Mae’r Ysgrifennydd Iechyd Eluned Morgan wedi cael cerydd swyddogol gan Senedd Cymru.
Daw hyn ar ôl iddi dorri cod ymddygiad Aelodau o’r Senedd.
Roedd y pwyllgor safonau ymddygiad wedi argymell y cerydd wedi iddi gael ei gwahardd rhag gyrru am chwe mis a dirwy o £800 gan Lys Ynadon Yr Wyddgrug.
Dyna oedd y pedwerydd tro iddi gael ei dal yn goryrru, yn dilyn troseddau blaenorol yn 2019, 2020 a 2021.
Cafodd y cynnig i gymeradwyo’r argymhelliad ei basio yn ddiwrthwynebiad yn y siambr brynhawn heddiw (dydd Mercher, Mehefin 22).
‘Embaras’
Yn y siambr, ymddiheurodd Eluned Morgan am ei hymddygiad ac am “unrhyw embaras dw i wedi achosi i’r sefydliad”.
“Dwi’n ymwybodol o’r cyfrifoldeb sydd arnon ni i gyd fel aelodau i arwain trwy esiampl a dwi’n derbyn nad wyf fi wedi cadw at y safonau sy’n ofynnol ohonon ni yn yr achos yma,” meddai.
“Dw i’n ymddiheuro i chi fel aelodau, ac i bobol Cymru, am y sefyllfa anffodus dwi wedi gosod fy hun ynddi.
“Mae’n flin gen i am unrhyw embaras dw i wedi achosi i’r sefydliad, ac i unrhyw un sydd wedi dioddef fel canlyniad i fy ngweithredoedd.
“Dwi’n cadarnhau fy mod wedi pledio yn euog i’r cyhuddiad o oryrru a dwi wedi derbyn dyfarniad y llys.”