cymry’n teimlo am Dywysog Cymru newydd ar ôl Charles?

Fe wnaeth arolwg diweddaraf ITV Cymru YouGov holi pobol a ydyn nhw’n credu y dylai’r teitl Tywysog Cymru barhau ar ôl i Charles ddod yn Frenin.

Roedd 46% o’r rheini atebodd yn credu y dylai’r teitl barhau ar ôl Charles, tra bod 31% yn erbyn, a 23% yn ansicr.