Mae Aelod o’r Senedd Ynys Môn wedi beirniadu cwmni datblygu tai ar ôl iddyn nhw ddweud eu bod nhw wedi “ailenwi” eiddo.
Yn ôl Anglesey Homes, maen nhw wedi ailenwi eu heiddo yn Gwel-yr-Wyddfa ym mhentref Llanfaelog yn 9 Sandy Retreat.
Mae’r cyhoeddiad gan y datblygwyr wedi derbyn beirniadaeth ar y cyfryngau cymdeithasol, ac wrth ymateb dywedodd Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd Plaid Cymru: “Efallai y gallwch chi esbonio beth sy’n digwydd yn fan hyn?
“Yr eiddo hwn yw 9 Gweld yr Wyddfa, ac rydych chi wedi’i newid i 9 Sandy Retreat, do?
“Ydy dileu iaith a diwylliant Cymru’n rhan o’ch cynllun busnes?
Aiff yn ei flaen i dynnu sylw at drydariad arall gan y cwmni sy’n cyfeirio at draeth Llanddwyn fel “Newborough Beach”.
“Does yna ddim y fath le â Newborough Beach. Ei enw yw Llanddwyn.”
Hi @AngleseyHomes. Perhaps you could explain what's happening here. This is a property at 9 Gwel yr Wyddfa, which you've now changed to 9 Sandy Retreat, yes? Is erasing the Welsh language/culture a part of your business plan? https://t.co/5lVArDItPJ
— Rhun ap Iorwerth (@RhunapIorwerth) June 22, 2022
Mae Dirprwy Arweinydd Cyngor Môn, Carwyn Jones, wedi beirniadu’r cwmni hefyd gan ofyn: “Pam ar wyneb y ddaear fysa chi eisiau gwneud hynna?”
‘Un enghraifft’
Un enghraifft yn unig o blith nifer yw hon, “yn anffodus”, meddai Jeff Smith, cadeirydd grŵp cymunedau Cymdeithas yr Iaith wrth golwg360.
“Gallai’r Llywodraeth atal hyn rhag digwydd trwy gynllun i atal newid enw tŷ neu dir. Mae galwadau o sawl cyfeiriad arnyn nhw i ddiogelu enwau lleoedd,” meddai Jeff Smith.
“Mae hyn hefyd yn taro goleuni ar broblemau tai mewn ardaloedd twristaidd, mae rhwydd hynt i gwmnïau brynu tai fel y mynnant a’u rhentu fel tai gwyliau er mwyn gwneud elw, tra bod pobl leol fyddai’n llai tebygol o newid enw tŷ, yn methu fforddio cartref o gwbl.
“Mae angen Deddf Eiddo fydd yn sicrhau cartref i bobl leol. Byddwn ni’n cynnal rali fawr ar faes yr Eisteddfod i fynnu Deddf Eiddo.
“Bydd Walis George, oedd yn rhan o’r ymgyrch am ddeddf Eiddo yn y 1980au yn siarad, ac yn dweud bod amser Ddeddf Eiddo wedi dod.”
Bydd rali Nid yw Cymru ar Werth yn cael ei chynnal tu allan i stondin Cymdeithas yr Iaith yn Nhregaron ar ddydd Iau yr Eisteddfod (Awst 4) am 2yh.
9 Sandy Retreat
Yn eu trydariad, dywedodd Anglesey Homes: “Rydyn ni wedi ailenwi ein heiddo yn Gwel-yr-Wyddfa!
“Mae e nawr yn cael ei adnabod fel 9 Sandy Retreat – ar gael i wyth ymwelydd, yn derbyn anifeiliaid, ac ym mhentref hyfryd Llanfaethlog.”
Ar wefan y cwmni, mae’r eiddo’n cael ei restru fel ‘9 Gwel-yr-Wyddfa’ yn dal i fod.
Ymateb Anglesey Homes
“Ar Fehefin 20, 2022, fe wnaethon ni gyhoeddi gwybodaeth ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol ein bod ni wedi ailenwi ein heiddo Gwel-yr-Wyddfa,” meddai Anglesey Homes mewn datganiad pellach.
“Hoffem ymateb i hyn yn y datganiad isod.
“Cafodd datblygiad Gwel-yr-Wyddfa ei gwblhau gan Anglesey Homes yn 2019.
“Wrth gydweithio â Chyngor Ynys Môn a’r partïon/grwpiau lleol swyddogol, cytunwyd a gweithredwyd ar yr enw ‘Gwel-yr-Wyddfa’ fel enw’r datblygiad ac enw’r stryd.
“Rydym yn falch iawn o’r enw a’r datblygiad rydym wedi’i greu.
“I fynd i’r afael â’r camddealltwriaeth uchod, cafodd pob un o’r naw eiddo yn natblygiad Gwel-yr-Wyddfa eu gwerthu i drydydd partïon a chafodd y tŷ dan sylw ei werthu’n breifat hefyd i drydydd parti.
“Mae perchnogion yr eiddo yma wedi penderfynu’n annibynnol i osod plac ar eu cartref ‘Sandy Retreat’ yn ogystal â’u cyfeiriad swyddogol, sydd yn aros yr un fath ac a fydd bob amser yn ‘Gwel yr Wyddfa’.
“Maen nhw wedi rhoi’r enw hwn ar eu cartref gan eu bod nhw’n teimlo o ran y golygfeydd anhygoel o Eryri, dafliad carreg o draethau hyfryd, y gymuned hyfryd a’r amgylchfyd, fod y tŷ yn ddihangfa iddyn nhw.
“Fel perchnogion yr eiddo, mae ganddyn nhw’r hawl fel unrhyw un arall i osod plac ar eu heiddo a rhoi enw arno.
“Ond dydy hyn ddim yn effeithio o gwbl ar gyfeiriad y datblygiad na’r stryd sydd yn dwyn yr enw balch ‘Gwel-yr-Wyddfa’ o hyd.”