Mae gwasanaeth iechyd meddwl newydd wedi cael ei lansio ar gyfer pob myfyriwr sy’n byw yng Nghaerdydd.

Nod Gwasanaeth Cyswllt Iechyd Meddwl y Prifysgolion (MHULS) yw ateb i’r galw a’r risg gynyddol sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl myfyrwyr.

Mae’r ddarpariaeth newydd gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar gael i bawb sy’n astudio yn un o brifysgolion y brifddinas, a’r gobaith yw y bydd yn pontio’r bwlch yn y cymorth iechyd meddwl sydd ar gael i fyfyrwyr.

Caiff y gwasanaeth ei anelu at fyfyrwyr â phroblemau iechyd meddwl cymedrol neu faterion iechyd meddwl mwy cymhleth a hirsefydlog.

Mae clinigwyr y Gwasanaeth Iechyd yn rhan o dîm MHULS, a thrwy’r gwasanaeth gall myfyrwyr gael eu hasesu, eu hatgyfeirio, a’u harwain at wasanaethau’r Gwasanaeth Iechyd.

Dywedodd un myfyriwr sydd wedi defnyddio’r gwasanaeth ers iddo gael ei gyflwyno ym mis Ebrill, fod yna “bobol yno sy’n gwrando”.

‘Cymorth gorau posibl’

Dywedodd Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Phrofiad Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, eu bod nhw’n “hynod falch” o fod yn rhan o’r prosiect er mwyn “gwella gallu ein myfyrwyr i gyrchu cymorth ar gyfer iechyd meddwl”.

“Gan weithio gyda darparwyr iechyd a phrifysgolion eraill ledled rhanbarth Caerdydd, rydyn ni eisiau sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y cymorth gorau bosibl ar gyfer pa anawsterau bynnag y maen nhw’n eu hwynebu, a bod y gwasanaeth yn un di-dor ac mor ddi-straen â phosibl,” meddai Claire Morgan.

“Braf iawn yw gweld bod ein myfyrwyr eisoes yn sôn yn gadarnhaol am eu defnydd o’r gwasanaeth hwn a’u bod yn teimlo eu bod yn cael eu deall a’u cefnogi.”

‘Sicrhau addysg dda’

Cafodd y gwasanaeth ei lansio’n swyddogol yn y Senedd neithiwr (Mehefin 21), a dywedodd Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant Cymru, Lynne Neagle, bod gan bawb yr hawl i brofiad addysg hapus.

“Rwyf yn falch o weld lansiad swyddogol Gwasanaeth Cyswllt y Prifysgolion ar gyfer Materion Iechyd Meddwl, sydd eisoes yn gwneud gwahaniaeth i fywydau myfyrwyr yng Nghaerdydd,” meddai Lynne Neagle.

“Mae cefnogi iechyd meddwl a lles myfyrwyr yn hanfodol i sicrhau eu bod yn cael addysg dda, ac mae’n wych gweld partneriaid yn cydweithio i gyflawni hynny.”

‘Canlyniadau cadarnhaol’

Datblygwyd y cynllun peilot gan Bartneriaeth Iechyd Meddwl De-ddwyrain Cymru, a’r aelodau yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, Prifysgol De Cymru, a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Mae cam un y cynllun peilot ar gael i fyfyrwyr dros 18 oed sy’n astudio yn un o’r sefydliadau hyn ac sy’n byw yn nalgylch Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Ar gyfer y myfyrwyr hynny sy’n byw y tu allan i ardal Caerdydd mae’r prosiect yn gwella’i gysylltiadau â byrddau iechyd cyfagos gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, a’r nod yw gwella’r gallu i atgyfeirio myfyrwyr at y gwasanaethau iechyd meddwl priodol yn ôl eu hanghenion.

Dywedodd Carolyn Donoghue, Cadeirydd Partneriaeth Iechyd Meddwl de-ddwyrain Cymru, bod y bartneriaeth wedi dod â nifer o sefydliadau sy’n gweithio’n ddiflino i wella iechyd meddwl myfyrwyr ynghyd.

“Mae cydweithio a chyfathrebu rhagorol ar draws pob un o’r partneriaid wedi arwain at greu gwasanaeth cyswllt peilot y Prifysgolion o ran iechyd meddwl, ac eisoes mae’r canlyniadau wedi bod yn gadarnhaol ar gyfer y myfyrwyr yn ystod y camau cynnar iawn hyn,” meddai Carolyn Donoghue.

“Mae’r ymrwymiad a’r penderfynoldeb i gyflawni nodau’r prosiect yn llwyddiannus wedi bod yn ysbrydoledig ac rwy’n hynod falch o’r gwaith a wnaed hyd yma a’r cynlluniau ar gyfer y dyfodol.”